Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Mae’n destun tristwch mawr imi fod yn dechrau 2022 drwy wneud datganiad ysgrifenedig ynghylch colli menyw ifanc arall mewn amgylchiadau trasig, sef Ashling Murphy.
Mae penawdau newyddion heddiw yn nodi bod dyn wedi’i arestio mewn perthynas â marwolaeth Ashling. Er ei bod yn rhy gynnar i wneud sylw ynghylch manylion yr ymchwiliad troseddol, mae un peth yn glir; fel Sarah Everard, Sabina Nessa a Wenjing Lin, nid yw Ashling yma bellach.
Mae marwolaeth Ashling wedi arwain at don enfawr o alar, yn gywir felly. Mae gwylnosau wedi’u trefnu mewn amrywiol leoliadau, gan gynnwys un heno yng Nghaerdydd. Mae’r gwylnosau hyn yn llefydd pwysig i bobl gofio a galaru dros Ashling, ond hefyd i ddod ynghyd a dweud ‘Mae angen i hyn stopio. Nawr.’
Dylai menywod sy’n mynd allan i redeg fod yn saff. Dylent fod yn saff i gerdded drwy ardaloedd cyhoeddus. Dylent fod yn saff i fynd i’r gwaith. Dylent fod yn saff yn ystod y dydd. Dylent fod yn saff yn ystod y nos.
Mae trais yn erbyn menywod a merched yn llawer rhy gyffredin. Mae menywod yn dod ar draws aflonyddu, cam-drin a thrais bob dydd, ac mae hyn wedi effeithio ar eu bywydau am lawer yn rhy hir. Rhaid inni sefyll gyda’n gilydd i roi terfyn ar drais ar ein strydoedd, rhaid inni sefyll gyda’n gilydd dros newid, a rhaid inni sefyll gyda’n gilydd i’w gwneud yn bosibl i bawb fyw heb ofn.
Yn sgil y digwyddiad trasig hwn, mae llawer o ddynion yn gofyn sut y gallant helpu’r achos. Gallwch helpu drwy beidio ag aflonyddu neu gyflawni trais o unrhyw fath yn erbyn menywod, a pheidio â’i esgusodi na chadw’n dawel yn ei gylch. Lle mae’n saff gwneud hynny, heriwch ymddygiad amhriodol.
Mae trais yn erbyn menywod a merched yn broblem i gymdeithas, ac mae angen i’r ymateb fod yn un gan y gymdeithas. Rhaid inni herio agweddau a newid ymddygiad y rheini sy’n cam-drin. Nid mater o ofyn i fenywod addasu eu hymddygiad yw hyn, ond o ddisgwyl i gamdrinwyr newid eu hymddygiad nhw.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn glir ei huchelgais i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched. Dyna pam mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gryfhau'r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) i gynnwys ffocws ar drais yn erbyn menywod ar y stryd ac yn y gweithle yn ogystal â'r cartref, er mwyn sicrhau mai Cymru yw'r man mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw.
Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ymgynghori ar ei Strategaeth Genedlaethol VAWDASV ar gyfer y pum mlynedd nesaf ochr yn ochr â grŵp o sefydliadau partner allweddol gan gynnwys yr heddlu a'r sector arbenigol. Rwy’n annog pobl Cymru i ymateb i'r ymgynghoriad hwn fel y gallwn i gyd gydweithio i greu'r Gymru yr ydym am ei gweld, Cymru lle mae menywod yn ddiogel: Ymgynghoriad ar fireinio'r Strategaeth Genedlaethol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ar gyfer 2022 i 2026
Nod ein hymgyrch ddiweddaraf, 'Dim Esgus' yw helpu pobl i adnabod ymddygiad sy'n gysylltiedig ag aflonyddu ar y stryd. Mae'n cydnabod bod profiadau menywod a merched yn ddifrifol ac yn gyffredin, ac yn gallu achosi ofn, braw a gofid. Mae'n galw ar y cyhoedd (dynion yn arbennig) i godi llais a herio rhagdybiaethau am aflonyddu yn erbyn menywod – sy’n aml yn cael ei gamgymryd fel rhywbeth 'diniwed' – gyda’u cyfoedion, eu ffrindiau a'u cydweithwyr. Drwy gydol mis Ionawr byddwn yn canolbwyntio ein negeseuon ar aflonyddu menywod a merched mewn lleoliadau cyhoeddus ac wrth wneud ymarfer corff.
Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â gwasanaethau arbenigol i godi ymwybyddiaeth o'r materion anghydraddoldeb a diogelwch sy'n wynebu menywod a merched, ac i roi terfyn ar bob math o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Byddwn yn parhau i weithio gyda heddluoedd Cymru, Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, byrddau diogelwch cyhoeddus a Gwasanaeth Erlyn y Goron i feithrin hyder ymhlith dioddefwyr i roi gwybod am achosion o gam-drin a thrais pan fyddant yn digwydd a i ddwyn y rhai sy'n cam-drin i gyfrif.
Ni fydd Cymru'n goddef camdriniaeth.