Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn yr hydref y llynedd, a hefyd yn 2011, amlinellais y gwaith roeddwn i'n ei ddatblygu i ddiogelu ac amddiffyn pobl yng Nghymru. Hoffwn roi'r diweddaraf i'r Aelodau am y camau rydyn ni wedi'u cymryd a fy nghynlluniau at y dyfodol.
Rwy'n cydnabod bod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn brysur iawn. Hoffwn fynegi fy niolchiadau i'r asiantaethau a'r gweithwyr proffesiynol sy'n dymuno datblygu'r agenda diogelu ac amddiffyn am eu cymorth a'u cyfraniad cadarnhaol ac adeiladol. Rwy'n cydnabod bod hyn yn eistedd ochr yn ochr â'r gwaith anodd iawn y mae gweithwyr proffesiynol yn ei wneud yn ddyddiol. Roedd cyflwyno'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ym mis Ionawr yn garreg filltir bwysig ac mae'n cynnig y fframwaith gorau posibl i ni sicrhau bod ein trefniadau diogelu amddiffyn yn ddiguro. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn hollbwysig i gyflawni agweddau allweddol ar ein trefniadau diogelu.
Mae'r Bil wedi gosod agenda uchelgeisiol. Nid wyf yn diystyru'r heriau y mae'n eu gosod. Ceir cyfleoedd ochr yn ochr â'r heriau hynny ac mae'n hanfodol ein bod yn mynd i'r afael â'r rhain yn frwd – rydyn ni i gyd yn benderfynol o sicrhau bod yr aelodau mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael eu diogelu, ac mae hyn yn gyfle i wneud hynny.
Bydd y Bil yn gwneud newid sylweddol o ran ein gwaith gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n briodol ei fod wedi bod yn destun craffu sylweddol ers ei gyhoeddi, a bydd y broses ddemocrataidd honno'n parhau. Rwy'n ddiolchgar i Gadeirydd ac aelodau'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc am graffu ar y Bil yn fanwl a thrylwyr.
Rwyf wedi ymateb eisoes i argymhellion adroddiadau'r Pwyllgor, ond mae materion ynghlwm â'r darpariaethau diogelu lle gallai eglurhad pellach fod yn ddefnyddiol. Byddaf yn ceisio gwneud hynny drwy'r datganiad hwn.
Bydd y trefniadau newydd hyn yn sicrhau bod asiantaethau diogelu lleol yn cael eu cefnogi drwy arweinyddiaeth gadarnach a fframwaith cryfach a mwy effeithiol ar gyfer cydweithredu aml-asiantaeth. Mae'r Bil yn cynnwys darpariaeth i sefydlu Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol newydd a fydd yn helpu i godi safonau, gwella cysondeb a chynghori Gweinidogion Cymru ynghylch pa mor ddigonol ac effeithiol y mae'r trefniadau diogelu.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod cydweithredu aml-asiantaeth yn hanfodol i ddiogelu effeithiol. Mae'r dystiolaeth sydd gennym yn dangos nad yw Byrddau Lleol Diogelu Plant yn gweithio yn y ffordd roedden ni wedi gobeithio, ac ni allwn ddangos pa mor effeithiol y maen nhw'n diogelu plant. Mae angen i ni fynd i'r afael â hyn a sicrhau bod fframwaith cydweithredu a gweithredu gwell yn bodoli i sicrhau bod y Byrddau'n gweithio'n well ac yn gyson a bod asiantaethau'n cydweithredu yn well i amddiffyn plant ac oedolion. Y ffordd o wneud hyn yw drwy leihau nifer y Byrddau i sicrhau'u bod yn gyson, yn gwella ac yn gynaliadwy.
Mae hefyd angen i ni gymryd camau sylfaenol i sicrhau bod y trefniadau i ddiogelu oedolion mewn perygl yr un mor effeithiol â'r rheini sy'n ceisio amddiffyn plant yng Nghymru.
Nodais y llynedd y byddai aflonyddwch yn anochel wrth fwrw ymlaen â newidiadau i'r agenda diogelu, ond ei bod yn hanfodol rhoi cyfle priodol i bobl fynegi'u barn. O ystyried yr ymrwymiad rydyn ni'n ei rannu i wella diogelu, mae'r ddadl yn beth iach ac yn rhywbeth rwy'n ei groesawu. Mae'n bwysig ein bod yn rhoi llais clir i bartneriaid diogelu ac yn sicrhau eu bod yn ganolog i'r newidiadau hyn.
