Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mehefin 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Roedd Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014 a Fframwaith Cynllunio GIG Cymru yn nodi dull newydd o fynd ati i gynllunio yng ngwasanaeth iechyd Cymru,  gan ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG ddangos sut y caiff adnoddau eu defnyddio dros gyfnod o dair blynedd i wneud y canlynol:

  • Mynd i’r afael â meysydd o angen o ran iechyd y boblogaeth, a gwella canlyniadau iechyd;
  • Gwella ansawdd gofal;
  • Sicrhau’r gwerth gorau o adnoddau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cryfhau’r trefniadau cynllunio dros y 12 mis diwethaf i adlewyrchu’r gwersi a ddysgwyd o flwyddyn gyntaf y drefn gynllunio newydd. Ni chaiff cynllun ei gymeradwyo heblaw bod proses gadarn o graffu a chymeradwyo wedi’i chynnal ar lefel bwrdd a phan fyddaf i, fel Gweinidog, yn fodlon bod y cynllun yn diwallu’r gofynion a bennwyd yn y fframwaith. 

Nid yw cymeradwyo cynllun yn golygu nad yw bwrdd iechyd neu fwrdd ymddiriedolaeth y GIG yn atebol am y gwaith o ddarparu gwasanaethau. Nid yw ychwaith yn rhagfarnu canlyniad unrhyw broses briodol y mae ei hangen i roi’r cynllun ar waith. Er enghraifft, rhaid i unrhyw waith i ad-drefnu gwasanaethau gael ei wneud yn unol â’r ddeddfwriaeth ac â’n canllawiau cyfredol, a bydd gofyn i unrhyw gais am fuddsoddiad cyfalaf ddilyn y broses arferol ar gyfer cymeradwyo achosion busnes.

Yn dilyn proses graffu drylwyr ar gynlluniau tymor canolig 2015-16, rwyf wedi cymeradwyo’r pum cynllun canlynol: byrddau iechyd prifysgol Cwm Taf ac Aneurin Bevan; Bwrdd Iechyd addysgu Powys, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre.

Mae dau sefydliad – byrddau iechyd prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Chaerdydd a’r Fro yn parhau i ddatblygu eu cynlluniau a phrofi’r manylion.  Fel y bydd yr Aelodau yn cofio, rhoddais sicrwydd wrth i’r Bil fynd drwy’r Cynulliad y byddai camau gwirio yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod cynlluniau’n drylwyr a bod modd eu cyflawni.

Mae’r tri sefydliad GIG sy’n weddill wedi dod i’r casgliad na allant gyflwyno cynlluniau tymor canolig integredig trylwyr ar hyn o bryd.

Mae Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) wedi bod drwy newidiadau sylweddol yn ystod y 12 mis diwethaf yn dilyn penodi prif gomisiynydd ambiwlans a chreu Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys. Bydd y flwyddyn ariannol hon yn un allweddol o ran trawsnewid y gwasanaeth ac mae tystiolaeth o welliant yn barod o ran cynllunio a chyflawni lleol. Rwy’n disgwyl i’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys barhau i weithio gyda WAST i helpu i ddatblygu cynllun tymor canolig integredig ar gyfer 2016/17.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dangos cynnydd sylweddol o ran cynllunio yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac mae cynllun cydlynus wedi’i lunio dan ofal y tîm arwain newydd. Bydd yn parhau i weithio ar ddatblygu ei gynlluniau yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn wynebu sawl her o ran gwasanaeth a pherfformiad, sy’n gofyn am gymorth parhaus. Bydd datblygu cynllun clir a thrylwyr yn rhan o hyn. 

Bydd pob un o’r tri sefydliad hyn yn cytuno ar gynllun blwyddyn a fydd yn adlewyrchu’r mesurau allweddol sydd i'w cyflawni eleni, ynghyd â’r cerrig milltir allweddol ar gyfer parhau i ddatblygu eu cynlluniau.

Gyda’i gilydd, mae’r penderfyniadau hyn yn dangos bod proses drylwyr a pharhaus ar waith o ran gweithredu’r trefniadau yn Fframwaith Cynllunio GIG Cymru a Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014.