Eluned Morgan AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae'n bleser gennyf roi gwybod i'r aelodau am y cyfle a gefais i gymryd rhan mewn digwyddiad diweddar yn Fenis, i nodi 20 mlynedd ers sefydlu Swyddfa Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Buddsoddi mewn Iechyd a Datblygu.
Roedd y digwyddiad, Ailddychmygu economi ar gyfer cymdeithasau cryf ac iachach heb adael neb ar ôl, yn gyfle i ddod â gweinidogion a chydweithwyr o bob rhan o Ewrop ynghyd i drafod yr economi llesiant.
Daeth llywodraethau, arbenigwyr, cynghreiriau ieuenctid, penaethiaid sefydliadau datblygu economaidd, cyrff anllywodraethol, ac asiantaethau iechyd cyhoeddus at ei gilydd i ganolbwyntio ar rai o'r heriau mawr sy'n wynebu gwledydd, gan gynnwys cymdeithasau sy'n heneiddio, iechyd meddwl ieuenctid a chynhwysiant cymdeithasol, cydraddoldeb rhywedd, systemau cyhoeddus cadarn, a rhaniadau trefol-gwledig.
Roedd y digwyddiad yn tynnu ynghyd wybodaeth, arloesedd a'r arferion gorau i'w defnyddio fel sail i drafod atebion fforddiadwy, ymarferol, a chynhwysol ar gyfer creu cadernid cenedlaethol, sicrhau datblygu cynaliadwy, a chyflymu'r newid tuag at fod yn economïau llesiant.
Mae Llywodraeth Cymru yn un o chwe llywodraeth sy'n rhan o Rwydwaith Llywodraethau'r Economi Llesiant. Mae ein gwaith gyda Sefydliad Iechyd y Byd yn ein galluogi i ystyried sut y gall y system iechyd a gofal helpu i greu economi sy'n gwasanaethu pobl a'r blaned.
Rwy'n falch mai Cymru fydd yn cynnal y ddeialog ar bolisi economi llesiant yn nes ymlaen eleni, gan ganolbwyntio ar iechyd - y ddeialog gyntaf i wneud hyn.
Bydd Sefydliad Iechyd y Byd yn cyhoeddi astudiaeth drylwyr o'r economi llesiant yng Nghymru, fel rhan o gyfres o astudiaethau sy'n casglu manylion am brofiadau gwledydd wrth iddynt symud tuag at fod yn economi llesiant yn Rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd.
Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ym mis Chwefror ynglŷn ag adnewyddu’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Swyddfa Rhanbarth Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd. Mae hwn yn cynnwys meysydd sy'n ymwneud â thegwch a hawliau iechyd; yr angen i fuddsoddi mewn iechyd a llesiant a'r amodau sylfaenol sy'n hanfodol i iechyd; a’r rheidrwydd i sicrhau datblygu cynaliadwy a ffyniant i bawb.
Bydd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, ynghyd â'n gwaith ar yr economi llesiant, yn ein helpu i gryfhau ein cysylltiadau rhyngwladol, gan ddarparu sbardun cryf i'n helpu i gyflawni'r nod o greu Cymru iachach a mwy ffyniannus.