Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Rwy'n ysgrifennu atoch i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) a gyflwynwyd ar 20 Mai 2024 ac sydd ar hyn o bryd yng Nghyfnod 2 y broses graffu. Fel y gwyddoch, mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau sy'n ymwneud â gofal plant sy'n derbyn gofal, gan gynnwys manylu ar fodelau darpariaeth a ganiateir yn y dyfodol sy'n seiliedig ar gynllunio sy'n gysylltiedig ag amserlenni gweithredu.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried argymhellion y Pwyllgor yn ofalus, a'r hyn y mae rhanddeiliaid allweddol wedi'i ddweud wrthym. Mae hyn yn cynnwys ystyried ymestyn yr amserlenni ar gyfer gweithredu'r darpariaethau pontio sydd wedi bod yn nodwedd o'r Bil ers ei sefydlu (‘y cyfnod pontio’). Bwriad gweithredu'r darpariaethau pontio hyn ar gyfer cyfnod sefydlog, penodol, yw rhoi digon o amser i awdurdodau lleol gynllunio a datblygu eu darpariaeth eu hunain a rhoi digon o amser i'r darparwyr gwasanaethau plant o dan gyfyngiad sy'n dymuno ailsefydlu eu busnes o dan fodel nid-er-elw a ganiateir i wneud hynny. Mae cael cyfnod o'r fath hefyd yn lleihau'r risg o darfu ar leoliadau plant presennol drwy alluogi darparwyr “er-elw” presennol y gwasanaethau newydd o dan gyfyngiad i barhau i weithredu tra bod darpariaeth newydd yn cael ei datblygu a'i rhoi ar waith.
Newidiadau i Amserlen y Cyfnod Pontio
O dan ein cynlluniau pontio presennol, bydd rhaid i ddarparwyr newydd sy'n cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru i ddarparu gwasanaeth plant o dan gyfyngiad fod â statws nid-er-elw o 1 Ebrill 2026. Bydd darparwyr er-elw presennol yn destun cyfyngiadau pontio o 1 Ebrill 2027 oni bai eu bod yn ailsefydlu eu busnes ar ffurf model nid-er-elw a ganiateir. Bydd y cyfyngiadau pontio yn atal darparwyr o'r fath rhag cofrestru cartrefi newydd neu gymeradwyo gofalwyr maeth newydd; bydd y darpariaethau hefyd yn golygu y bydd awdurdodau lleol yng Nghymru ond yn gallu lleoli plant gyda darparwyr o'r fath gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.
Rwy'n ymwybodol bod gan ddarparwyr presennol ac awdurdodau lleol bryderon ynghylch yr amserlen arfaethedig a’u bod wedi tynnu sylw at y risg y bydd bwlch yn narpariaeth lleoliadau cartrefi plant a gwasanaethau maethu ac effaith andwyol ar blant a phobl ifanc o ganlyniad. Rwy'n deall yn iawn bod angen amser ar awdurdodau lleol i ddatblygu digonolrwydd y ddarpariaeth fewnol a dielw, yn enwedig cartrefi preswyl, a'i bod yn cymryd amser i unrhyw ddarparwr er-elw sy'n dymuno ailsefydlu o dan y modelau nid-er-elw a ganiateir i gael cofrestriad fel sefydliad elusennol. Rwyf hefyd yn ymwybodol o'r heriau ariannol o ystyried y pwysau cyllidebol ehangach o fewn awdurdodau lleol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cefnogi awdurdodau lleol i ddatblygu eu darpariaeth gofal plant mewnol ers sawl blwyddyn drwy wahanol ffrydiau cyllido cyfalaf a refeniw. Mae'r ffrydiau cyfalaf presennol yn cynnwys y Gronfa Tai â Gofal a'r Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ailgydbwyso, gyda chyllid refeniw ar gael trwy'r Gronfa Integreiddio Rhanbarthol a'r Gronfa Diwygio Gofal Cymdeithasol. Byddwn, wrth gwrs, yn parhau i ddarparu cymorth drwy gyllid refeniw a chyfalaf wrth i ni symud ymlaen. Fodd bynnag, byddai cyfnod hirach cyn i'r cyfyngiadau pontio ddod i rym yn llawn ar gyfer darparwyr presennol yn caniatáu i awdurdodau lleol ledaenu’r costau hyn.
Rwyf wedi ystyried rhinweddau gwahanol amserlenni yn ofalus er mwyn sicrhau cydbwysedd priodol rhwng rhoi amser cynllunio ac amser gweithredu ychwanegol i awdurdodau lleol a darparwyr tra'n cynnal y bwriad polisi i ddileu elw o ofal plant sy'n derbyn gofal. Mae sicrhau darpariaeth gynaliadwy hirdymor sy'n diwallu anghenion ein plant mwyaf agored i niwed yn hanfodol ond mae'n rhaid i ni hefyd liniaru unrhyw effeithiau niweidiol anfwriadol arnynt.
I'r perwyl hwnnw, rwy’n bwriadu addasu'r trefniadau pontio fel a ganlyn:
- Gwanwyn 2025 – rhagwelir y ceir Cydsyniad Brenhinol ar gyfer y Bil.
- O 1 Ebrill 2026 – ni fydd unrhyw ddarparwyr er-elw newydd o wasanaethau plant o dan gyfyngiad (cartrefi gofal, gwasanaethau maeth a llety diogel) yn gallu cofrestru yng Nghymru.
