Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hoffwn roi diweddariad i’r Aelodau ar y gwaith o Ddiogelu ac Amddiffyn Plant o fewn GIG Cymru.

Mae sicrhau bod ein plant yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag niwed yn un o flaenoriaethau pennaf Llywodraeth Cymru. Felly, rwy’n awyddus i sicrhau bod Diogelu ac Amddiffyn Plant o fewn GIG Cymru yn dal i gael lle amlwg ar agenda pob un ohonom, a’n bod ni ac asiantaethau allweddol eraill yn dal i wneud cyfraniad hanfodol at sicrhau bod plant Cymru yn cael eu diogelu a’u hamddiffyn. Rwy’n falch fod cynnydd wedi’i wneud, ond mae’n anorfod fod rhagor o ffordd i fynd. Hwn yw fy natganiad blynyddol i’r Cynulliad Cenedlaethol ar Ddiogelu ac Amddiffyn Plant o fewn GIG Cymru.

Lansiwyd ymgyrch ar 30 Medi i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o beryglon anaf i’r pen yn sgil ysgwyd babanod, mewn cynhadledd a gynhaliwyd gan Wasanaeth Diogelu Plant Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar y cyd â Plant yng Nghymru. Yr Athro Jean White, y Prif Swyddog Nyrsio, oedd yn cadeirio’r digwyddiad. Roedd yr ymgyrch yn canolbwyntio’n llwyr ar ddysgu rhieni am beryglon ysgwyd babanod, gyda golwg ar leihau nifer y babanod sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol fel hyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi diwygio’r cytundeb lefel rhaglen gyda Gwasanaeth Diogelu Plant Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n nodi ein disgwyliadau eglur o ran darparu’r gwasanaeth hollbwysig hwn. Mae’r Gwasanaeth Diogelu Plant yn darparu cyngor annibynnol ar ddiogelu a chefnogaeth gyffredinol i weithgarwch diogelu plant o fewn GIG Cymru. Mae hefyd yn darparu arweinyddiaeth glinigol drwy Rwydwaith Diogelu Plant y GIG. Mae’r Rhwydwaith wedi hen ennill ei blwyf erbyn hyn ac mae ganddo raglen waith sy’n ceisio parhau i hybu arferion da, gan gynnwys rhannu arferion gorau a dysgu, yn ogystal â datblygu polisïau a phrotocolau ar gyfer Cymru gyfan.

Rhoddwyd fframwaith canlyniadau ansawdd newydd ar waith ar draws GIG Cymru. Caiff ei ddefnyddio gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG fel y gallant asesu eu cyfraniad at sicrhau canlyniadau da i blant a phobl ifanc. Bydd y casgliadau blynyddol yn helpu i sefydlu safonau a phennu amcanion pendant a fydd yn llywio gwelliannau drwy Gymru gyfan.

Mae gweithgor arbenigol ar hyfforddiant diogelwch ar gyfer GIG Cymru wedi argymell set gyffredin o safonau, fel bod staff y GIG, ymarferwyr gofal sylfaenol, contractwyr, gwirfoddolwyr a’r trydydd sector yn dilyn yr un drefn wrth ddarparu gwasanaethau.  Mabwysiadwyd y ddogfen rhyng-golegol a gyhoeddwyd gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant ar ran y sefydliadau a gyfrannodd ati, i’w rhoi ar waith ledled Cymru.  Bydd y ddogfen gyfeirio benodol hon yn sicrhau eglurder i bob sector ac yn gwneud yr hyfforddiant ar gyfer staff/contractwyr/gwirfoddolwyr yn fwy perthnasol wrth iddynt symud o gwmpas Cymru a’r DU. Caiff tystiolaeth o’r hyfforddiant ei chofnodi ar y Cofnod Staff Electronig, a bydd hyn yn helpu wrth adrodd i’r Bwrdd Iechyd Lleol am gyfraddau cydymffurfio, a nodi a oes angen diweddaru’r hyfforddiant. Sefydliadau’r GIG a arferai fod yn gyfrifol am ddangos eu bod yn bodloni’r gofynion, ac ymateb i unrhyw ddiffygion. Rhaid i Brif Weithredwyr y Byrddau a’r Ymddiriedolaethau Iechyd sicrhau bod adroddiadau a diweddariadau perthnasol ar hyfforddiant diogelu yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad blynyddol fel mater o drefn.

Rhoddwyd esboniad i’r GIG o’r angen i ailadrodd gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer staff sy’n gofalu am blant. Rhaid i Fyrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd gydymffurfio â gofynion canllawiau Llywodraeth Cymru. Rhaid iddynt sicrhau bod pob gweithiwr gael gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd pan gaiff ei gyflogi gyntaf, os yw hynny’n fandadol, a bod gwiriadau yn cael eu cynnal yn rheolaidd bob 3 blynedd o leiaf, drwy gydol y cyfnod y caiff y gweithiwr ei gyflogi. Rhoddwyd gwybod i’r Byrddau a’r Ymddiriedolaethau Iechyd hefyd fod diffiniad newydd o ‘weithgaredd a reoleiddir’ mewn perthynas â phlant erbyn hyn, yn sgil cyflwyno’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ym mis Rhagfyr 2012. Rhaid i Fyrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd sicrhau bod eu gweithdrefnau gwirio yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ac mai dim ond os yw hynny’n gyfreithiol y cynhelir gwiriadau.