Dywedais y byddai trefniadau arweinyddiaeth strategol yn cael eu gosod cyn sefydlu'r Bwrdd Cenedlaethol y darperir ar ei gyfer yn y Bil. Ym mis Mawrth, cyhoeddais y byddai Panel Cynghori ar Ddiogelu yn cael ei sefydlu, dan gadeiryddiaeth Phil Hodgson, cyn Gyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Dinas Abertawe. Mr Hodgson oedd cadeirydd y Fforwm Diogelu Plant, a adroddodd i mi ym mis Awst 2011. Cyflwynodd y Fforwm gryn dipyn o dystiolaeth sy'n sail i nifer o ddatblygiadau ar yr agenda diogelu, gan gynnwys datblygu un Bwrdd Cenedlaethol, ad-drefnu Byrddau Diogelu a'r egwyddor o ystyried uno byrddau oedolion a phlant. Mae copi o adroddiad y Fforwm ar gael yn:
http://wales.gov.uk/topics/childrenyoungpeople/publications/forum/?lang=cy
Rwyf wedi gofyn i'r Panel fy nghynghori ynghylch agweddau penodol ar y cynigion yn y Bil sy'n ymwneud â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion, ac ar ddatblygu rheoliadau a chanllawiau. Bydd y Panel yn sicrhau bod ei waith yn ystyried safbwyntiau defnyddwyr gwasanaethau a grwpiau rhanddeiliaid eraill yn llawn. Rwy’n falch iawn ein bod ni, drwy benodi’r Panel, wedi sicrhau arbenigedd sylweddol o Gymru a thu hwnt i fanylu ar y trefniadau diogelu. Mae’r aelodau’n cynnwys Wendy Rose, oed yn allweddol o ran helpu i ddatblygu’r fframwaith Adolygiadau Ymarfer Plant newydd yng Nghymru, Ruth Henke QC, Mr Ian Bottrill, a’r Athro John Williams o Brifysgol Aberystwyth a oedd yn ddiweddar yn gynghorydd cyfreithiol arbenigol i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a edrychodd yn fanwl ar ddarpariaethau’r Bil.
Rwy'n gwybod bod y Cadeirydd wedi cynnal nifer o gyfarfodydd gyda sefydliadau allweddol fel y Comisiynydd Plant a'r Comisiynydd Pobl Hŷn, yr heddlu, cynrychiolwyr llywodraeth leol a'r trydydd sector. Cefais gyfarfod â Mr Hodgson hefyd ym mis Hydref er mwyn cael y diweddaraf â chynnydd a materion sy'n dod i'r amlwg wrth i'r gwaith ddatblygu.
Mae aelodau'r Panel hefyd wedi arwaith ar bedair ffrwd waith – y Bwrdd Cenedlaethol, y fframwaith cyfreithiol ar gyfer amddiffyn oedolion a dwy yn ystyried gweithrediad a swyddogaethau posibl y Byrddau Diogelu. Bydd digwyddiad cenedlaethol hefyd yn cael ei gynnal yn ddiweddarach y mis hwn, lle rwy'n bwriadu siarad â rhanddeiliaid ynghylch y gwaith hanfodol rydyn ni'n ei wneud ar ddiogelu.
Bydd y Panel yn cyflwyno'i adroddiad cyntaf i mi yn fuan, ond mae llawer i'w wneud o hyd. Byddwn yn parhau i gynnal sgyrsiau ynghylch y gwaith sy'n cael ei ddatblygu i helpu i sicrhau dealltwriaeth eang a chyson ynghylch yr hyn rydyn ni'n ceisio'i gyflawni drwy'r Bil. Mae bellach angen i ni i gyd symud yn yr un cyfeiriad.
Mae rhai materion wedi codi yn sgil y broses graffu a hoffwn gymryd y cyfle hwn i roi eglurhad pellach ynglŷn â rhai o'r rhain. Mynegwyd y farn y dylid sefydlu dau fwrdd diogelu cenedlaethol – un ar gyfer plant ac un ar gyfer oedolion. Rwy'n cydnabod y pryderon sydd wedi cael eu mynegi, ond rwyf wastad wedi bod o'r farn mai un o nodau hanfodol y Bil yw chwalu rhwystrau artiffisial ar sail oedran. Mae'r cynnig ar gyfer un bwrdd cenedlaethol yn adlewyrchu hynny. Mae'n rhaid i ni ymwrthod â'r ddadl sy'n arddel y syniad mai hanfod hyn yw'r gystadleuaeth rhwng anghenion a blaenoriaethau plant ac oedolion. Hanfod hyn yn hytrach yw diogelu pawb yn fwy effeithiol.
