Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Hoffwn roi gwybod i’r Aelodau, yn unol â’r egwyddorion sydd wedi’u hymgorffori yn Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru, fy mod wedi cytuno, yn ffurfiol, i ddileu’r cyllid a ddefnyddiwyd yn ystod pandemig COVID-19 i gaffael cydrannau y bwriadwyd eu defnyddio ar gyfer cynlluniau arfaethedig i ddatblygu dyfeisiau CPAP (gwasgedd aer positif parhaus) yng Nghymru. Yn y pen draw, ni chafodd y cydrannau (a gafodd eu caffael yn ystod adeg pan oedd problemau yn y gadwyn cyflenwi fyd-eang ar frig y pandemig) eu defnyddio i adeiladu unedau CPAP oherwydd, yn ffodus, ni wnaeth y galw am unedau awyru CPAP gyrraedd y ffigurau modelu cychwynnol a gyfrifwyd.
Ar ôl cyfarwyddo swyddogion i wneud pob ymdrech i werthu, neu ddod o hyd i ffordd arall o ddefnyddio’r cydrannau a brynwyd yn ystod blynyddoedd ariannol 2020 a 2021 am gyfanswm o £565,197.84, nid yw hyn wedi bod yn bosibl oherwydd roedd y cydrannau o safon feddygol wedi’u gwneud i’r pwrpas ac nid oeddent yn cynnwys unrhyw fetelau gwerthfawr na chydrannau electronig prin a fyddai’n addas ar gyfer eu defnyddio rywle arall. Er gwaethaf trafodaethau eang â chyflenwyr / gweithgynhyrchwyr cydrannau, cyrff diwydiannol, gweithgynhyrchwyr lleol, y byd academaidd ac Innovate UK, ni fu’n bosibl denu diddordeb ac adennill y gwerth marchnadol.
Fodd bynnag, rwy’n hynod falch o gyhoeddi y rhoddwyd nifer sylweddol o’r unedau i Sgiliau Addysg Peirianneg Cymru (EESW) i’w defnyddio yn y prosiectau her dylunio i ysgolion y bydd yn eu cynnal dros y blynyddoedd i ddod. Bydd y gweddill yn cael eu hailgylchu yng Nghymru gan gwmnïau ailgylchu lleol yn dilyn proses tendro gystadleuol.