Rebecca Evans AC, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd
Ar 17 Medi rhoddais ddiweddariad i’r Aelodau ar y goblygiadau i Gymru yn sgil Cylch Gwario 2019 Llywodraeth y DU, a’n cynlluniau ninnau o ran amseru cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21. Bryd hynny, roeddem yn parhau’n gadarn yn ein hymrwymiad i wneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu’r sicrwydd a’r sefydlogrwydd y mae eu hangen ar wasanaethau cyhoeddus, busnesau a chymunedau Cymru. Dyna pam y cyhoeddwyd ein bwriad i gyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru yn gynt, sef ym mis Tachwedd.
Ers hynny, mae etholiad cyffredinol y DU wedi’i alw ac rydym yn y cyfnod cynetholiadol erbyn hyn. Rwyf wedi trafod goblygiadau hyn o ran amseru cyllideb Llywodraeth Cymru gyda’r Pwyllgor Busnes a’r Pwyllgor Cyllid ac, yn amodol ar gytundeb y Pwyllgor Busnes, byddwn yn gohirio cyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru tan ar ôl etholiad cyffredinol y DU.
Ein huchelgais o hyd, er hynny, yw cyhoeddi ein cynlluniau cyn y Nadolig er mwyn helpu ein partneriaid cyflawni a’n rhanddeiliaid gyda’u blaengynllunio ariannol. Yn amodol ar gytundeb y Pwyllgor Busnes ddydd Mawrth nesaf, fe fyddwn, a hynny ar sail eithriadol, yn cyhoeddi Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 ar 16 Rhagfyr yn ystod y toriad. Byddaf innau wedyn yn gwneud datganiad ar y Gyllideb ddrafft yn y cyfarfod llawn cyn gynted â phosibl - ar 7 Ionawr - yn unol â’r Rheolau Sefydlog. O gofio goblygiadau ein proses gyllidebol i lywodraeth leol, byddwn yn cyhoeddi setliad dros dro 2020-21 ar gyfer llywodraeth leol yr un diwrnod â’r Gyllideb ddrafft er mwyn galluogi’r Awdurdodau i ymgysylltu â’u cymunedau a chynnal eu proses graffu ddemocrataidd eu hunain cyn gosod eu cyllidebau a’u cyfraddau treth gyngor erbyn 11 Mawrth.
O ganlyniad, yn dilyn y broses graffu ar ein cynlluniau gan Bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol, bydd y ddadl ar y Gyllideb ddrafft yn cael ei chynnal ar 4 Chwefror. Byddwn wedyn yn cyhoeddi Cyllideb derfynol 2020-21 a’r setliad llywodraeth leol terfynol ar gyfer 2020-21 ar 25 Chwefror, a bydd y dadleuon ar y naill a’r llall yn cael eu cynnal yn y cyfarfod llawn ar 3 Mawrth a 4 Mawrth.
Rwy’n ymwybodol y bydd y trefniadau hyn yn effeithio ar y cyfnod craffu. Mae’r Protocol ar y Gyllideb y cytunwyd arno rhwng Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn cydnabod na fydd yn bosibl darparu wyth wythnos o amser craffu bob amser. Bydd yr amserlen arfaethedig yn caniatáu saith wythnos o amser craffu.
Hoffwn gofnodi fy niolch i’r Pwyllgor Busnes a’r Pwyllgor Cyllid am eu cefnogaeth yn ystyried y newidiadau hyn, sy’n digwydd o dan ddylanwad ffactorau allanol sydd y tu hwnt i’n rheolaeth.