Jane Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Cyhoeddwyd adroddiad Cam 2 Ymchwiliad Tŵr Grenfell yn gynharach y mis hwn. Rwy'n ddiolchgar i bawb a gyfrannodd at yr ymchwiliad ac at yr argymhellion pwysig.
Yn gyntaf, rydym yn meddwl am bawb a gafodd eu heffeithio, ac sy'n parhau i gael eu heffeithio gan ddigwyddiadau trasig y noson honno.
Mae'r adroddiad yn helaeth, gan ddarparu archwiliad manwl o achosion y tân trasig ym mis Mehefin 2017. Mae'r adroddiad yn tanlinellu unwaith eto yr angen am weithredu brys a phendant ac yn rhoi hwb ychwanegol i'n gwaith.
Fel llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i sicrhau'r safonau uchaf o ran diogelwch adeiladau i drigolion Cymru.
Mae swyddogion yn ystyried yn ofalus yr argymhellion a nodir yn adroddiad Cam 2. Ein barn gychwynnol yw bod argymhellion yr adroddiad yn cyd-fynd yn dda â'n diwygiadau arfaethedig yng Nghymru. Mae ein hymateb cadarnhaol, a'r camau yr ydym eisoes wedi'u cymryd yn dilyn adroddiad Cam 1 ac adroddiad "Building a Safer Future" y Fonesig Judith Hackitt, yn dangos ein hymrwymiad i'r agenda hon.
Rydym yn bwrw ymlaen â'r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru), sydd i fod i gael ei gyflwyno yn 2025. Er ein bod wedi datblygu llawer ar y Bil, byddwn yn cymryd yr amser i fyfyrio ar yr argymhellion i nodi ble yr ydym am adolygu ein polisi o bosib.
Bydd y Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru), pan gaiff ei gyflwyno, yn adeiladu ar y cynnydd rydym eisoes wedi'i wneud i sicrhau diogelwch adeiladau amlfeddiannaeth yng Nghymru. Trwy gychwyn rhannau perthnasol o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022, rydym wedi cyflwyno diwygiadau i'r broses ddylunio ac adeiladu, gan gynnwys rheoleiddio adeiladau risg uwch, yn ogystal â newidiadau i reoleiddio'r proffesiwn rheoli adeiladau. Bydd cam nesaf y drefn rheoli adeiladau newydd yn ceisio cyflwyno mwy o graffu a chyfrifoldebau newydd i’r rhai sydd â dyletswydd. Rwy'n gobeithio ymgynghori'n ehangach ar y cynigion hyn erbyn diwedd y flwyddyn.
Bydd ein trefn reoleiddio newydd yn berthnasol i bob adeilad preswyl amlfeddiannaeth, nid dim ond y rhai 18 metr a throsodd, sy'n golygu y bydd yn mynd ymhellach na'r argymhellion a wnaed gan adolygiadau blaenorol.
Ochr yn ochr â diwygiadau i sicrhau diogelwch adeiladau yn y dyfodol, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig ac yn gweithio'n gyflym i wneud adeiladau presennol yng Nghymru mor ddiogel rhag tân ag y gallant fod. Yng Nghymru, mae gan bob adeilad preswyl dros 11 metr bellach lwybr tuag at fynd i'r afael ag unrhyw faterion diogelwch tân sy'n gysylltiedig ag adeiladu'r adeiladau, nid cladin anniogel yn unig. Mae'r Rhaglen yn edrych ar faterion diogelwch tân mewnol ac allanol mewn dull adeilad cyfan sy'n rhoi diogelwch pobl yn gyntaf.
Mae llawer o'r materion a'r methiannau a arweiniodd at ddigwyddiadau trasig 14 Mehefin 2017 yn bodoli ledled y DU, ac rwyf wedi ailadrodd hyn yr wythnos hon gyda fy nghydweithwyr yn uwchgynhadledd Tai Cyngor Prydain-Iwerddon. Rwy'n croesawu ein gwaith agos parhaus gyda Llywodraeth y DU a Llywodraethau Datganoledig eraill i ddatblygu ein polisïau ar ddiogelwch adeiladau ac i rannu arferion gorau a dysgu oddi wrth ein gilydd.
Mae Diogelwch Adeiladau yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, a byddwn yn parhau i yrru ein rhaglenni adfer a diwygio yn eu blaen yn gyflym.