Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Mae heddiw yn ddiwrnod pwysig iawn i mi ac i bawb arall sydd â diddordeb mewn Addysg yng Nghymru. Mae’n bleser o’r mwyaf cael cymryd rhan yn nigwyddiad cenedlaethol cyntaf Her Ysgolion Cymru, “Mae pob plentyn yn gallu llwyddo’. Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi’r cyfle cyntaf i Benaethiaid a Chadeiryddion Llywodraethwyr o Ysgolion Llwybrau Llwyddiant ledled Cymru gyfarfod â’i gilydd a datblygu dealltwriaeth gyffredin o’r rhaglen. Bydd Cynghorwyr newydd eu penodi Her Ysgolion Cymru yn bresennol hefyd, ynghyd â Rheolwyr Gyfarwyddwyr Consortia Addysg Rhanbarthol, Cyfarwyddwyr Awdurdodau Lleol a swyddogion Llywodraeth Cymru, wrth i ni ddechrau ar y broses o greu partneriaethau a chytuno ar drefniadau i symud yr agenda bwysig hon ymlaen.
Bydd y digwyddiad hwn yn fan cychwyn ar gyfer deialog bwysig wrth i ni ystyried sut i gydweithio er mwyn gwella safonau ar gyfer plant a phobl ifanc ym mhob ysgol yng Nghymru. Mae lleihau effaith amddifadedd ar gyrhaeddiad addysgol yn hollbwysig i bob ysgol, ac mae’n arbennig o bwysig ar gyfer ein hysgolion Llwybrau Llwyddiant; dyna pam rwyf wedi dewis y digwyddiad pwysig hwn i lansio Rhaglen Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol: Ailysgrifennu’r Dyfodol: codi uchelgais a chyrhaeddiad yn ysgolion Cymru.
Mae Ailysgrifennu’r Dyfodol yn amlygu’r angen dybryd i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar lefelau cyrhaeddiad addysgol. Mae’n cydnabod y bwlch rhwng cyrhaeddiad dysgwyr sydd â hawl i brydau ysgol am ddim a disgyblion heb hawl i brydau ysgol am ddim, ac yn canolbwyntio ar dangyflawniad difrifol disgyblion o gefndiroedd difreintiedig. Mae’r ystadegau’n dangos y gwir plaen bod cyrhaeddiad dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig yng Nghymru yn llawer rhy isel a bod cynnydd i wella canlyniadau yn llawer rhy araf.
Mae Ailysgrifennu’r Dyfodol yn nodi ymrwymiadau a disgwyliadau Llywodraeth Cymru o dan bedair thema:
- Ymgysylltu â’r Teulu a’r Gymuned
- Y Blynyddoedd Cynnar
- Dysgu ac Addysgu o Ansawdd Uchel
- Disgwyliadau a Dyheadau Uchel
Un o themâu allweddol y Rhaglen Amddifadedd, ac un sy’n sylfaen i Her Ysgolion Cymru, yw’r ffaith nad yw’n ddigon da defnyddio tlodi fel esgus ar gyfer tangyflawni. Dylid gosod disgwyliadau uchel ar gyfer pob disgybl, waeth beth fo’i gefndir.
Mae ysgolion Llwybrau Llwyddiant yn gwasanaethu dysgwyr sy’n byw mewn rhai o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Gyda’i gilydd maent yn addysgu dros 8,000 o ddisgyblion sydd â hawl i brydau ysgol am ddim. Oherwydd eu cefndir, mae’r 8,000 o ddisgyblion hynny yn debygol o berfformio’n waeth na’u cymheiriaid.
Galwad i weithredu yw Ailysgrifennu’r Dyfodol. Mae’n nodi’r hyn y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei wneud, a’r hyn y bydd yn ei wneud yn y dyfodol, i fynd i’r afael ag effaith tlodi. Ond mae hefyd yn pwysleisio swyddogaeth ysgolion a’r consortia rhanbarthol hefyd, gan nodi bod yr amcan yn un cyffredin. Mae’r ddogfen hon yn nodi ymrwymiadau ar gyfer Llywodraeth Cymru a’r camau y dylai’r consortia a’r ysgolion eu rhoi ar waith i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn gallu gwireddu ei botensial yn llawn waeth beth fo’i gefndir teuluol ac incwm ei rieni.
Fy ngobaith yw y bydd pob ysgol yn ymateb i’r alwad i weithredu ac y bydd ysgolion Llwybrau Llwyddiant yn arwain y ffordd o fynd i’r afael â’r mater hwn. Bydd ein Cynghorwyr Her Ysgolion Cymru, sydd newydd eu penodi, ar gael i ddarparu cymorth a her wrth iddynt symud yr agenda bwysig hon ymlaen. Mae’r unigolion hyn yn alluog tu hwnt, ac mae ganddynt hanes llwyddiannus o drawsnewid addysg ar gyfer plant a phobl ifanc. Bydd y Cynghorwyr yn gweithio drwy Gonsortia Addysg Rhanbarthol ac fel rhan o dîm cenedlaethol Her Ysgolion Cymru i gyfrannu at broses wella pob ysgol, gan ddarparu cymorth cyson i arweinwyr a hyrwyddo neges ddiwyro o annog ysgolion i wella.
Mae rhestr lawn o Gynghorwyr Her Ysgolion Cymru, a’r Ysgolion Llwybrau Llwyddiant sydd wedi’u paru â nhw, i’w gweld isod.