- O 1 Ebrill 2027 - ni fydd modd ychwanegu unrhyw welyau na gofalwyr maeth ychwanegol at gofrestriadau darparwyr er-elw presennol ar gartrefi gofal, gwasanaethau maethu na llety diogel.
- 1 Ebrill 2030 – ni fydd modd i awdurdodau lleoli yn Lloegr leoli plant o’r newydd mewn cartrefi gofal plant er-elw, gyda darparwyr gwasanaethau maeth nac mewn llety diogel ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol a bennir yn y rheoliadau. Dim lleoliadau newydd gan awdurdodau lleoli yng Nghymru oni bai y ceir cymeradwyaeth Weinidogol drwy'r broses lleoliadau atodol a nodir yn y Bil.
Modelau Nid-er-elw
Mae ein deddfwriaeth yn nodi bod yn rhaid i fodelau gweithredu a ganiateir yn y dyfodol (endidau nid-er-elw) fodloni'r egwyddor na ddylid talu difidendau i gyfranddalwyr neu aelodau ac y dylid ailfuddsoddi gwargedion masnachu yn y gwasanaeth (gan gynnwys adeiladu cronfeydd wrth gefn a gwariant cyfalaf priodol). Bydd hefyd yn ofynnol i endid nid-er-elw feddu ar amcanion neu ddibenion sy'n ymwneud yn bennaf â llesiant plant neu fudd cyhoeddus arall fel y pennir gan Weinidogion Cymru.
Diffinnir endid nid-er-elw yn y Bil fel:
(a) cwmni elusennol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau,
(b) sefydliad elusennol corfforedig,
(c) cymdeithas gofrestredig elusennol, neu
(d) cwmni buddiant cymunedol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau.
Mae adborth gan ddarparwyr gofal preswyl er-elw wedi cynnwys cynigion i ehangu'r modelau a ganiateir i gynnwys modelau eraill fel Ymddiriedolaeth Perchnogaeth gan y Gweithwyr a chymdeithas gydweithredol. Rwyf wedi ystyried y mater hwn yn ofalus ond rwyf wedi dod i'r casgliad, er mwyn sicrhau uniondeb ein deddfwriaeth a'n bwriad polisi, na fyddai'n briodol ychwanegu Ymddiriedolaethau Perchnogaeth gan y Gweithwyr na chwmnïau cydweithredol, fel y diffiniwyd o dan Ddeddf Cwmnïau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014,at y rhestr o fodelau a ganiateir yn y Bil.
Mae Ymddiriedolaethau Perchnogaeth gan y Gweithwyr yn berchen ar gyfranddaliadau mewn cwmnïau ar ran yr holl weithwyr ac maent yn cael eu goruchwylio gan Ymddiriedolwyr sy'n gofalu am eu buddiannau. Pe bai Ymddiriedolaeth Perchnogaeth gan y Gweithwyr yn fodel a ganiateir, byddai hyn yn golygu mewn gwirionedd ein bod yn ychwanegu cwmni cyfyngedig trwy gyfranddaliadau fel model derbyniol. Y rheswm dros hyn yw, waeth sut bydd yr Ymddiriedolaeth Perchnogaeth gan y Gweithwyr yn berchen ar y cyfranddaliadau yn y cwmni, byddai'r cwmni ei hun yn gwmni cyfyngedig gan gyfranddaliadau. Mae strwythur yr Ymddiriedolaeth Perchnogaeth gan y Gweithwyr hefyd yn golygu y bydd y baich rheoleiddio yn disgyn ar Arolygiaeth Gofal Cymru yn unig, yn wahanol i'r modelau presennol a nodir yn y Bil.
Bu galwadau tebyg i ychwanegu cwmnïau cydweithredol at y rhestr o fodelau a ganiateir. Fel y gwyddoch, mae cymdeithasau cydweithredol yn cael eu hannog yn gryf gan Lywodraeth Cymru, ond mae'n ofynnol i Gwmnïau Cydweithredol, fel y diffiniwyd o dan Ddeddf Cwmnïau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014, gael eu sefydlu er budd aelodau cydweithredol, ac nid yw’r gofyniad hwn yn cyd-fynd â'n polisi, sef mai lles plant yw'r prif ddiben. Fodd bynnag, mae trefniadau wedi’u mabwysiadu gan sefydliadau sy’n cadw at werthoedd ac egwyddorion y cwmnïau cydweithredol, ac os yw’r rhain yn gweithredu o fewn un o’r pedwar math o ymgymeriad a ganiateir yn y Bil, gallant fodloni’r gofynion nid-er-elw. Byddwn yn parhau i weithio gyda sefydliadau yn y maes hwn.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i sicrhau nad oes gennym farchnad ar gyfer gofalu am blant sy'n derbyn gofal ac i sicrhau nad yw'r holl arian cyhoeddus a fuddsoddir mewn llety a gwasanaethau maethu yn cael ei dynnu allan fel elw neu gyfranddaliadau neu fonysau, ond yn hytrach yn cael ei ail-fuddsoddi i gefnogi gwell canlyniadau i'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed.
Rwy'n awyddus i sicrhau y gellir cynnal y cyfnod pontio mewn ffordd ofalus ac ystyriol, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth i ddarparwyr er-elw ac nid-er-elw fel rhan o'r broses hon.