Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru.
Dros y bythefnos ddiwethaf, gwelwyd nifer o achosion o anhrefn a thrais yn dilyn y digwyddiad erchyll yn Southport ar 29 Gorffennaf. Er nad ydyn ni yng Nghymru wedi gweld lefel yr anhrefn sydd wedi'i brofi yn Lloegr dros y dyddiau diwethaf, allwn ni ddim llaesu dwylo.
Does dim lle i wahaniaethu, erlid, aflonyddu na cham-drin yng Nghymru. Rydyn ni'n sefyll yn erbyn casineb tuag at unrhyw un o'n cymunedau, gan gynnwys casineb ar-lein. Dw i'n gwybod bod y bygythiad o anhrefn posibl wedi cael effaith wirioneddol ar lawer o bobl yng Nghymru, ac mae digwyddiadau’r wythnosau diwethaf wedi tynnu sylw at y profiadau gwirioneddol ac annerbyniol o gasineb a hiliaeth y mae pobl ledled Cymru yn eu hwynebu yn rhy aml yn eu bywydau bob dydd.
Rydyn ni wedi mynd ati i ymgysylltu ag ystod o bobl a chymunedau yr wythnos hon i ddeall eu profiadau a'u safbwyntiau. Fe wnes i gwrdd ag uwch arweinwyr o fewn yr heddlu yng Nghymru heddiw i drafod sut maen nhw'n rheoli'r posibilrwydd o anhrefn ac yn hyrwyddo diogelwch pobl yng Nghymru. Hefyd, fe wnes i gynnal cyfarfod arall heddiw gyda chynrychiolwyr grwpiau cymunedol a chyrff y sector gwirfoddol yng Nghymru, gan gynnwys arweinwyr ffydd a chred. Fe wnaeth y cyfarfod hwn dynnu ynghyd y cynrychiolwyr hynny a’r heddlu a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn cefnogi ymhellach yr ymdrech i ddysgu ar y cyd.
Fe ges i sicrwydd gan bartneriaid o fewn yr heddlu yn y cyfarfodydd hyn ynghylch y dulliau cymesur a synhwyrol y maen nhw'n eu cymryd i fonitro a mynd i'r afael â'r potensial ar gyfer anhrefn yng Nghymru, a sut maen nhw'n gweithio gyda rhanddeiliaid lleol i dawelu ofnau, amddiffyn a diogelu'r rhai a allai fod mewn perygl. Dw i'n croesawu eu dull pendant a chefnogol o fynd i'r afael â'r bygythiad o anhrefn posibl yn ein cymunedau.
Roedd y cyfarfodydd yn gyfle hefyd i glywed pryderon cymunedau ac unigolion, gan gynnwys o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, cyrff sy’n cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches, a’r sector gwirfoddol ehangach yng Nghymru. Roedd y profiadau a rannwyd yn bwerus i’n hatgoffa o’r angen i ddod at ein gilydd i atal casineb a hiliaeth o bob math.
Dw i am annog pobl i barhau i ddilyn y cyngor a'r arweiniad sy'n cael ei rannu gan bartneriaid o fewn yr heddlu drwy eu sianeli swyddogol dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf. Gyda'n gilydd, fe allwn ni sefyll yn erbyn casineb a sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu teimlo'n ddiogel yn y cymunedau lle maen nhw'n byw. Dw i am annog cynrychiolwyr etholedig yng Nghymru i wrthsefyll casineb a chwarae eu rhan i dawelu ofnau cymunedau a mynd i’r afael â thwyllwybodaeth.
Fe fyddwn ni’n parhau i weithio gydag awdurdodau lleol, undebau llafur, cyflogwyr a phartneriaid mewn sectorau fel iechyd ac addysg i sicrhau bod ein cymunedau yn ddiogel ac yn groesawgar i bawb yng Nghymru. Yn benodol, mae ein gwaith gyda'n partneriaid yn parhau i hyrwyddo cymunedau cryf, cydlynol a gwrth-hiliol ym mhob rhan o'n gwlad drwy gyflawni Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Dw i am i Gymru barhau i fod yn genedl gynnes a chroesawgar, ac mae angen i'n cydberthnasau ar draws ein cymunedau adlewyrchu hyn. Fydd yna byth le i gasineb yng Nghymru, nac yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Ddylai'r un o'n pobl na’n cymunedau fyth orfod byw mewn ofn, ac fe wnawn ni barhau i weithio gyda’n partneriaid i greu Cymru lle mae pawb yn ddiogel rhag casineb.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os bydd aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am y mater hwn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.