Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mai 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf wedi ymrwymo i fynd i’r afael â diogelwch adeiladau yng Nghymru ac i fwrw ymlaen â’n rhaglen cyweirio adeiladau ynghyd â rhaglen arwyddocaol o ddiwygiadau i greu trefn diogelu adeiladau yng Nghymru sy’n ateb y gofyn.

Yn sylfaenol i’n gwaith cyweirio adeiladau yw’r gred sylfaenol y dylai datblygwyr gyfrannu at dalu am unioni’r problemau hyn.

Roeddwn i’n wir siomedig pan gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Ffyniant Bro a Chymunedau Michael Gove fis diwethaf mai ar gyfer Lloegr yn unig y byddai’r ardoll diogelwch adeiladau ac adduned y datblygwyr. Er erfyniadau croch a chlir gan Lywodraethau Cymru a’r Alban, bydd yr adduned a’r contract cysylltiedig yn bethau i Loegr yn unig.

Mae rhai datblygwyr eisoes wedi estyn yr adduned i Gymru.  Mae hynny’n gam adeiladol iawn ymlaen ac rwy’n eu canmol.

Trwy wneud, byddan nhw’n dod â dioddefaint lesddeiliaid a holl drigolion yr adeiladau dan sylw i ben, gan helpu hefyd i adennill enw da’r diwydiant.

Rwy’n siŵr nad unigolion prin yw’r datblygwyr hyn a bod yna eraill yn y diwydiant sy’n credu fel finnau bod ganddynt gyfrifoldeb am yr adeiladau y gwnaethon nhw eu datblygu yng Nghymru.

Rwyf heddiw wedi ysgrifennu at bob datblygwr – y rheini sydd wedi llofnodi’r adduned yn Lloegr a’r rheini sydd ddim – yn eu gwahodd i gwrdd â fi i drafod eu hamserlenni ar gyfer trwsio’r diffygion diogelwch yn eu hadeiladau yng Nghymru.

Er y byddai’n well gennyf gydweithio â datblygwyr i wneud y gwaith unioni sydd ei angen ar lesddeiliaid yng Nghymru, rwy’n barod i ddefnyddio’r holl bwerau sydd gennyf wrth law i fynd ar ôl y datblygwyr sydd ddim am gydweithio.

Rwy wedi cyhoeddi rhestr o ddatblygwyr sydd wedi dewis peidio â chydweithio â fi.  Rwy’n bendant fy marn y dylai peidio â chydweithio arwain at ganlyniadau arwyddocaol o ran eu busnes a’u henw da i’r cwmnïau dan sylw.

Datganiad rhyddid gwybodaeth 16052: Diogelwch adeiladau