Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Contractau Economaidd, y Galwadau i Weithredu a Chronfa Economi’r Dyfodol - a adwaenir ar y cyd fel ein model gweithredu newydd ar gyfer cymorth uniongyrchol i fusnesau, yn elfen graidd a hanfodol o'n hymagwedd at ddatblygu economaidd fel y nodir yn y Cynllun Gweithredu ar yr Economi.

Rwyf eisiau rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am y cynnydd a wnaed yn dilyn blwyddyn ariannol gyntaf y cymorth.  Ers lansio'r model gweithredu newydd ar 21 Mai 2018, rwy'n falch o adrodd ein bod wedi: 

  • Cwblhau dros 150 o Gontractau Economaidd gyda busnesau unigol. 
  • Cymeradwyo 96 o brosiectau buddsoddi drwy'r Galwadau i Weithredu a Chronfa Dyfodol yr Economi sy’n werth dros £41 miliwn. 

Gyda'i gilydd, mae’r model gweithredu newydd yn sicrhau bod y busnesau rydym yn gweithio gyda nhw yn rhannu ein gwerthoedd ac yn buddsoddi ar gyfer y dyfodol.  Mae'n arbennig o braf bod rhychwant eang o wahanol fathau a meintiau o fusnesau ac, yn bwysig iawn, mae'r lledaeniad daearyddol wedi bod yn gadarnhaol hefyd - gyda phob rhanbarth wedi ei gynrychioli'n dda.  Byddwn yn parhau i fonitro hyn, oherwydd mae'n hanfodol i'n dull rhanbarthol ein bod yn gwasanaethu pob rhan o Gymru.

Mae'r arwyddion cynnar yn gadarnhaol.  Drwy'r Contract Economaidd, mae busnesau yn dangos eu hymrwymiad i egwyddorion twf cyfrifol, gwaith teg, iechyd, datgarboneiddio a sgiliau a dysgu.  Rhan ganolog o hyn yw ymgysylltu, cymhelliant a lledaenu arfer da - dull ‘rhywbeth am rywbeth’ sy'n annog busnesau a'r Llywodraeth i archwilio a phrofi sut mae busnes yn cyfrannu at gyfoeth a llesiant ei weithwyr a'r gymuned ehangach.  Gwir werth y Contract Economaidd yw'r fframwaith y mae'n ei ddarparu ar gyfer y sgwrs ddeinamig honno.

Mae'r pum Galwad i Weithredu sy'n ‘seiliedig ar genhadaeth’ hefyd wedi bod yn atyniadol i fusnesau - er gwaethaf effaith ansicrwydd parhaus Brexit ar yr hinsawdd fuddsoddi.  Mae busnesau wedi ymateb yn gadarnhaol, gan gydnabod bod y Galwadau i Weithredu yn crynhoi'r mathau o weithgareddau y mae angen i fusnesau blaengar fuddsoddi ynddynt os ydynt am ddal eu tir, cystadlu, a thyfu i'r dyfodol.  Mae Cronfa Economi’r Dyfodol yn ymateb yn llwyddiannus i alwad gan fusnesau ac eraill am fwy o symlrwydd, drwy gyfuno nifer o gronfeydd dan faner Cronfa Economi’r Dyfodol. 

Rydym bob amser wedi bod yn glir y byddai ein dull gweithredu yn gymesur ac yn hyblyg ac y byddem yn dysgu drwy'r broses weithredu.  I'r perwyl hwnnw, rydym wedi ymgysylltu â'r partneriaid cymdeithasol ac eraill fel rhan o asesiad ehangach sy'n ein helpu i ddeall yr hyn sy'n gweithio'n dda, lle gellid gwella pethau a’r gwersi y gallwn eu dysgu.  Mae'r ymarfer hwn wedi rhoi cyfoeth o adborth i ni, ac rydym yn dechrau ei roi ar waith.  Rydym yn disgwyl y byddwn wedi gorffen yr asesiad yn ddiweddarach eleni a byddwn yn falch o roi adroddiad cryno i'r aelodau bryd hynny. 

Ein her nawr yw parhau i wreiddio, esblygu, ac ehangu'r model gweithredu newydd a'r Contract Economaidd yn benodol.  I'r perwyl hwnnw, rydym eisoes wedi cymryd camau i ymgorffori'r Contract Economaidd mewn llythyrau cylch gwaith rhai cyrff noddedig ac rydym yn treialu ei gymhwyso i brosiectau seilwaith.  Rydym hefyd yn treialu defnydd o'r Contract Economaidd ar Gronfa Ddatblygu Banc Datblygu Cymru a lansiwyd yn ddiweddar, gyda'r bwriad o'i gyflwyno ymhellach i weithgareddau ehangach y Banc Datblygu.  Byddwn yn defnyddio gwersi a ddysgwyd cyn cyflwyno'r elfennau hynny’n ehangach i'r lleoliadau newydd hyn. 

Mae ein trafodaethau gyda busnesau a rhanddeiliaid eraill wedi dangos gwir ddiddordeb yn y ffordd y gallai egwyddorion y Contract Economaidd esblygu yn y dyfodol.  Yn benodol, mae rhanddeiliaid yn awyddus i ddeall sut bydd unrhyw allbwn gan y Comisiwn Gwaith Teg yn cael ei ystyried ac a oes cyfle i ehangu'r ffocws ar ddatgarboneiddio i ystyriaeth amgylcheddol ehangach sy'n ystyried bioamrywiaeth a gwastraff.  Byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ar newidiadau pellach yn y meysydd hyn.  

Yn olaf, gan weithio gyda Bwrdd Cynghori'r Gweinidog, rwy'n awyddus ein bod yn gweithio ar negeseuon busnes i fusnes a fydd yn helpu i hyrwyddo'r Contract Economaidd ac yn creu ymdeimlad o 'fudiad' ac effaith heintus ymysg busnesau sydd eisiau dod yn rhan ohono.  

Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am gynnydd.