Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae'n bleser gennyf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau ynglŷn â pheilot ymateb Cynorthwywyr Cwympiadau Ymddiriedolaeth y GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, yn dilyn sylwadau a godwyd yn ystod Cwestiynau Busnes ar 8 Ionawr 2019.

Mae dros 10% o'r holl alwadau sy'n cael eu derbyn gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru yn alwadau ar gyfer pobl sydd wedi cwympo, ac yn 2017/18 cafodd yr Ymddiriedolaeth dros 62,000 o alwadau yn ymwneud â chwympiadau, ac arweiniodd 50% o'r rhain at daith i'r ysbyty.

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi datblygu Fframwaith Cwympiadau a Model Ymateb i Gwympiadau i'w alluogi i ddarparu ymateb holistaidd i gwympiadau, o waith atal i leihau'r risg o niwed pellach a achosir gan gyfnodau estynedig ar y llawr yn aros am ambiwlans.

Daeth y peilot ymateb Cynorthwywyr Cwympiadau yn gwbl weithredol ar 1 Rhagfyr 2018, wedi'i gefnogi gan £140,000 o gyllid Llywodraeth Cymru, ac mae'n rhan o Fodel Ymateb i Gwympiadau'r Ymddiriedolaeth. Prif amcan y cynllun peilot oedd gwella profiad cleifion sydd wedi cwympo ond nad ydynt wedi brifo, neu wedi cael mân anafiadau yn unig, gan sicrhau eu bod yn cael ymateb prydlon ac atal yr angen i dderbyn unigolion i'r ysbyty heb fod angen.

Mae cyfanswm o chwe uned Cynorthwywyr Cwympiadau wedi bod yn gweithredu 12 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos yn ardaloedd byrddau iechyd Caerdydd a'r Fro, Cwm Taf Morgannwg, Hywel Dda, Aneurin Bevan a Bae Abertawe fel rhan o'r cynllun peilot, er mwyn ateb amryw o alwadau yn y categorïau Oren a Gwyrdd.

Rhwng 1 Hydref 2018 a 31 Mawrth 2019, ymatebodd y Cynorthwywyr Cwympiadau i 1776 o alwadau yn ymwneud â chwympiadau neu alwadau eraill yn ymwneud â lles, gan ryddhau adnoddau ambiwlans i ymateb i alwadau â blaenoriaeth uwch. O'r rhain, nid oedd rhaid i 65% o’r cleifion fynd i'r ysbyty gan iddynt gael eu hatgyfeirio i feysydd iechyd a gofal cymdeithasol eraill neu oherwydd bod yr achos wedi ei gau yn y fan a’r lle yn dilyn triniaeth. 

Yr amser ymateb ar gyfartaledd ar ôl neilltuo'r alwad oedd 24 munud, a threuliodd y Cynorthwywyr Cwympiadau un awr a 27 munud ar gyfartaledd yn y lleoliad yn cynnal asesiadau, yn atgyfeirio, yn cynorthwyo'r claf i godi o'r llawr ac yn gwneud yn siŵr bod ganddynt bopeth sydd ei angen arnynt i aros adref yn ddiogel.

Mae adborth cynnar gan gleifion wedi bod yn gadarnhaol iawn, gyda 95% yn rhoi gwybodaeth gadarnhaol am brydlondeb ac yn nodi bod y gwasanaeth wedi diwallu eu disgwyliadau. Yng nghyfarfod y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys ar 27 Mawrth, cytunwyd y bydd y cynllun peilot yn cael ei ymestyn am dri mis arall i roi amser i gynnal gwerthusiad i hysbysu ystyriaeth ynglŷn â darpariaeth y gwasanaeth i'r dyfodol. 

Mewn cynllun arall a gefnogwyd gyda'r cyllid a oedd ar gael dros gyfnod y gaeaf, mae cannoedd o offer aer, a adeiladwyd yng Nghymru, ar gyfer codi a symud unigolion, wedi'u darparu i gartrefi gofal i gynorthwyo pobl sydd wedi cwympo. Law yn llaw â hynny, darparwyd pecyn hyfforddi i staff cartrefi gofal i gefnogi eu dealltwriaeth o sut i atal cwympiadau ac ymdopi â phobl sydd wedi cwympo.

Bwriad y cynllun oedd gwella'r profiad i breswylwyr cartrefi gofal sydd wedi cwympo ond sydd heb frifo, drwy leihau unrhyw oedi diangen wrth ymateb a galluogi adsefydlu pobl hŷn a bregus yn gyflymach. Roedd disgwyl i'r cynllun hefyd leihau’r angen i anfon ambiwlansys heb fod angen i gartrefi gofal, yn ogystal â lleihau nifer y cleifion sy'n cael eu cludo i'r ysbyty. Bydd hyn yn ei dro yn lleihau'r risg o niwed i bobl hŷn, fregus, a all fod mewn perygl o gael eu derbyn i’r ysbyty a'u cadw yno am gyfnod hir, a all achosi niwed.

Rydym hefyd wedi bod yn cefnogi cynlluniau peilot 'Adre o’r Ysbyty' mewn cydweithrediad â Gofal a Thrwsio Cymru mewn deng ardal yng Nghymru dros y gaeaf. Fel rhan o'r cynlluniau hyn, ymunodd gweithwyr achos dynodedig â'r rowndiau ward integredig a chefnogi gwasanaethau yn y cartref drwy adnabod cleifion a fyddai'n manteisio o gael addasiadau i'r cartref a rhoi datrysiadau ar waith yn gyflym. Y nod oedd cefnogi lleihau oedi mewn trosglwyddiadau gofal yn ogystal â lleihau cyfraddau derbyn ac aildderbyn i'r ysbyty drwy ddarparu addasiadau ymateb cyflym i gartrefi pobl.

Bydd pob un o'r cynlluniau hyn yn rhan o werthusiad o gynlluniau peilot y gaeaf, ac yn dilyn y gwerthusiad ystyrir eu gweithredu i'r dyfodol.

Efallai yr hoffech hefyd wybod bod wythnos Ymwybyddiaeth Cwympiadau yn cael ei chynnal bob blwyddyn i godi ymwybyddiaeth o gwympiadau yng Nghymru. Mae'r Wythnos Ymwybyddiaeth Cwympiadau yn alwad i weithredu i leihau'r risg o gwympo, drwy sgwrs, hunanasesiad a chynghori.

Pan fydd y gwaith a nodwyd yn y datganiad hwn wedi'i werthuso, wrth gwrs y byddaf yn fodlon rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau a'r cyhoedd.

Rwy'n gobeithio bod yr ymateb hwn yn rhoi sicrwydd i'r Aelodau ynglŷn â'r ystod o weithgareddau sy'n cael eu cynnal i atal cwympiadau a rheoli pobl sydd wedi cwympo, a hynny mewn ffordd ddiogel.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.