Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
Ym mis Gorffennaf 2019 sefydlais grŵp arbenigol, sef y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd, er mewn edrych ar nifer o gwestiynau allweddol, gan gynnwys y fframwaith o fesurau a pholisïau sydd eu hangen i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru. Mae’r grŵp, o dan gadeiryddiaeth Jon Sparkes, Prif Weithredwr Crisis, wedi cynnal gweithgareddau a thrafodaethau manwl dros y cyfnod hwn ac rwy’n falch o gael cyhoeddi heddiw eu trydydd adroddiad, a’r adroddiad olaf. Felly, dyma achub ar y cyfle i ddiolch i holl aelodau’r grŵp am ymwneud â’r gwaith gwerthfawr hwn. Maent wedi rhoi eu amser a’u harbenigedd sylweddol i’n helpu i gyflawni’r nod gyffredin, sef rhoi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Rwyf hefyd am ddiolch i’r rhanddeiliaid amrywiol a defnyddwyr y gwasanaethau a fu’n rhan o’r trafodaethau drwy gydol eu gwaith; mae’ch cyfraniad chi wedi sicrhau bod yr argymhellion yn seiliedig ar brofiad uniongyrchol.
Cafodd yr ail adroddiad, sef adroddiad mwyaf cynhwysfawr y grŵp, a oedd yn edrych ar y fframwaith o bolisïau a mesurau sydd eu hangen i roi diwedd ar ddigartrefedd, ei gyhoeddi’n gynharach eleni fel yr oeddem yn symud i ganolbwyntio ar ymateb i’r pandemig Covid-19. Mae’r trydydd adroddiad a’r un olaf, sy’n cael ei gyhoeddi heddiw, yn edrych ar ailgartrefu brys a phartneriaethau lleol. Mae argymhellion i Lywodraeth Cymru yn y tri adroddiad ac rwy’n falch o’u derbyn mewn egwyddor, a byddwn yn parhau â’r gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo ar draws y Llywodraeth i benderfynu ar y ffordd orau i’w gweithredu’n ymarferol. Er bod y grŵp bellach wedi cwblhau ei waith, bydd fy swyddogion yn parhau i ddefnyddio arbenigedd aelodau unigol o’r grŵp wrth i ni weithredu argymhellion yr adroddiad. Maes o law, byddaf yn manylu ar gamau gweithredu penodol sydd naill ai’n mynd rhagddynt neu’n cael eu cynnig mewn perthynas â’r argymhellion amrywiol.
Mae’n bwysig nodi hefyd, wrth gwrs, bod adroddiad cyntaf ac ail adroddiad y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd eisoes wedi cael eu defnyddio i lywio ein hymateb i ddigartrefedd yn sgil pandemig Covid-19; yn benodol, fe ddefnyddiwyd yr adroddiadau i lunio ein canllawiau ar gyfer Cam 2 a’r dull gweithredu trawsnewidiol sy’n cael ei nodi ynddynt. Cyhoeddais ym mis Gorffennaf fod £50m ychwanegol ar gael eleni i gefnogi’r dull gweithredu hwn, a hynny er mwyn helpu’r rheini a roddwyd mewn llety dros dro i ganfod cartrefi parhaol, a hefyd i gychwyn trawsnewid y gwasanaethau. Rwy’n cydnabod mai megis dechrau yw hyn, ac fel y mae gwaith y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd yn ei ddangos bydd angen buddsoddiad pellach i barhau â’r broses drawsnewid y flwyddyn nesaf ac ar ôl hynny os ydym am lwyddo i drechu digartrefedd.
Rwyf hefyd eisiau diolch a chydnabod y timau tai a’r gweithwyr cymorth mewn awdurdodau lleol ac yn y trydydd sector sydd wedi bod yn gweithio’n ddiflino i roi cymorth i’r aelodau mwyaf bregus yn ein cymdeithas gydol y pandemig hwn. Dengys y data diweddaraf a gyhoeddwyd fod dros 3,200 wedi cael llety dros dro ers mis Mawrth. Does dim dwywaith nad yw hyn wedi achub bywydau, ac mae’r diolch am hynny i’r staff nad yw eu gwaith caled a’i hymroddiad yn aml iawn yn cael y gydnabyddiaeth haeddiannol. Diolch yn fawr i chi.
Gyda'n gilydd, rydym wedi dangos beth y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn cydweithio, ac rwyf yn benderfynol na fydd dim troi’n ôl. Mae angen inni adeiladu ar y cynnydd a wnaed eleni, gyda'r camau nesaf yn seiliedig ar waith y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd. Bydd yr adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n ymdrin â’r oblygiadau o wneud newidiadau i Angen Blaenoriaethol, a gomisiynwyd gennyf y llynedd, hefyd yn llywio ein camau nesaf. Mae'n hanfodol bod y fframwaith polisi a deddfwriaethol yn cefnogi ein hagenda drawsnewid a byddwn yn archwilio'r angen posibl am ddiwygio deddfwriaethol fel rhan o hyn.
Yn anffodus, rydym wedi gweld cynnydd diweddar yn nifer y bobl sy'n cysgu allan, sy’n dangos, unwaith eto, yr angen am waith allgymorth pendant a pharhaus ac ymdrech ddwys barhaus nid yn unig i gefnogi pobl i ddod oddi ar y strydoedd ond i sicrhau bod y cymorth cofleidiol priodol ar gael i'w helpu i lwyddo a ffynnu.
Er bod rhai o'r mesurau yn y cyfnod clo blaenorol wedi’u llacio, mae pwysigrwydd cael cartref er mwyn gallu cadw at gyngor iechyd cyhoeddus ac aros yn ddiogel yn parhau’n ddigyfnewid. Rydym yn parhau i ddweud na ddylai unrhyw un, gan gynnwys y rhai nad oes ganddynt hawl i gyllid cyhoeddus, gael eu gadael heb lety brys priodol neu gymorth yn ystod y pandemig. Mae awdurdodau lleol yn parhau i allu cael arian ychwanegol i gefnogi'r dull cynhwysol hwn ac mae £1.6m o gyllid ychwanegol, ar gyfartaledd, yn cael ei hawlio bob mis – felly mae tua £20m o gyllid ychwanegol ar gyfer yr ymateb brys hwn yn 2020/21.
Er bod ein hymateb i'r pandemig o reidrwydd wedi canolbwyntio ar yr ochr fwyaf difrifol o ddigartrefedd, rydym hefyd yn parhau i weithio ar draws y Llywodraeth i ddatblygu ymyrraeth gynharach a gweithgarwch ataliol, fel nad yw pobl yn dod yn ddigartref yn y lle cyntaf. Fel y nodais yn ein Strategaeth ar gyfer Atal a Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd, ac fe dynnwyd sylw ato eto yn Adroddiad y Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd, mae hwn yn fater i’r gwasanaethau cyhoeddus ac felly mae angen ymateb system gyfan.
Y nod o hyd yw gwneud digartrefedd yn rhywbeth anghyffredin, dros dro, sy’n digwydd unwaith yn unig. Gyda’n gilydd, rydym wedi brasgamu yn y maes hwn eleni, ac wedi dechrau ar y gwaith trawsnewid sydd ei angen i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Rydym yn parhau’n uchelgeisiol ac yn optimistaidd y gallwn gyrraedd ein nod gyda’n gilydd.