Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Hoffwn roi diweddariad i’r aelodau am y datblygiadau diweddaraf yn ymwneud ag Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn y cwricwlwm newydd.
Yr wythnos ddiwethaf, gwrthododd y Llys Apêl ganiatâd i'r Hawlwyr apelio yn erbyn y dyfarniad yn yr Uchel Lys y llynedd a wrthododd eu hawliadau am y Cod a’r Canllawiau Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ar bob sail.
Dywedodd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Ustus Males yn y Llys Apêl:
“The applicants' various challenges to the Code and the Guidance all proceed on the basis that these documents mandate the teaching and promotion of particular sexual lifestyles in ways which amount to indoctrination. As the respondents point out, however, the fundamental difficulty with these challenges is that the Code and Guidance do no such thing”.
O ran sut mae’r Cod a'r Canllawiau yn mynd i'r afael â materion yn ymwneud â gwahanol rywioldebau, adnabod hunaniaeth o ran rhywedd a thriniaeth barchus i bobl LHDTC+, dywedodd y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Ustus Males:
“It is inconceivable that such teaching could be contrary to the common law or the Human Rights Act. On the contrary, diversity and inclusion (including as to the LGBTQ+ community) are fundamental values of British (including Welsh) society.”
Mae hyn yn gyfiawnhad pwysig o ddull gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Bwriad y dull hwnnw yw cadw plant yn ddiogel a hyrwyddo cydberthnasoedd iach a pharchus. Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ysgolion sicrhau bod y dysgu'n briodol yn ddatblygiadol, a darparu gwybodaeth am Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb sy'n cynnwys ystod o safbwyntiau ar y pwnc ac nad yw'n ceisio hyrwyddo un farn dros un arall.
I gefnogi hyn, mae swyddogion wrthi'n gweithio'n agos ag ymarferwyr addysgu a chydgysylltwyr ysgolion iach i adolygu'r adnoddau sydd ar gael ar Hwb er mwyn sicrhau eu bod yn briodol yn ddatblygiadol ac yn addas i'w defnyddio mewn dull cytbwys ac mewn ffordd nad yw'n hyrwyddo un farn dros y llall. Mae hyn yn golygu y bydd gan ysgolion fynediad at adnoddau y gallan nhw a rhieni fod yn hyderus ac yn sicr eu bod yn briodol. Bydd adnoddau allweddol yn cael eu cyfeirio yn ardal newydd y Cwricwlwm i Gymru ar Hwb y tymor hwn, gydag adnoddau ychwanegol yn cael eu hychwanegu yn yr hydref. Rydym hefyd yn gweithio'n agos â phartneriaid eraill i sicrhau bod eu dulliau gweithredu nhw’n gyson â'r egwyddorion hyn.
Rwyf wedi annog ysgolion yn gyson i gymryd eu hamser i sicrhau eu bod ymgysylltu’n agos â rhieni a gofalwyr. Wrth i'r flwyddyn academaidd fynd yn ei blaen, mae rhai dulliau cadarnhaol iawn yn dod i'r amlwg sydd wedi cynnwys rhieni a gofalwyr ac wedi rhoi eglurder ynghylch yr hyn a ddysgir a phryd a pha adnoddau fydd yn cael eu defnyddio. Mae'r tryloywder hwn, ynghyd â deialog adeiladol, agored lle mae materion yn cael eu codi, yn hanfodol i sicrhau hyder rhieni a gofalwyr.