Kirsty Williams, AS, y Gweinidog Addysg
Yn fy natganiad polisi addysg uwch ar 4 Mai, cynigiais yr angen am gyfyngu ar y gyfradd dderbyn yn y sector addysg uwch yng Nghymru. Gosodwyd fy nghynnig yng nghyd-destun derbyniadau addysg uwch fel mater ledled y Deyrnas Unedig a oedd yn gofyn am ddull cydgysylltiedig ar draws y pedair gwlad ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21.
Blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod pob ymgeisydd israddedig llawnamser o Gymru sy'n meddu ar gymwysterau yn gallu dechrau addysg uwch yn y flwyddyn academaidd 2020/21. Rwyf am ddarparu cyfleoedd yng Nghymru i bobl ifanc symud ymlaen â'u haddysg ac osgoi dod yn bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) a darparu cyfleoedd hefyd ar lefel addysg uwch i weithwyr sydd wedi'u dadleoli, i gael sgiliau uwch neu sgiliau gwahanol newydd. Rwyf hefyd eisiau cynyddu capasiti sefydliadau Cymru i’r eithaf i recriwtio myfyrwyr newydd yn sgil y ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi cyfyngiadau newydd ar ymgeiswyr sy’n hanu o Loegr.
Rwyf heddiw wedi ysgrifennu at CCAUC er mwyn gofyn i’r Cyngor gymryd y camau y mae yn eu hystyried yn briodol i sefydlogi’r sector yng Nghymru, heb gael effaith andwyol ar gynnig cyfleoedd i ddysgu yng Nghymru.
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad i roi’r diweddaraf i aelodau. Os yw aelodau am imi wneud datganiad arall neu ateb cwestiynau pan fydd y Senedd yn dychwelyd byddwn i’n hapus i wneud hynny.