Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Hydref 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Flwyddyn union yn ôl i heddiw, amlinellais y dull o ddiogelu ac amddiffyn pobl Cymru sy’n cael ei ddatblygu gennyf. Hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y camau rydym wedi’u cymryd, a’m cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Yr wythnos hon cyhoeddais grynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar Fil Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) a gynhaliwyd yn ystod y gwanwyn a dechrau’r haf. Bydd yr Aelodau eisoes yn gwybod, yn sgil fy natganiad ym mis Mehefin, fod dros 500 o bobl wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau cyhoeddus ledled Cymru, gan gynnwys grwpiau agored i niwed fel plant anabl a phlant sy’n derbyn gofal, pobl ifanc sy’n gadael gofal a gofalwyr ifanc. Derbyniwyd rhyw 275 o ymatebion ysgrifenedig i’r ymgynghoriad hefyd, ac mae’r rhain wedi’u dadansoddi. Roedd yr ymateb yn adeiladol dros ben ac roeddwn yn falch o weld fod gwir gefnogaeth i’n cynigion bras i ddiogelu ac amddiffyn. Mae ennyn diddordeb y cyhoedd i’r graddau hyn yn gwbl allweddol i lwyddiant ein cynlluniau.

Fel yn achos unrhyw gynigion ar gyfer newid, mae rhywfaint o gythrwfl yn anorfod. Mae’n hollbwysig fod pobl yn cael cyfle iawn i fynegi eu barn cyn inni ymroi i’r gwaith caled. Roedd yr un mor bwysig ein bod yn gwrando’n ofalus ar yr hyn yr oedd gan bobl i’w ddweud, ar ôl iddynt gymryd yr amser i ymateb. Mae ymgynghori a chysylltu yn hanfodol, fel y mae gwneud penderfyniadau.

Bydd y Bil yn ddull canolog o weithredu agweddau pwysig o’n hagenda. Mae angen inni fod yn gwbl eglur mai dim ond drwy weithredu amlasiantaethol cyson y gellir diogelu’n effeithiol.

Rwy’n croesawu datganiad y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ddiogelu ac amddiffyn plant o fewn GIG Cymru, dyddiedig 2 Medi, sy’n amlinellu’r camau i fynd i’r afael ag argymhellion yr Athro Syr Mansel Aylward. Mae’r gwaith rhagorol hwn yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod y GIG yn cyflawni ei rwymedigaethau o ran diogelu, ac yn parhau i wneud ei ran ochr yn ochr â’r partneriaid statudol eraill. Mae angen inni sicrhau bod yr holl brif asiantaethau diogelu’n canolbwyntio’n ddiwyd, ac i’r un graddau â’i gilydd, ar drefniadau diogelu ac amddiffyn.  

Bydd cwmpas y Bil yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau’r gwasanaethau cymdeithasol, ac mae hynny’n arbennig o bwysig o ran diogelu ac amddiffyn. Fy nghyfrifoldeb i yw sicrhau bod y fframwaith y bydd yr holl asiantaethau yn gweithredu o’i fewn yn hwyluso’r ffordd iddynt weithredu’n effeithiol. Mae hynny’n hollbwysig er mwyn sicrhau trefniadau diogelu cadarn.  Bydd y gwasanaethau cymdeithasol bob amser yn ganolog i effeithiolrwydd y trefniadau hynny, ond rhaid i’r holl bartneriaid sylweddoli bod rhaid i ddiogelu fod yn seiliedig ar ddull cyson o weithredu.  

Yn sgil y sylwadau yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad, a thrwy drefniadau’r Fforwm Partneriaid, rwy’n gwybod bod amryw o’r farn nad yw teitl y Bil yn adlewyrchu’r mewnbwn amlasiantaethol sydd ei angen i gyflawni’r agenda Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, yn enwedig yng nghyd-destun diogelu. Yn y dyfodol, felly, byddwn yn defnyddio ei ‘deitl gwaith’, sef Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru), wrth gyfeirio at y Bil drafft hwn. Ar sail y cynlluniau presennol, caiff y Bil drafft ei gyflwyno i’r Cynulliad ddiwedd mis Ionawr 2013.

