Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rydym heddiw'n cyhoeddi Papur Gwyn, "Diogelu Dyfodol Cymru: Pontio o'r Undeb Ewropeaidd i berthynas newydd ag Ewrop", y gellir ei weld ar-lein yn: www.llyw.cymru/brexit

Rydym yn trefnu i ddarparu copïau caled o'r ddogfen i Aelodau'r Cynulliad.

Datblygwyd y Papur Gwyn ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, felly mae wedi sicrhau cefnogaeth tair plaid. Gobeithiwn y bydd modd i'r pleidiau eraill hefyd ddod o hyd i rywfaint o dir cyffedin gyda'r safbwynt a osodwyd gennym.

Mae'r Papur Gwyn yn darparu cynllun cynhwysfawr ac ymarferol ar gyfer y negodiadau gyda'n partneriaid yn Ewrop ynghylch ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd - ar sail tystiolaeth gadarn sy'n canolbwyntio ar flaenoriaethau Cymru ond sydd wedi'i lunio i weithio ar gyfer y DU yn gyfan.

Wrth osod ein safbwynt yn y Papur Gwyn hwn, gwelir ein hymrwymiad i drafod a chydweithio gyda rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru ynghylch goblygiadau ymadawiad y DU â'r UE. Wrth ddatblygu'r cynnwys, manteisiwyd ar y trafodaethau eang a gafwyd gyda rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru, gan gynnwys drwy waith y Grŵp Cynghori ar Ewrop. Gobeithiwn y bydd y safbwynt sy'n cael ei nodi yn y Papur Gwyn yn denu cefnogaeth eang, ond nid ydym yn priodoli cefnogaeth uniongyrchol unrhyw unigolion na sefydliadau allanol i'r ddogfen gyfan.

Mae'r Papur Gwyn yn gyfraniad sylfaenol i'n trafodaethau gyda Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. O'r cychwyn cyntaf, rydym wedi trafod yr agenda hwn yn adeiladol gyda nhw, ac mae'r Papur Gwyn yn parhau gyda'r dull gweithredu cadarnhaol hwn.

Mae'r penderfyniad y bydd y DU yn ymadael â'r UE wedi'i wneud. Yr her sy'n ein hwynebu ni i gyd nawr yw sicrhau ein bod yn llwyddo i gael y fargen orau bosibl i Gymru a'r DU, a dyna y mae'r Papur Gwyn hwn yn ceisio'i gyflawni.

Byddaf yn gwneud Datganiad Llafar i'r Cynulliad ddydd Mawrth 24 Ionawr, a'r bwriad yw cynnal trafodaeth ar y Papur Gwyn mewn Cyfarfod Llawn yn gynnar ym mis Chwefror.