Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Hydref 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae diogelu iechyd a lles pob anifail yng Nghymru drwy gydol eu bywydau – hyd at ac yn cynnwys y broses ladd – yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru.  Lansiais Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru ym mis Gorffennaf y llynedd, a Chynllun Gweithredu 2015-16 eleni, sy’n disgrifio ein dull o sicrhau bod anifeiliaid yng Nghymru yn iach a bod ganddynt ansawdd bywyd da.  Mae’r dogfennau hyn yn pennu rhai cerrig milltir penodol ar gyfer Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, yr Asiantaeth Safonau Bwyd a chwmnïau Busnesau Bwyd.  

Mae Codau Argymhellion ar gyfer Lles Da Byw yn cael eu cynhyrchu i annog ceidwaid da byw i fabwysiadu y safonau uchaf o ran hwsmonaeth anifeiliaid.  Mae arferion hwsmonaeth da ar ein ffermydd yn sicrhau  bod lles ein da byw yn cael ei hybu a’i ddiogelu o’u genedigaeth, a thrwy gydol y gadwyn gynhyrchu.
Fodd bynnag, nid yw safonau lles anifeiliaid yn dechrau ac yn dod i ben ar ffermydd.  
Er nad oes unrhyw achosion wedi’u nodi yng Nghymru, dylai’r adroddiadau yn gynharach eleni ynghylch cam-drin anifeiliaid mewn lladd-dai yn Lloegr fod yn achos pryder inni i gyd.  

Yng Nghymru, rydym eisoes wedi sefydlu dulliau ychwanegol o ddiogelu lles sy’n gwella lles anifeiliaid sy’n cael eu cynhyrchu ar gyfer bwyd.  Rhoddodd Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014 ddarpariaethau Rheoliad 1099/2009 y CE ar waith.  Mae’r Rheoliadau hyn yn berthnasol i’r broses ladd a phrosesau cysylltiedig mewn lladd-dai, a hefyd i ladd tymhorol, ac i unrhyw weithredu cysylltiedig y tu allan i ladd-dai yng Nghymru.  Mae’r darpariaethau yn rhoi mwy o gyfrifoldeb o ran lles anifeiliaid ar yr un sy’n rhedeg y lladd-dy, gan gynnwys gweithdrefnau safonol ar gyfer lladd a thrin anifeiliaid. Maent hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i benodi Swyddog Lles Anifeiliaid mewn lladd-dai sy’n lladd 1,000 o unedau da byw neu 150,000 o adar y flwyddyn.

O fis Mai 2014 mae gofynion hyfforddi gwell wedi’u sefydlu ar gyfer y rhai sy’n dechrau yn y diwydiant yng Nghymru.  Mae’r rhain yn cynnwys cyrsiau wedi’u goruchwylio ar gyfer y broses ladd, rhywogaeth anifail a’r offer sy’n cael ei ddefnyddio, cyn cyflwyno Tystysgrif Cymhwysedd.

Mae’r rhai hynny sydd â’r hawl i ddefnyddio darpariaethau trosiannol yn ystod y cyfnod o weithredu Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014 (WATOK) yn cael eu hatgoffa o’r angen i newid i’r Dystysgrif Cymhwysedd neu’r drwydded WATOK briodol cyn 8 Rhagfyr, gan Brif Swyddog Milfeddygol Cymru, i sicrhau eu bod yn cydymffurfio’n llawn â Rheoliadau’r CE.  

Mae mwy y gallwn ei wneud o hyd, er bod yr adroddiadau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn dangos rhai tueddiadau calonogol.  Mae Arolwg Lles Anifeiliaid yr Asiantaeth o ladd-dai ym Mhrydain yn 2013, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, yn dangos darlun gwell o gymharu ag arolwg 2011.  Roedd 96 y cant o ladd-dai yn cydymffurfio â’r rheoliadau o gymharu â dim ond 86 y cant o ladd-dai cig coch, ac 84 y cant o ladd-dai cig gwyn, yn 2011.  Cynhaliodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd raglen archwilio ddi-rybudd o ladd-dai ym Mhrydain yn ystod gwanwyn 2015, a oedd yn cynnwys 26 o ladd-dai yng Nghymru.  Roedd 23 ohonynt yn cydymffurfio’n llawn â’r gofynion lles ac nid oedd angen gwelliannau brys yn unrhyw un o ladd-dai Cymru.  Roedd gan 12 o’r 26 o ladd-dai systemau teledu cylch cyfyng.  

