Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Heddiw, rwy'n cyhoeddi fy asesiad o fanteision a gwerth penodi Comisiynydd Lluoedd Arfog i Gymru. Mae hyn yn dilyn fy ymrwymiad yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 29 Tachwedd i gyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar y Lluoedd Arfog a'r Cadetiaid ac i wneud penderfyniad ar y mater yn dilyn y cyfarfod.
Wedi cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ac ystyried y gwaith sy'n mynd rhagddo yng Nghymru, y DU a thu hwnt, rwy'n nodi fy mhenderfyniad isod:
Gwelwyd cynnydd aruthrol yng Nghymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Gan gydweithio'n agos gyda Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog, rydym wedi llwyddo i gyflawni mewn meysydd pwysig gan gynnwys;
- Adolygu a hyrwyddo'r pecyn cymorth i gymuned y Lluoedd Arfog, a datblygu'r ddogfen Croeso i Gymru ar gyfer pobl sy'n gwasanaethu a'u teuluoedd.
- Cynllun nofio am ddim i'r Lluoedd Arfog
- Llwybr Atgyfeirio Tai a Chod Canllawiau i Awdurdodau Lleol ar Ddyrannu Llety a Digartrefedd - i roi cymorth cynnar i gyn-filwyr sydd mewn perygl o fod yn ddigartref
- Diystyru Pensiwn Anabledd Rhyfel yn llwyr wrth i gyn-filwyr ddefnyddio gofal cymdeithasol
- Cymorth ariannol pellach i GIG Cymru i Gyn-filwyr er mwyn lleihau rhestrau aros a chynyddu'r gallu i drin cyn-filwyr â phroblemau iechyd meddwl
- Diwygio'r Canllawiau Blaenoriaeth Gofal Iechyd i Gyn-filwyr
- Cymorth i gyn-filwyr yn y system cyfiawnder troseddol.
Mae gwaith Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog wedi bod yn flaengar yn hyn o beth. Yn unigryw i Gymru, mae'n rhoi llais a llwyfan i nodi a darparu gwasanaethau a chymorth i gymuned y Lluoedd Arfog.
Yn ategu Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog mae gwaith Grŵp Rhwydweithio Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a fforymau rhanbarthol a lleol. Maent yn trafod materion a nodwyd gan y cyn-filwyr, gan sicrhau bod materion pwysig yn cael eu nodi a bod y Grŵp Arbenigol yn gweithredu arnynt. Mae penodi Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog ar draws y rhan fwyaf o Gymru hefyd yn rhoi ffordd unigryw i ni gefnogi Awdurdodau Lleol, er mwyn sicrhau darpariaeth gyson o bolisïau a gweithdrefnau sy'n cefnogi cymuned y Lluoedd Arfog.
Mae Cymru wedi llwyddo i wneud mwy na'r disgwyl i gael Cronfeydd y Cyfamod i gyflawni mentrau a phrosiectau i gefnogi'r sector hwn, gyda nifer o'r prosiectau mwyaf yn cael eu cymeradwyo gan Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog. Cyfrifoldeb y Weinyddiaeth Amddiffyn yw llywodraethu a monitro'r prosiectau drwy Fwrdd Cronfeydd y Cyfamod y DU. Caiff y Grŵp Arbenigol wybod am gynnydd a chanlyniadau'r prosiectau.
Wrth edrych tua'r dyfodol, bydd y Grŵp Arbenigol yn arwain y gwaith o ddatblygu Llwybr Cyflogaeth a Phecyn Cymorth i Gyflogwyr er mwyn helpu'r rhai sydd angen cymorth i gyrraedd at swyddi ystyrlon. Bydd ymchwil a gomisiynwyd yn ddiweddar i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a'r rheini sy'n gadael y lluoedd arfog yn gynnar yn ein helpu i weld beth sy'n medru achosi iddynt adael yn gynnar, gan ein cynorthwyo i nodi pa gefnogaeth benodol allai leddfu hyn.
Gyda lansiad Porth y Cyn-filwyr, bydd cyn-filwyr a'u teuluoedd yn cael mynediad at gymorth 24 awr y dydd, ac fe fydd hefyd yn gyfle i ni gael data ansoddol i gyfeirio ein hadnoddau at anghenion penodol.
Rydym wedi llwyddo i wneud cynnydd ardderchog yng Nghymru wrth ddarparu gwasanaethau a chymorth i gymuned y Lluoedd Arfog. Fodd bynnag, dydy hynny ddim yn golygu nad oes lle i wneud mwy.
Rydw i wedi adolygu'r strwythurau sydd yn eu lle, ein cynnydd hyd yma, a'n gallu i adeiladu arnynt. Byddai costau ariannu Comisiynydd a staff cynorthwyol tua £550k y flwyddyn, ac fe fyddai hynny'n gwyro adnoddau oddi wrth wasanaethau a chefnogaeth ymarferol i gymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru.
Ar ôl edrych ar yr wybodaeth, rwyf wedi penderfynu na fyddai penodi Comisiynydd Lluoedd Arfog i Gymru yn ychwanegu unrhyw fanteision neu werth pellach. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod bod angen i ni barhau i fuddsoddi a chryfhau'r gefnogaeth sy'n cael ei darparu i'r rhai sy'n cynnig gwasanaethau i gyn-filwyr. Felly rwy'n gofyn i'm swyddogion gryfhau uned y cyn-filwyr o fewn Llywodraeth Cymru a rhoi asesiad manwl pellach o fylchau mewn darpariaeth gwasanaethau. Byddaf yn ceisio darparu cyllid ychwanegol lle gwelaf fod angen er mwyn cynnal ansawdd ac ystod y gwasanaethau sy'n ofynnol gan gymuned y Lluoedd Arfog.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ymrwymo i ddarparu gwasanaethau a chymorth sy'n diwallu anghenion cymuned y Lluoedd Arfog. Byddaf hefyd yn rhoi adroddiad blynyddol i'r Cynulliad Cenedlaethol ar ein cynnydd wrth gyflawni'n hymrwymiadau.