Fis Hydref diwethaf, dywedais fy mod yn bwriadu defnyddio’r Bil i wella arweiniad a chydweithredu drwy waith amlasiantaeth, a chyflwyno dull mwy trefnus o amddiffyn oedolion mewn perygl. Mae’r dystiolaeth ddiweddaraf yn dangos bod ein trefniadau i amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso yn effeithiol, ar y cyfan. Ond mae lle i wella o hyd. Credaf fod safon ac ymrwymiad ein partneriaid, ac ymroddiad ein hymarferwyr rheng flaen yn arbennig, yn golygu bod modd inni wneud hynny.  

Mae arweiniad yn hollbwysig. Rwyf eisoes wedi nodi fy ymrwymiad i sefydlu Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol. Dangosodd canlyniadau’r ymgynghoriad fod cytundeb eang y byddai’r ffocws strategol y gallai Bwrdd Cenedlaethol ei ddarparu yn gam adeiladol. Rwy’n awyddus i fwrw ymlaen â’m bwriad i sefydlu Bwrdd newydd o dan y ddeddfwriaeth. Mae yna sawl model posibl, ond ar hyn o bryd rwyf o’r farn y bydd angen i’r Bwrdd allu fy nghynghori ynghylch pa mor ddigonol ac effeithiol yw’r trefniadau diogelu, a pha gamau y dylwn eu cymryd er mwyn helpu i gryfhau polisi a gwella arferion. Gallai hefyd fod â rôl hanfodol o ran rhoi cymorth a chyngor i Fyrddau Diogelu, gyda golwg ar sicrhau eu bod yn effeithiol. Gwella fydd arwyddair gwaith y Bwrdd.

Mae cydweithredu effeithiol a gwaith amlasiantaeth yn anhepgor er mwyn cyflawni ein cyfrifoldebau. Rwyf wedi dweud y byddaf yn mabwysiadu’r patrwm Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus o chwe Bwrdd Diogelu Plant, a’r cyrff statudol ar gyfer oedolion sy’n cyfateb iddynt. Rwy’n dal i fod wedi ymrwymo i hynny, ond mae angen inni hefyd sicrhau bod ein cynigion yn gallu gwrthsefyll unrhyw newidiadau y gallem fod eisiau eu cyflwyno mewn blynyddoedd diweddarach. Mae’r ymgynghoriad hefyd wedi dangos cefnogaeth i’n cynnig i sicrhau trefniadau ariannu mwy cadarn ar gyfer y Byrddau, ac wedi rhoi arwydd fod angen gwaith pellach er mwyn deall manteision cael Cadeiryddion annibynnol i’r Byrddau. Rwyf wedi penderfynu peidio â phennu’r pwynt diwethaf hwn mewn statud, ond credaf fod angen gweithio i sicrhau bod Byrddau yn gallu gwneud dewisiadau mwy gwybodus. Byddwn yn troi ein sylw at hyn. Efallai y byddwn hefyd yn manteisio ar y cyfle hwn i sicrhau bod aelodau statudol y Byrddau oedolion ac aelodau statudol y Byrddau plant yn cydweithio er mwyn cyflawni’r un nod.

Fis Hydref diwethaf, dywedais yn glir y dylai Byrddau Lleol Diogelu Plant ddechrau cynllunio ar gyfer newid cyn y ddeddfwriaeth. Rwyf wedi derbyn adroddiad ar hynt y gwaith o weithredu’r model newydd ac rwy’n falch dros ben y bydd rhai o’r strwythurau Bwrdd newydd ar waith mor fuan â gwanwyn 2013. Byddaf yn parhau i annog yr holl Fyrddau i gymryd camau sylweddol fel bod yr holl risgiau wedi’u hasesu a’u hwynebu’n briodol cyn i’r ddeddfwriaeth fynnu eu bod yn newid.

Roeddwn wedi cynnig y byddem yn sefydlu Byrddau Diogelu Oedolion ar sail statudol, ochr yn ochr â’r Byrddau Diogelu Plant. Rwy’n falch fod cryn gefnogaeth i hyn. Serch hynny, mae’r syniad y dylai’r Byrddau fod â chylch gwaith ehangach na diogelu yn unig yn apelio ataf. Rwy’n bwriadu cynnig y dylai Byrddau Diogelu Oedolion sy’n canolbwyntio’n benodol ar oedolion mewn perygl, gael eu sefydlu o dan y ddeddfwriaeth.  