Daeth Adolygiadau Ymarfer Plant newydd i rym yng Nghymru ar 1 Ionawr, gan ddisodli’r Adolygiadau Achos Difrifol. Rwy’n gwybod bod cydweithwyr o fewn y GIG wedi gwneud cyfraniad allweddol at ddatblygu’r trefniadau hyn. Mae’r fframwaith newydd, blaengar hwn yn symud oddi wrth y ‘diwylliant o feio’ a arferai fod yn gysylltiedig ag achosion amddiffyn plant. Dylai hyn wella’r broses o ddysgu ac adolygu ar gyfer pob gweithiwr proffesiynol sy’n ymwneud ag amddiffyn plant. Bydd y fframwaith newydd hwn hefyd yn datblygu ac yn gwella ansawdd a chynaladwyedd y trefniadau sydd gennym heddiw i ddiogelu plant.    

Bellach cyhoeddwyd ffrwyth yr ymchwil i’r defnydd o fframwaith Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) wrth ddatblygu Protocolau ar gyfer Rhannu Gwybodaeth, gan gynnwys yng nghyd-destun diogelu. Byddwn yn gwrando ar farn arweinwyr ar ddiogelu yn y gwasanaeth iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol am y canfyddiadau ac unrhyw gamau y gall fod angen eu cymryd. Caiff hyn ei gyhoeddi wedyn.

Trefnwyd rhaglen waith gyfun yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, yn sgil y ddeddfwriaeth a’r canllawiau, er mwyn parhau i gryfhau trefniadau diogelu amlasiantaeth yng Nghymru. Cyflwynodd Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Fil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i’r Cynulliad ym mis Ionawr. Bydd y Bil yn helpu i greu sylfaen gadarn ar gyfer newid sylfaenol, gan gryfhau trefniadau diogelu ac amddiffyn.    

Bydd y trefniadau newydd hyn yn sicrhau bod asiantaethau lleol yn cael arweiniad mwy cadarn i’w cefnogi, a fframwaith cryfach a mwy effeithiol ar gyfer cydweithio amlasiantaethol. Mae’r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer sefydlu Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol newydd a fydd yn helpu i godi safonau a gwella cysondeb. Bydd hefyd yn gyfrifol am roi gwybod i’r Gweinidogion pa mor ddigonol ac effeithiol yw’r trefniadau diogelu.

Mae Llywodraeth Cymru wastad wedi cydnabod bod cydweithredu amlasiantaethol yn hollbwysig er mwyn diogelu’n effeithiol, a bod diogelu yn fater i bawb. Yn ôl y dystiolaeth sydd o’n blaenau nid yw’r Byrddau Lleol Diogelu Plant yn gweithio yn y ffordd roeddem wedi gobeithio, ac ni allant ddangos eu bod yn diogelu plant yn effeithiol. Mae angen mynd i’r afael â hyn a sicrhau bod gennym well fframwaith ar gyfer gweithredu sy’n sicrhau bod gwaith y Byrddau yn gwella ac yn dod yn fwy cyson. Mae’r Dirprwy Weinidog wedi credu erioed bod angen cael llai o Fyrddau er mwyn gwneud hyn, a hynny er mwyn sicrhau cysondeb, gwella’r ffordd maent yn gweithredu a’u gwneud yn fwy cynaliadwy. Gwn fod sawl ardal yng Nghymru eisoes wedi sefydlu patrwm mwy cydweithredol, ymhell cyn i’r ddeddfwriaeth ddod i rym.  

Sefydlodd y Dirprwy Weinidog y Panel Cynghori ar Ddiogelu yn ddiweddar. Phil Hodgson yw’r cadeirydd ac mae’r Panel yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu’r trefniadau manwl i sicrhau bod darpariaethau’r Bil yn cael eu gweithredu’n effeithiol. Mae’n hollbwysig bod GIG Cymru yn sicrhau bod hyn wrth wraidd y gwaith hanfodol hwn.  

Mae’r Dirprwy Weinidog wedi paratoi datganiad ysgrifenedig ar hynt y gwaith o ddatblygu trefniadau diogelu ac amddiffyn i’w gweithredu drwy’r Bil. Mae’r Bil yn ceisio chwalu rhwystrau artiffisial sy’n seiliedig ar oed, ac yn cyflwyno’r cysyniad ehangach o fodel yn seiliedig ar bobl. Yng nghyd-destun diogelu, bydd hyn i’w weld yn fwyaf amlwg yn sgil sefydlu Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol ar gyfer plant ac oedolion fel ei gilydd, wedi i’r Cynulliad Cenedlaethol graffu arno a’i gymeradwyo. Rwyf o blaid symud ymlaen fel hyn ac rwy’n bwriadu gweithredu mewn modd tebyg yn fy natganiadau Gweinidogol pellach, a fydd yn mynd i’r afael â chyfrifoldebau diogelu’r GIG ar gyfer plant ac ar gyfer oedolion y bernir eu bod mewn perygl.