Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 30 Gorffennaf, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru na fydd rhaid i oedolion sydd wedi’u brechu’n llawn hunanynysu os cânt eu nodi’n gyswllt agos i rywun sydd â’r coronafeirws. Daw’r newidiadau i wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru i rym i oedolion sydd wedi’u brechu’n llawn o 7 Awst – y diwrnod y mae disgwyl i Gymru symud i lefel rhybudd sero, os bydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn caniatáu.

Bydd plant a phobl ifanc o dan 18 hefyd wedi’u heithrio rhag gorfod hunanynysu os cânt eu nodi’n gyswllt agos i achos positif. Ond bydd pawb sy’n profi’n bositif gyda’r coronafeirws neu sydd â symptomau yn dal i orfod hunanynysu am 10 diwrnod, p’un a ydynt wedi cael eu brechu ai peidio.

I sicrhau bod oedolion sydd heb eu brechu yn cael eu cefnogi’n llawn i hunanynysu, rwyf heddiw yn cyhoeddi cynllun Diogelu er mwyn cefnogi pobl yn ariannol ac â chymorth ymarferol i aros gartref. Gwyddom o edrych ar ddata brechu diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru fod y rheini sydd heb eu brechu’n llawn yn fwy tebygol o berthyn i grwpiau sydd wedi’u taro galetaf gan y pandemig. Maent yn tueddu i fod ar incwm is, o grwpiau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, a grwpiau ethnig eraill, yn llai tebygol o allu gweithio gartref, ac yn ei chael yn anodd yn ariannol pan fyddant yn colli incwm.

Drwy gydol y pandemig, rydym wedi bod yn datblygu elfen Diogelu’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu er mwyn darparu cefnogaeth ariannol ac ymarferol uniongyrchol i bobl sy’n hunanynysu. Mae hyn wedi golygu addasu’r Cynllun Taliadau Cymorth Hunanynysu i sicrhau bod arian ar gael i’r rheini sydd ei angen fwyaf a darparu cymorth wedi’i dargedu fel nad oes angen i bobl bryderu am fwyd ac eitemau hanfodol, tlodi tanwydd a mynediad at wasanaethau iechyd meddwl.

I sicrhau nad yw’r rheini ar incwm is yn dioddef yn ariannol yn sgil hunanynysu, rwy’n cynyddu swm y taliad o £500 i £750 o 7 Awst pan ddaw’r rheoliadau newydd i rym. Caiff hyn ei adolygu ar ôl tri mis i asesu ei effeithiolrwydd ac i sicrhau bod y defnydd gorau yn cael ei wneud o’r cymorth ariannol hollbwysig hwn. Telir y swm uwch hefyd i unrhyw un sy’n ennill hyd at y trothwy incwm personol o £500 yr wythnos, ond sy’n colli eu henillion dros y cyfnod hunanynysu o ddeg diwrnod. Bydd y £750 ar gael i bob ymgeisydd cymwys y gofynnir iddo hunanynysu ar neu ar ôl 7 Awst.

Rydym hefyd yn gweithio gyda’r Trydydd Sector i nodi rhwydweithiau cymorth a all godi ymwybyddiaeth o’r gefnogaeth ariannol a helpu unigolion gyda’r broses ymgeisio os ydynt yn ei chael yn anodd darparu’r wybodaeth iawn oherwydd problemau iaith, digidol neu hyder. Ein nod yw sicrhau’r gefnogaeth iawn ar gyfer y grwpiau sydd ei hangen fwyaf.

Gwyddom mai’r brechlynnau yw ein ffordd orau allan o’r pandemig. Mae gennym un o raglenni brechu gorau’r byd ac rwy’n annog pawb sydd heb gael eu brechu i fanteisio ar y cynnig. Bydd unrhyw un sy’n ei gael ei hun yn gyswllt agos i rywun â’r coronafeirws ac sy’n gymwys i gael brechiad yn cael gwybodaeth a chefnogaeth i fynd am apwyntiad ar ôl ei gyfnod hunanynysu, er mwyn inni achub ar bob cyfle i ddiogelu mwy o bobl rhag niwed Covid.

Mae’r newidiadau i’r polisi hunanynysu i’w gweld yma: Newid y rheolau hunanynysu ar gyfer oedolion sydd wedi'u brechu'n llawn | LLYW.CYMRU

Mae'r datganiad hwn yn cael ei wneud yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Pe bai aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.