Yn yr un modd, nid wyf yn dadlau dros ffordd unffurf o weithio. Yn strategol, bydd llawer o elfennau tebyg yn y trefniadau diogelu sy'n ymdrin â phobl, ond yn yr un modd bydd gwahaniaethau yn y ffordd yr eir i'r afael â phroblemau. Mae'r darpariaethau yn y Bil yn caniatáu i'r Bwrdd Cenedlaethol ddatblygu trefniadau ar gyfer oedolion a phlant. Mae'n gwbl hanfodol bod arweinwyr yn canolbwyntio ar un targed, yn hytrach nag ar wahanol drefniadau. Ond nid yw hyn yn golygu na fydd y Bwrdd yn ddigon hyblyg i ystyried materion oedolion a phlant ar wahân os yw'n penderfynu mai dyna'r peth cywir i'w wneud.
Mae'r ddarpariaeth sy'n rhoi'r pŵer i Weinidogion uno Byrddau Diogelu Oedolion a Phlant hefyd wedi rhoi sylw i effaith bosibl y model pobl. Nododd y Pwyllgor nad yw wedi casglu unrhyw dystiolaeth oedd yn cefnogi'r syniad y byddai uno byrddau yn gwella diogelu. Nid yw'n fwriad gan Lywodraeth Cymru i uno byrddau yn y dyfodol agos. Mae'r ddarpariaeth hon wedi'i chynnwys oherwydd, o ystyried y model pobl, gallwn weld y manteision posibl a allai godi yn yr hirdymor yn sgil ystyried anghenion diogelu pobl, yn hytrach nag oedolion a phlant ar wahân. Maes o law, rydyn ni'n credu y bydd hyn yn ein galluogi i alinio bwriad strategol ag arferion a darparu gweithredol. Fodd bynnag, bydd hyn yn cael ei ystyried dim ond pan fyddwn yn siŵr y bydd yn arwain at ddiogelu pawb yn fwy effeithiol.
Bil ar gyfer cenhedlaeth yw hwn, a bydd angen i ni ystyried y ddarpariaeth benodol hon o safbwynt tra wahanol. Roeddwn i'n fodlon iawn cytuno â chais y Pwyllgor y dylai unrhyw drefniadau y gallai Llywodraeth Cymru eu gwneud i uno byrddau fod yn destun proses uwchgadarnhaol i sicrhau'r craffu gorau posibl, a bod y cyhoedd yn hyderus mai dyma'r peth cywir i'w wneud pan fydd yn digwydd.
Ym mis Hydref 2011, cyhoeddais fy mod yn bwriadu ad-drefnu Byrddau Lleol Diogelu Plant a sefydlu byrddau statudol cyfatebol ar gyfer oedolion, gan ddilyn yr ôl-troed Cyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus. Cytunodd Cabinet Llywodraeth Cymru ar yr ôl-troed cydweithredol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ym mis Gorffennaf ac fe'i cyflwynwyd i'r Cyngor Partneriaeth yn yr un mis. Mae'r ôl-troed yn cynnig fframwaith i wasanaethau cyhoeddus allu datblygu trefniadau cydweithredol cyson newydd a chanolfannau sy'n dilyn chwe ardal ddaearyddol y Gogledd, Gwent, y Canolbarth a'r Gorllewin, Cwm Taf, Caerdydd a'r Fro a Bae’r Gorllewin.
Mae'r Bil yn rhoi'r pŵer i ni sefydlu'r byrddau a rhagnodi drwy reoliadau yr ardaloedd y bydd y byrddau'n eu cwmpasu. Un o gyfrifoldebau allweddol Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod y fframwaith mwyaf effeithiol posibl yn cefnogi'r lefelau uchel o gydweithredu a gwaith aml-asiantaeth sy'n ofynnol i sicrhau diogelu effeithiol.
Hefyd yn 2011, gofynnais i'r Byrddau Lleol Diogelu Plant ddechrau cynllunio ar gyfer newid cyn y ddeddfwriaeth newydd. Rwy'n falch o nodi bod gwaith yn mynd rhagddo, a bod ardaloedd fel Bae’r Gorllewin, Cwm Taf a Gwent wedi sefydlu Byrddau Diogelu ar gyfer oedolion a phlant eisoes. Nid wyf yn diystyru'r cymhlethdodau sydd ynghlwm â'r gwaith hwn ac rwy'n falch bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrthi'n gwneud asesiad ar ran Llywodraeth Cymru ynghylch hynt yr ôl-troed newydd ledled Cymru.
