Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddwyd dyfarniad gan y Llys Gwarchod [heddiw] am Gymro a oedd mewn cyflwr diymateb parhaol ac a oedd yn cael triniaeth cynnal bywyd am lawer iawn o flynyddoedd. Mae'r person hwn bellach wedi marw, wedi i'r Llys Gwarchod ganiatáu i'r driniaeth gael ei thynnu'n ôl.

Efallai bod aelodau hefyd yn ymwybodol o ddyfarniadau llys eraill a wnaed yn ddiweddar yn ymwneud â'r angen i gymryd camau cyfreithiol ym mhob achos, cyn bod triniaeth cynnal bywyd yn cael ei thynnu'n ôl wrth bobl sydd mewn cyflwr diymateb parhaol neu gyflwr lled-anymwybodol. Fis Medi eleni, daeth y Llys Gwarchod i’r casgliad mewn dyfarniad pwysig y bydd penderfyniad i dynnu'n ôl maeth a hydradiad gyda chymorth clinigol, a wneir gan glinigwyr yn unol â'r canllawiau proffesiynol cyffredinol a’r fframweithiau statudol perthnasol, yn gyfreithlon. Ond roedd y llys yn awyddus i bwysleisio ei fod wastad ar gael pan fo anghytundebau yn codi, neu pan teimlir y dylid cyflwyno achos i’r llys am ryw reswm arall.

Mae'r materion hyn yn gymhleth, yn sensitif ac yn bwysig, ac mae Llywodraeth Cymru yn monitro datblygiadau pellach yn agos. Yn y cyfamser, rwyf am fod yn sicr bod gan y rheini sy’n gweithio yn y sector iechyd a gofal yma yng Nghymru yr adnoddau angenrheidiol i ymdrin â materion o'r fath, pe baent yn gorfod eu hwynebu. Felly, rydym yn cymryd nifer o gamau i ddeall y sefyllfa bresennol yng Nghymru, mewn perthynas â phobl sydd mewn cyflwr diymateb parhaol neu gyflwr lled-anymwybodol. Yn hyn o beth, bydd y Prif Swyddog Meddygol yn ysgrifennu at bob bwrdd iechyd yng Nghymru i asesu'r nifer posibl o achosion yng Nghymru a chael sicrwydd bod eu diagnosis, eu gofal a'u triniaeth er eu budd nhw eu hunain.

Mae'r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol wedi cwrdd â theulu'r unigolyn sydd dan sylw yn y dyfarniad [heddiw] ac nid ydynt am dynnu sylw gormodol at eu sefyllfa. Ond maent yn awyddus bod gwersi'n cael eu dysgu o'u profiad.

Mae angen i ni ddeall sut y gwnaethpwyd penderfyniadau yn yr achos penodol hwn a gweithio’n agos gyda’r bobl berthnasol i sicrhau bod gwersi priodol yn cael eu dysgu.

Gan ystyried yr achos unigol hwn, a dyfarniadau llys yn  ehangach, rwyf hefyd wedi gofyn i swyddogion feddwl, ar ôl ystyried pob agwedd berthnasol ac yng ngoleuni unrhyw ddatblygiadau pellach yn y maes hwn, a oes angen rhagor o ganllawiau, addysg neu hyfforddiant ar y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.

Er parch i ddymuniadau'r teulu, nid wyf wedi rhoi manylion llawn yr achos gyda'r datganiad hwn, a byddwn yn annog pawb i barchu eu preifatrwydd.