Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n cyhoeddi’r Datganiad hwn i hysbysu aelodau bod Dyfed Edwards wedi rhoi’r gorau’n barhaol i’w rôl fel Dirprwy Gadeirydd Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru er mwyn cyflawni ei benodiad newydd fel Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Roedd wedi ymgymryd â'i benodiad yn Betsi Cadwaladr dros dro o’r blaen ac mae bellach wedi derbyn y rôl yn barhaol.

Gofynnwyd i Jocelyn Davies, Aelod Anweithredol presennol o Fwrdd ACC, weithredu fel Dirprwy Gadeirydd dros dro. Rwyf bellach wedi gofyn iddi barhau â’r rôl hon yn barhaol.

Hoffwn ddiolch i Dyfed a Jocelyn am eu cyfraniad gwerthfawr i Awdurdod Cyllid Cymru.