Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Awst 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd ein hadroddiad ar yr Adolygiad o Ddiogelwch Cymunedol ei gyhoeddi ar 12 Rhagfyr 2017.  Rydym yn parhau'n ymrwymedig i arwain rhaglen waith ar gyfer gwneud ein cymunedau'n fwy diogel, ac i weithio mewn partneriaeth gyda'n partneriaid a rhanddeiliaid mewn meysydd datganoledig a heb eu datganoli.

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi rôl cydgysylltu a fydd yn darparu rhyngwyneb strategol rhwng Llywodraeth Cymru a Phlismona a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.  

Bydd ein hymrwymiad yn y maes hwn yn ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau ac i wireddu ein gweledigaeth gynaliadwy ar gyfer cymunedau mwy diogel a ffyniant i bawb ledled Cymru.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.