Yn 2013, comisiynodd Llywodraeth Cymru y Cyngor Lles Anifeiliaid Fferm (FAWC) i ddarparu cyngor annibynnol a di-duedd ynghylch dulliau ac effeithiolrwydd defnyddio systemau teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai.  Mae adroddiad FAWC yn argymell yn gryf y dylai pob Cwmni Busnes Bwyd osod system teledu cylch cyfyng ym mhob rhan o adeilad ble y cedwir anifeiliaid, a ble y caiff anifeiliaid eu stynio a’u lladd.  Mae FAWC yn gweld systemau teledu cylch cyfyng yn ffordd bwysig o ddiogelu anifeiliaid, ac yn rhan o ddull holistaidd o sicrhau safonau uchel ym maes iechyd a lles anifeiliaid.  
Mae nifer o gamau diogelwch wedi’u sefydlu i sicrhau lles da byw, boed wedi’u stynio neu beidio cyn lladd.  Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn monitro, yn darparu ac yn gorfodi darpariaethau lles ym mhob lladd-dy yng Nghymru, ar ran Llywodraeth Cymru.    Mae swyddogaethau Milfeddygon Swyddogol yr Asiantaeth yn cynnwys sefydlu darpariaethau i sicrhau nad yw anifeiliaid yn dioddef, yn ofnus neu yn profi poen di-angen o’r adeg y maent yn cael eu rhoi yn y llociau, a thrwy gydol y broses ladd.  
O dan reoliadau y CE, cwmnïau busnesau bwyd sy’n gorfod derbyn y cyfrifoldeb llawn am les anifeiliaid a diogelwch bwyd mewn lladd-dai.  Mae’n rhaid iddynt fodloni gofynion deddfwriaethol o ran cynllun y lladd-dy a’r offer.  Mae’n rhaid i’r rhai sy’n lladd fod yn gymwys, wedi’u hyfforddi’n briodol ac wedi’u trwyddedu i ladd pob rhywogaeth sy’n cael eu cyflwyno iddynt.  

Bydd gweithlu sydd wedi’i hyfforddi’n briodol yn ddylanwadol iawn o ran diogelu lles anifeiliaid wrth eu lladd, ond nid yw hyn yn ei warantu’n gyfan-gwbl.  Mae monitro cywir a chadw cofnodion yn rhan hanfodol o’r broses reoli.  Ochr yn ochr â gwaith pwysig y Milfeddygon Swyddogol a’r Swyddogion Lles Anifeiliaid, mae’n galonogol nodi bod defnyddio systemau teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yn cael ei ystyried yn ffordd ddefnyddiol o fonitro safonau lles anifeiliaid.  

Rwy’n falch na fu unrhyw adroddiadau o gam-drin anifeiliaid mewn lladd-dai yng Nghymru ymhlith y storïau yn y wasg yn gynharach eleni, ac rwyf am sicrhau ein bod yn cynnal y safonau lles uchaf posib mewn lladd-dai yng Nghymru.  Fodd bynnag, ni ddylem orffwys ar ein rhwyfau.  Rwy’n credu’n gryf y  dylai pob lladd-dy yng Nghymru osod systemau teledu cylch cyfyng yn unol ag argymhellion y Cyngor Lles Anifeiliaid Fferm.  Rwy’n benderfynol o sicrhau bod hyn yn digwydd.  Rwy’n gobeithio’n fawr y gellir cyflawni hyn gyda chefnogaeth lawn y diwydiant yng Nghymru.  Dyna pam yr wyf yn gwahodd Cwmnïau Busnesau Bwyd i gymeryd rhan mewn grŵp gorchwyl a gorffen gyda’r Llywodraeth i ddatblygu’r agenda hon a nodi beth arall ellir ei wneud i wella safonau.  Mae hyn yn cyd-fynd â’r prif gerrig milltir ar gyfer cyflawni Cynllun Gweithredu Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid 2015-16 a grybwyllwyd uchod.

Mae’n bwysig i Gwmnïau Busnesau Bwyd arwain ar y cyd â’r Llywodraeth ar y mater hwn.  Bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn gallu cysylltu’n uniongyrchol â gwaith Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru.

Mae 26 o ladd-dai yng Nghymru ar hyn o bryd, 21 ohonynt yn ladd-dai cig coch, tri ohonynt yn ladd-dai mawr a’r rhan fwyaf ohonynt yn ladd-dai bychain.  Mae’r lladd-dai bychain hyn yn rhan hanfodol o’r system o brosesu cig ac maent yn safleoedd lleol i’r ffermwyr; maent yn lleihau amser teithio y da byw, ac yn darparu swyddi mewn cymunedau gwledig.  Byddaf yn ysgrifennu at bob Cwmni Busnes Bwyd i’w gwahodd i gymeryd rhan yng ngwaith y grŵp.  

O ran cynnal enw da y diwydiant yng Nghymru, byddaf yn disgwyl datblygiadau brys ar y mater hwn, ond os oes angen, byddaf yn ystyried dulliau eraill o weithredu argymhelliad y Cyngor Lles Anifeiliaid Fferm.  Fodd bynnag, mae’n galondid bod lladd-dai yng Nghymru yn cynnal safonau uchel, a gyda mwy o gydweithio, bydd hyn yn galluogi pob Cwmni Busnes Bwyd i wella a chynnal y safonau uchaf bosib.  

Byddaf yn monitro cynnydd ar y brif elfen hon o gyflawni, a bydd fy swyddogion yn cysylltu â phob Cwmni Busnes Bwyd i ddatblygu’r haen hwn o’r gwaith.