Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r datganiad ysgrifenedig hwn yn rhoi diweddariad pellach ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r brigiad o achosion o gytras I o frech M yn Affrica a'r paratoadau sy'n cael eu rhoi ar waith yng Nghymru, rhag ofn y bydd unrhyw achosion yn cael eu canfod yma. Mae'n rhoi diweddariad pellach i'r llythyr a anfonwyd at holl Aelodau'r Senedd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 23 Awst. 

Mae dau gytras (mathau) hysbys o'r feirws brech M, sef cytras I a chytras II. Mae'r naill a'r llall yn cynnwys is-gytras a ac is-gytras b. Yn hanesyddol, dim ond yn Cameroon, Gweriniaeth Canolbarth Affrica, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Gabon a Gweriniaeth Congo yr adroddwyd am achosion o gytras I o frech m. 

Ond yn ystod y mis diwethaf, adroddwyd am fwy na 100 o achosion a gadarnhawyd mewn labordy o gytras Ib o frech M mewn pedair gwlad sy'n gyfagos i Weriniaeth Ddemocrataidd y Congo nad ydynt wedi adrodd am achosion o frech M o'r blaen – Burundi, Kenya, Rwanda ac Wganda. Mae adroddiadau wedi awgrymu bod haint cytras I yn fwy difrifol na'r haint cytras II sefydledig, sydd wedi bod mewn cylchrediad ledled y byd yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 

Ym mis Awst 2024, adroddwyd am achosion o haint cytras Ib o frech M y tu allan i Affrica am y tro cyntaf, yn Sweden a Gwlad Thai. Yn y ddau achos, roedd cysylltiad â gwledydd Affrica sydd â brigiad o achosion o haint cytras I o frech M.

Mewn ymateb i ymchwydd mewn achosion o haint cytras I o'r feirws brech M, datganodd Sefydliad Iechyd y Byd ei fod yn Argyfwng Iechyd Cyhoeddus o Bryder Rhyngwladol. 

Hyd yma, nid oes unrhyw achosion o haint cytras I o frech M wedi'u cofnodi yn y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, o ystyried y twf mewn achosion ledled Affrica, mae angen i ni fod yn barod ar gyfer y posibilrwydd y bydd achosion yn cyrraedd y DU. Mae gan y GIG ac asiantaethau iechyd cyhoeddus y DU systemau profedig ar waith i ganfod, rheoli a thrin afiechydon newydd a heintus, gan gynnwys brech M. Arweiniodd hyn at ganfod yr achosion cyntaf o haint cytras II o frech M yn y DU yn 2018, eu rheoli, a'u trin, a rheoli'r brigiad o achosion yn 2022 trwy frechu.

Rydym yn gweithio'n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA), a llywodraethau eraill y DU a'r GIG i baratoi ar gyfer achosion o haint cytras I o frech M yn y DU. 

Ynghyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym wedi bod yn gweithio gyda llywodraethau eraill y DU i ddatblygu'r mecanweithiau i adnabod teithwyr sydd wedi bod ar hediad lle mae amheuaeth o glefyd trosglwyddadwy, fel brech M. Mae canllawiau a chyngor wedi'u rhoi i bob teithiwr sy'n cyrraedd y DU ar hediadau uniongyrchol o'r gwledydd yr effeithir arnynt.

Gan ddilyn egwyddorion Cynllun Rheoli Achosion Clefydau Trosglwyddadwy Cymru, rydym wedi sefydlu trefniadau goruchwylio polisi ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn sefydlu gweithgareddau cydlynu cenedlaethol ar draws Cymru i fonitro ac ymateb pe bai achos yn cael ei nodi yn y DU. 

Mae'r gweithgareddau parodrwydd yn cynnwys:

  • Sesiwn friffio gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i roi gwybod i weithwyr proffesiynol y GIG am y diffiniad o haint cytras I o'r feirws brech M i sicrhau y gellir adnabod a thrin achosion posibl yn brydlon. Mae manylion proses brofi gyflym, canllawiau ynysu a chyfarpar diogelu personol wedi'u darparu, yn ogystal â dolenni cyswllt i gyngor a chymorth pellach. 
  • Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi cyhoeddi rhybudd ledled y GIG i godi ymwybyddiaeth yn gyffredinol ymhlith clinigwyr ac i dynnu sylw at arweiniad a chymorth allweddol. 
  • Cynhaliwyd ymarfer bwrdd gwaith ar 5 Medi, dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru, i brofi trefniadau parodrwydd. 
  • Datblygu'r gallu i brofi er mwyn adnabod y gwahanol straeniau o frech M yn gyflym.
  • Parodrwydd system y GIG i roi gofal clinigol diogel. 
  • Mae negeseuon iechyd y cyhoedd yn cael eu hystyried ar lefel y DU, er mwyn sicrhau cyfathrebu clir â'r cyhoedd, a byddant yn cael eu diweddaru mewn ymateb i ddatblygiadau. 

Mae brechlynnau a ddatblygwyd ar gyfer y frech wen wedi'u trwyddedu ar gyfer brech M, ac rydym yn datblygu ymateb brechu cydlynol a chymesur ochr yn ochr â gwledydd eraill y DU. 

Mae Llywodraeth y DU wedi prynu mwy na 150,000 dos o'r brechlyn ar gyfer brech M gan Bafaria Nordic i sicrhau bod y DU yn barod ar gyfer unrhyw achosion o haint cytras I o frech M a all gyrraedd y wlad. Bydd hyn yn galluogi'r GIG i frechu'r rhai a allai wynebu risg uchel yn sgil brech M. Bydd Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau pellach ar gaffael brechlynnau yn ystod yr wythnosau nesaf wrth i'r sefyllfa ddatblygu.

Gwnaethom sefydlu rhaglen frechu lwyddiannus yng Nghymru yn gyflym i sicrhau y gellir diogelu’r rhai a oedd yn wynebu'r mwyaf o risg yn ystod yr achosion o gytras II o frech M yn y DU yn 2022. Mae'r rhaglen hon yn dal i fod ar waith yng Nghymru ac mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo i ystyried rhoi cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar waith i sicrhau ei bod yn rhan reolaidd o'n rhaglen frechu. 

Mae ein gwaith yn 2022 yn rhoi sylfaen i ni gymryd camau pellach, pe bai'r cyngor clinigol a gwyddonol yn awgrymu bod hyn yn angenrheidiol. 

Bydd yn hanfodol inni gydweithio rhwng llywodraethau ac awdurdodau iechyd cyhoeddus ar draws y DU i sicrhau bod unrhyw achosion posibl o haint cytras I o frech M yn cael eu hadnabod a'u trin yn gyflym, a bod unrhyw gysylltiadau yn cael eu hadnabod a'u cefnogi. Bydd hyn yn diogelu pobl, ac yn lleihau'r risg y bydd yn lledaenu.

Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau.