Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fore 24 Ionawr, cafwyd mater technegol a achosodd ddiffyg yn y ddwy ganolfan ddata sy'n cael eu gweithredu gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) ar ran Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru.

Effeithiodd y digwyddiad ar ddau ddeg chwech o systemau sy'n cael eu lletya'n genedlaethol sy'n rheoli apwyntiadau i gleifion ac sy'n rhannu atgyfeiriadau cleifion, canlyniadau profion, canlyniadau labordai a cheisiadau gan feddygon teulu am brofion. Cafodd system e-bost GIG Cymru ei heffeithio hefyd.

Yn ystod y digwyddiad, cafodd cynlluniau parhad busnes eu rhoi ar waith gan bob Bwrdd Iechyd i sicrhau bod staff a chleifion GIG Cymru yn cael eu cefnogi yn ystod y diffyg gwasanaeth hwn ac, o ganlyniad, roedd modd parhau i roi gofal a thriniaeth. Fodd bynnag, gan fod y digwyddiad hwn wedi effeithio ar ein staff rheng flaen, wynebodd cleifion oedi, er enghraifft o safbwynt derbyn canlyniadau profion.

Erbyn 16:15 ar yr un diwrnod roedd pob system yn weithredol, ac roedd popeth yn gweithio fel arfer erbyn 20:00.

Hoffwn ddiolch i'n holl staff technegol yn GIG Cymru a weithiodd mor ddiwyd i ddatrys y mater hwn cyn gynted â phosibl. Hoffwn ddiolch hefyd i'n holl staff rheng flaen a barhaodd i gynnig gwasanaethau rhagorol i bobl Cymru mewn amgylchiadau anodd.

Ar ôl i'r mater gael ei ddatrys, cafodd ymchwiliad ei ddechrau gan NWIS i ddarganfod beth oedd achos y diffyg yn y canolfannau data a chytunais y byddwn yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig pan fyddai'r adolygiad hwnnw wedi dirwyn i ben.

Yn gyntaf, gallaf gadarnhau nad ymosodiad seiber oedd hwn ac nad oedd unrhyw berygl i gadernid cofnodion cleifion o ganlyniad i'r digwyddiad hwn.

Gallaf gadarnhau hefyd fod yr ymchwiliad wedi dod i'r casgliad mai problem gyda'r offer waliau tân oedd achos y digwyddiad. Cododd y broblem pan gafodd newid rheolaidd i wneud i wal dân. Mae gweithgynhyrchwr yr offer wedi cadarnhau bod y wal dân wedi ymddwyn mewn modd na ellid fod wedi'i ragweld ac na ddylai'r newid fod wedi cael effaith mor andwyol.

Daeth y gweithgynhyrchwr o hyd i newidiadau i gyfluniad y waliau tân er mwyn osgoi amgylchiadau tebyg eto a chafodd y newidiadau hynny eu cymhwyso'n llwyddiannus i'r offer wal dân am 7.30 ddydd Mercher 31 Ionawr. Mae newidiadau eraill wedi cael eu gwneud hefyd er mwyn monitro gweithgarwch waliau tân yn well.

Er bod methiant TG o'r math hwn yn anghyffredin yn GIG Cymru, mae fy swyddogion yn gweithio gyda Byrddau Iechyd a NWIS i ddatblygu ffordd newydd o gyfathrebu am ymosodiadau seiber a digwyddiadau TG, er mwyn  tynnu sylw rhanddeiliaid at ddigwyddiadau yn y dyfodol a rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â hwy.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.