Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Mawrth eleni, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig am lofruddiaeth drasig Sarah Everard. Mae’n destun tristwch imi gyhoeddi datganiad arall heddiw ynghylch diogelwch menywod ar ein strydoedd a bywyd arall a gollwyd mor enbyd, sef bywyd Sabina Nessa.

Mae penawdau’r newyddion heddiw yn nodi bod dyn wedi’i gyhuddo’n swyddogol o lofruddio Sabina. Er ei bod yn rhy gynnar i wneud sylw ynghylch manylion yr ymchwiliad troseddol, mae un peth yn glir; nid yw Sabina yma bellach.

Roedd Sabina ar ei ffordd i gwrdd â ffrind. Roedd yn cerdded mewn man cyhoeddus. Yn gynnar gyda'r nos oedd hi. Er nad ydym yn gwybod eto beth ddigwyddodd, rydym yn gwybod, lle bynnag roedd hi’n mynd, beth bynnag roedd hi’n ei wneud neu faint o’r gloch bynnag oedd hi, y dylai Sabina fod wedi bod yn saff.

Mae trais yn erbyn menywod a merched yn llawer rhy gyffredin. Mae aflonyddu, cam-drin a thrais yn digwydd bob dydd i fenywod ac wedi bod yn rhan o’u bywydau am gyfnod rhy hir o lawer. Rhaid inni uno i roi terfyn ar drais ar ein strydoedd, rhaid inni uno i newid pethau, a rhaid inni uno i sicrhau y caiff pawb fyw'n ddi-ofn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir bob amser ynglŷn â'i huchelgais i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched. Mae’n broblem gymdeithasol sy'n galw am ymateb cymdeithasol. Rhaid inni herio agweddau a newid ymddygiad y rhai sy'n cam-drin. Nid menywod sydd angen addasu eu hymddygiad, ond y rhai sy’n cam-drin.

Dyna pam mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gryfhau'r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i gynnwys ffocws ar drais yn erbyn menywod ar y stryd ac yn y gweithle, yn ogystal ag yn y cartref, fel mai Cymru fydd y lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n datblygu ei Strategaeth Genedlaethol bum mlynedd nesaf yn y maes hwn ochr yn ochr â grŵp o sefydliadau partner allweddol, gan gynnwys yr heddlu a'r sector arbenigol. Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ar Strategaeth ddrafft yn nes ymlaen eleni.

Rhan bwysig o'r gwaith hwn yw cydnabod bod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio'n anghymesur ar fenywod du, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig, pobl LHDTC+ a phobl anabl.

Drwy ein hymgyrchoedd Byw Heb Ofn, byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth o stelcian, aflonyddu, cam-drin a thrais yn erbyn menywod ym mhob agwedd ar fywyd, gan gynnwys ar y stryd ac mewn mannau cyhoeddus eraill. Mae'r ymgyrchoedd hyn yn rhoi cyngor ymarferol i'r rhai sy’n dioddef camdriniaeth yn ogystal â thynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i alluogi ffrindiau, teulu a'r gymuned ehangach i adnabod camdriniaeth a chymryd camau diogel.

Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â gwasanaethau arbenigol i godi ymwybyddiaeth o'r anghydraddoldeb a’r problemau diogelwch sy'n wynebu menywod a merched, ac i roi terfyn ar bob math o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Byddwn yn parhau i weithio gyda heddluoedd Cymru, Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, byrddau diogelwch cyhoeddus a Gwasanaeth Erlyn y Goron i feithrin hyder ymhlith dioddefwyr i roi gwybod am achosion o gam-drin a thrais pan fyddant yn digwydd, ac i ddwyn y rhai sy'n cam-drin i gyfrif.

Ni wnaiff Cymru gadw’n dawel am gamdriniaeth.