Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rydym wedi gweld newidiadau sylweddol i'n bywydau o ddydd i ddydd dros yr ychydig wythnosau diwethaf. Ymysg y newidiadau hynny mae rheolau caeth newydd i reoli lledaeniad COVID-19. Mae’r neges yn syml: arhoswch gartref i achub bywydau.

Mae'n bwysicach nag erioed cael lle saff a diogel i fyw. Rydym ni, fel Llywodraeth, wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod modd i denantiaid yn y sectorau rhentu preifat a chymdeithasol ddibynnu ar gael lle saff a diogel i fyw. 

Rydym eisoes wedi cymryd camau i sicrhau nad oes modd troi tenantiaid sy'n dioddef caledi ariannol yn sgil COVID-19 allan o'u tai. 

Bydd amgylchiadau pawb yn wahanol, ond ar gyfer rhai bydd yr argyfwng hwn yn effeithio ar eu gallu i dalu rhent a biliau'r aelwyd, a fydd yn peri gofid difrifol. Rydym wedi galw ar landlordiaid i fod yn gefnogol ac yn hyblyg drwy gydol y cyfnod hwn, ond rydym yn cydnabod na fydd hyn yn golygu bod dyledion yn diflannu. Mae tipyn o gymorth ar gael, ac rydym nawr am ddarparu canllawiau ynghylch at bwy i droi a sut i gael y cymorth hwnnw.

Bydd ‘Cymorth sydd ar gael i denantiaid yng Nghymru - COVID-19 yn helpu pobl i weithredu'n gyflym a gosod mesurau yn eu lle i atal problemau tai rhag cynyddu yn ystod yr wythnosau a'r misoedd heriol sydd o'n blaen. Mae’r canllawiau yn nodi’r math o gymorth ariannol y gall pobl ei hawlio, ynghyd â meini prawf cymhwysedd cysylltiedig. Maent hefyd yn darparu cyngor ymarferol ynghylch at bwy i droi a beth i'w wneud os bydd pobl yn mynd i drafferthion ariannol gyda'u rhent neu gostau byw cyffredinol. Er mai dogfen i denantiaid yw hon yn bennaf, mae hefyd yn adnodd defnyddiol i helpu sefydliadau sy'n cynghori pobl Cymru. Dylai'r canllawiau gael eu darllen wrth ochr y cyngor sydd eisoes wedi'i ddarparu i denantiaid a landlordiaid, y gellir eu gweld yma. 

Drwy Rhentu Doeth Cymru, Awdurdodau Lleol a Cartrefi Cymunedol Cymru, rydym wedi estyn allan at bob landlord ac asiantaeth gosod tai er mwyn eu hatgoffa am eu cyfrifoldebau a rhoi dolenni at y canllawiau a gynhyrchwyd gennym. Byddwn yn parhau i wneud hynny wrth i'r sefyllfa newid ac wrth i'n canllawiau gael eu diweddaru.

Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda rhanddeiliaid allanol i ddeall anghenion grŵp eang ac amrywiol iawn o denantiaid. Mae'n hanfodol cydweithio, a thrwy ein gwaith gyda'r grwpiau rhanddeiliaid gallwn ddod o hyd i'r ffordd orau o ddeall canlyniadau'r argyfwng hwn, a gwybod pryd i gamu i mewn a rhoi cymorth priodol.

Hoffwn dynnu sylw at y cymorth ardderchog sy'n cael ei gynnig gan sefydliadau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector ar draws Cymru, a hoffwn hefyd ddiolch i bob landlord, asiantaeth rheoli a sefydliad cymorth i denantiaid am helpu ein tenantiaid yn ystod yr argyfwng hwn.

Rydym yn wynebu'r sefyllfa hon gyda'n gilydd, ac rwy'n hynod o ddiolchgar am yr holl gydweithio sy'n digwydd ar draws Cymru, gan helpu pobl i aros mewn cartref saff a diogel.