Er nad oedd hynny’n rhan ffurfiol o’r ymgynghoriad, mae’r cynnig y dylai’r Byrddau hyn uno mewn pryd yn un sydd wedi ennyn cryn ymateb. Rwy’n dal i fod wedi ymrwymo i’r egwyddor fod rhaid inni ddechrau chwalu unrhyw rwystrau artiffisial sy’n seiliedig ar oedran. Ond rwyf hefyd yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi’r pryderon a leisiwyd. Bydd y Byrddau newydd yn gweithredu ochr yn ochr â’i gilydd i ddechrau, ond bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn caniatáu i benderfyniadau ynghylch uno gael eu gwneud yn lleol o fewn y fframwaith o wella trefniadau diogelu ar gyfer pawb. Rwyf hefyd wedi gofyn am gynnwys darpariaeth yn y Bil drafft i Weinidogion gadw’r hawl i uno Byrddau.

Rwy’n falch fy mod wedi gallu darparu hanner miliwn o bunnau o gyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn ariannol hon i helpu awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol i bontio i’r modelau gwasanaeth a llywodraethu newydd. Disgwyliaf i’r awdurdodau lleol weithio gyda’u partneriaid i ddatblygu’r patrwm diogelu newydd o 6. Mae cyflawni hyn yn flaenoriaeth.

Rwy’n gwerthfawrogi cymhlethdod ein cynnig i ddatblygu fframwaith cyfreithiol i ddiogelu oedolion mewn perygl, ond mae’r gefnogaeth lethol i hynny wedi codi fy nghalon yn fawr. Rwy’n awyddus i fwrw ymlaen â darpariaethau i gynnwys yr holl nodweddion amrywiol a ddisgrifiwyd yn yr ymgynghoriad, gan osod dyletswyddau cyfreithiol allweddol ar awdurdodau lleol ac eraill, fel yn y gwasanaeth iechyd a’r heddlu, i ddiogelu oedolion mewn perygl. O ystyried nerth yr ymateb a fynegwyd, mae’r syniad o roi pwerau ymyrryd newydd i ymarferwyr yn apelio ataf, a hynny er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cysylltu â’r rheini yr amheuir eu bod yn cael eu cam-drin, gan gadw at yr egwyddor mai dymuniadau’r oedolion fydd sail unrhyw gefnogaeth a roddir. Fel yn achos plant, bydd y fframwaith hwn yn sicrhau bod achosion o gam-drin oedolion yn derbyn ymateb amlasiantaethol cyson ac effeithiol. Bydd y ddeddfwriaeth ar gam-drin domestig sydd ar fin cael ei chyflwyno gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ategu hyn.   
  
Mae datblygu’r trefniadau hyn yn arwydd bod Llywodraeth Cymru wedi aeddfedu gryn dipyn mewn cyfnod cymharol fyr. Ond mae’r setliad datganoli – a swyddogaeth allweddol yr heddlu a’r asiantaethau eraill sydd heb eu datganoli yn arbennig – yn golygu bod rhai meysydd yn dibynnu ar gytundeb Llywodraeth y DU. Mae fy swyddogion eisoes wedi cychwyn trafod y meysydd y bydd angen cytundeb ehangach yn eu cylch, a byddwn yn parhau i ddwyn pwysau er mwyn sicrhau’r hyn sydd orau i Gymru, yn ein barn ni.  

Mae ein ffordd o feddwl wedi datblygu mewn sawl maes, ac rydym wedi symud ymlaen. Rwy’n sylweddoli fod cryn waith o’n blaenau o hyd. Rwy’n llawn werthfawrogi maint y dasg. Mae cyfraniad rhanddeiliaid wedi bod yn hanfodol hyd yn hyn. Gyda’u cymorth hwy, sefydlwyd y Rhwydwaith Cynghori ar Ddiogelu ac Amddiffyn yn gynharach eleni, a bydd y Rhwydwaith hwnnw’n dod yn fwy arwyddocaol wrth inni ddechrau gweithio ar fanylion y darpariaethau a gynhwysir yn y rheoliadau a’r canllawiau, ac a fydd yn sail i’r Bil. Rwy’n gwybod y gallaf ddibynnu ar eu brwdfrydedd, eu hymrwymiad a’u harbenigedd i fynd â ni yn ein blaenau.  

Rwyf hefyd wedi ymrwymo i ddatblygu grŵp craidd o arbenigwyr i’m helpu i ddatblygu manylion ein cynigion. Felly, rwy’n bwriadu sefydlu Bwrdd Diogelu Cysgodol cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon. Byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau yn cael gwybod am hynt y gwaith hwn.