Rwyf hefyd yn cynnig gwneud newidiadau i'r darpariaethau diogelu ac rwyf wedi cyflwyno Gwelliannau'r Llywodraeth i'w hystyried yng Nghyfnod 2. Yn dilyn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, rwyf wedi fy narbwyllo bod mantais o ychwanegu gwasanaethau prawf fel partner statudol ar y Byrddau Diogelu, ar gyfer oedolion a phlant, ac rydyn ni'n trafod natur y ddarpariaeth honno gyda Llywodraeth y DU. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi fy mod yn bwriadu cryfhau'r ddyletswydd i adrodd sydd ar bartneriaid perthnasol – fel yr heddlu, awdurdodau iechyd ac awdurdodau lleol eraill. Os byddant yn penderfynu bod plentyn yn cael ei gam-drin neu'i esgeuluso, neu bod perygl o hynny, mae'n rhaid iddynt adrodd hynny i'r awdurdod lleol perthnasol. Mae llawer o sylw wedi bod yn y cyfryngau am hyn ac rwyf wedi narbwyllo bod hyn yn gam adeiladol tuag at gryfhau'n trefniadau amddiffyn plant yng Nghymru. Bydd yr Aelodau hefyd yn gwybod am fy natganiad diweddar ar y gwaith ynghylch y fframwaith asesu a chymhwyster a fydd yn cyfrannu ymhellach at drefniadau mwy effeithiol ar gyfer diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yng Nghymru.
Mae'r Bil wedi cael llawer o sylw, sy'n gwbl briodol o ystyried ei arwyddocâd. Fodd bynnag, ni allwn anwybyddu'r ffaith bod cynnydd rhagorol hefyd yn digwydd mewn meysydd eraill. Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad yn fuan ar ddiogelu ac amddiffyn plant yn GIG Cymru. Bydd hyn yn amlinellu gwaith rhagorol yn y GIG i sicrhau ei fod yn diwallu ei rwymedigaethau diogelu, ochr yn ochr â phartneriaid statudol eraill lle bo angen. Mae angen i ni sicrhau bod yr holl asiantaethau diogelu allweddol yn cadw golwg gofalus yn yr un modd ar y trefniadau diogelu ac amddiffyn.
Daeth adolygiadau ymarfer plant newydd i rym ar 1 Ionawr yng Nghymru. Mae'r broses newydd hon yn deillio o adroddiad Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2009 – Gwella Ymarfer ar gyfer Amddiffyn Plant yng Nghymru – a ddaeth i'r casgliad bod adolygiadau achosion difrifol bellach yn aneffeithiol o ran gwella ymarfer a chydweithredu rhwng asiantaethau. Bydd adolygiadau ymarfer plant newydd yn parhau i gael eu cynnal o dan yr un amgylchiadau lle mae plentyn yn marw neu'n cael anaf difrifol, a lle mae cam-drin neu esgeuluso yn hysbys neu'n cael ei amau. Bydd yn arf dysgu effeithiol ar gyfer partneriaid diogelu.
Mae'n rhaid gwneud y gwersi a ddysgir o ymarfer yn gwbl sylfaenol i waith dyddiol ymarferwyr rheng flaen er mwyn gwella'r trefniadau sydd gennym ar gyfer amddiffyn y rheini sydd fwyaf agored i niwed. Rwyf eisoes wedi comisiynu gwaith tebyg i ymchwilio i'r ffordd y bydd egwyddorion y fframwaith adolygiadau ymarfer plant yn gweithio i amddiffyn oedolion mewn perygl.
Mae'r Trydydd Sector yn parhau i wneud cyfraniad sylweddol at drefniadau diogelu, ac rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru a Barnardo's Cymru wedi cydweithredu'n ddiweddar i gyhoeddi taflen wybodaeth ar gamfanteisio rhywiol a ddatblygwyd gan bobl ifanc i bobl ifanc i geisio'u cadw'n ddiogel rhag peryglon magu perthynas amhriodol a chamfanteisio.
Mae'r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant (NSPCC) a Gweithredu dros Blant hefyd yn cydweithredu – gyda chymorth Llywodraeth Cymru – i ddatblygu cynllun gweithredu cenedlaethol a chymorth i ymarferwyr er mwyn i ni ddechrau deall yn well y sbectrwm esgeuluso sy'n fwrn ar fywydau cynifer o blant a phobl ifanc, a chymryd camau i ymdrin â'r effeithiau andwyol. Hoffwn hefyd nodi'r gwaith rhagorol y mae'r NSPCC yn ei wneud i helpu i plant i adnabod cam-drin a chodi llais amdano. Mae hyn yn rhan hanfodol o gadw plant yn ddiogel ac mae'n hanfodol bod rhieni a gofalwyr yn cael sgyrsiau cynnar gyda phlant i'w cadw'n ddiogel rhag cam-drin. Mae ymgyrch PANTS yr NSPCC yn ffordd syml o helpu rhieni i addysgu plant maen nhw sy'n berchen ar eu cyrff ac y dylent siarad ag oedolyn maen nhw'n ymddiried ynddo os byddant yn cael ofn neu mewn gofid.
Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cytuno bod cynnydd sylweddol yn cael ei wneud, ond bod llawer i'w wneud o hyd. Byddaf yn sicrhau bod yr Aelodau'n cael eu hysbysu am y datblygiadau diweddaraf.