Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Ym mis Mawrth, ymrwymais i agor cynllun cymorth newydd i'r rhai sy'n wynebu caledi ariannol sylweddol o ganlyniad i faterion diogelwch tân mewn adeiladau preswyl uchel a chanolig. Heddiw, rwy'n darparu gwybodaeth i lesddeiliaid am y cynllun, gan gynnwys sut y gallant wneud cais.
Bydd y Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid yn darparu cyngor annibynnol wedi'i deilwra i lesddeiliaid mewn cartrefi yr effeithir arnynt. Mae wedi'i dargedu at lesddeiliaid sy'n berchen-feddianwyr a'r rhai sydd wedi dod yn breswylwyr sydd wedi'u dadleoli. Bydd ceisiadau'n cael eu monitro a bydd y meini prawf cymhwyster yn cael eu hadolygu'n gyson er mwyn sicrhau bod y rhai sydd ei angen fwyaf yn gallu defnyddio’r cynllun.
Bydd pob lesddeiliad sy'n gymwys ar gyfer y cynllun hwn yn cael cyngor gan Gynghorydd Ariannol Annibynnol, gyda'r costau'n cael eu talu'n llawn gan Lywodraeth Cymru.
Bydd y cyngor yn helpu'r lesddeiliad i wneud y dewisiadau cywir ar eu cyfer hwy a'u hamgylchiadau unigol. Os mai gwerthu eu heiddo yw'r llwybr cywir, bydd Llywodraeth Cymru yn eu galluogi i werthu eu heiddo am werth teg ar y farchnad, ond rhaid iddo fod yn ateb cywir i'r cartref.
Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i'r partneriaid allanol ac arbenigwyr yn y sector sydd wedi ein cynorthwyo i ddatblygu'r cynllun hwn yn gyflym. Mae eu cefnogaeth a'u gwaith caled wedi bod yn hanfodol i sefydlu'r meini prawf cymhwyster a'r prosesau cymorth cywir.
Bydd canllawiau llawn ar y cynllun, gan gynnwys y meini prawf cymhwyster, ar gael o 10am heddiw ar wefan Llywodraeth Cymru.
Dim ond un rhan o'r camau y mae'r llywodraeth hon yn eu cymryd o ran diogelwch adeiladau yw'r Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid - byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau ar lawr y Senedd yfory.