Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ymrwymodd Gweinidogion Cymru yn gynharach eleni i wneud yn siŵr nad yw llywodraeth leol bellach yn codi ffioedd am gladdu plant.

Cafodd hyn ei wneud i gydnabod bod y cynghorau’n amrywio’n sylweddol o ran eu harferion ar hyn o bryd – o ran codi ffioedd o gwbl, maint y ffioedd, a hyd yn oed sut y diffinnir plentyn at y diben hwn. Mae’n anodd cyfiawnhau y gallai teulu sy’n claddu plentyn mewn un rhan o Gymru orfod talu cannoedd o bunnoedd i’r awdurdod lleol tra bod teulu mewn rhan arall o Gymru yn talu dim.  

Mae’r ymrwymiad hwn wedi’i lunio drwy gydweithio’n agos â llywodraeth leol, gan gydnabod y camau sydd wedi’u cymryd yn barod gan rai cynghorau, ac adeiladu ar hynny.

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi llofnodi cytundeb gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Un Llais Cymru i ddileu ffioedd claddu ac amlosgi ar gyfer plant. Bydd hyn yn sicrhau bod dull gweithredu teg a chyson ar waith drwy Gymru.

I helpu llywodraeth leol i gymryd y cam hwn, mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i gydnabod y bydd goblygiadau ariannol yn sgil rhoi’r gorau i godi’r ffioedd.

Bydd y cyllid ar gael i bob awdurdod lleol ar sail fformiwla sefydledig. Bydd disgwyl iddynt wneud trefniadau’n lleol i ddosbarthu swm priodol o’r cyllid i gynghorau cymuned a darparwyr mynwentydd ac amlosgfeydd eraill yn eu hardal, sy’n gyfrifol am gladdu a/neu amlosgi ac sydd wedi cytuno i beidio â chodi ffioedd.  

Amgaeir copi o’r cytundeb.