Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip
Mae Dihuno’r Dychymyg: Barddoniaeth yn y Senedd yn rhaglen o ddigwyddiadau yn y Senedd a drefnir gan Llenyddiaeth Cymru i godi proffil barddoniaeth a’r gair llafar.
Ar adeg o raniadau cynyddol ac ansicrwydd byd-eang, mae gan farddoniaeth y potensial i'n cysylltu a'n helpu i wneud synnwyr o'r byd. Gall ein dysgu sut i ddychmygu a pharchu profiadau pobl eraill a gall helpu i gyfleu syniadau a pholisïau cymhleth mewn ffordd sy'n gysylltiedig â'n bywydau bob dydd.
Gyda naw digwyddiad dros y pedair blynedd nesaf, bydd Dihuno’r Dychymyg: Barddoniaeth yn y Senedd yn rhoi llwyfan i leisiau amrywiol o bob cwr o Gymru ac yn ennyn diddordeb pobl o bob oed a chefndir. Mae hefyd yn dangos ein hymrwymiad i hyrwyddo diwylliant llenyddol Cymru.
Cynhelir y digwyddiad lansio yn y Pierhead rhwng 11.30 a 1.30 ar 14 Mehefin. Gwahoddir holl Aelodau'r Senedd i'r digwyddiad cyntaf. Bydd y digwyddiad yn cynnwys amrywiaeth o berfformiadau barddonol gan awduron sy'n gysylltiedig ag un o brosiectau blaenllaw Llenyddiaeth Cymru – Cynrychioli Cymru.