Julie James, Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth
Mae sgiliau i'n pobl ifanc ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) yn hanfodol ar gyfer eu llwyddiant yn y dyfodol, ac i sicrhau bod gan fusnesau Cymru y sgiliau sydd eu hangen arnynt. Mae diffyg gweithwyr STEM yn y DU (69,000 bob blwyddyn) a bydd busnesau'n dibynnu fwyfwy ar sgiliau STEM yn y dyfodol. Felly, mae galw am bobl â sgiliau STEM ac mae ganddynt gyfleoedd gyrfa da yn y tymor hir.
Mae merched yn gwneud yn well na bechgyn yn y rhan fwyaf o bynciau ar lefel TGAU - ac yn well fyth mewn pynciau STEM na phynciau eraill - ond mae llawer mwy o fechgyn yn mynd ymlaen i astudio gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg ymhellach. O ganlyniad, mae menywod wedi'u tangynrychioli'n sylweddol yn y gweithlu STEM - yn 2016, dim ond 21% o'r rheini sy'n gweithio mewn galwedigaethau STEM craidd oedd yn fenywod. Os ydym am sicrhau'r dyfodol gorau posibl ar gyfer ein gwlad, mae angen i ni ddefnyddio talentau'r boblogaeth gyfan.
Fe wnaeth Prif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cymru, yr Athro Julie Williams, gomisiynu grŵp gorchwyl a gorffen annibynnol i ddarparu adroddiad i ni ar sut y gallwn gynyddu nifer y menywod sy'n gweithio ym maes STEM yng Nghymru. Mae ‘Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus’ yn gwneud argymhellion ynghylch sut y gallwn:
Menywod dawnus ar gyfer Cymru lwyddiannus
- sicrhau bod astudio pynciau STEM yn berthnasol i ferched ac yn rhywbeth maen nhw’n ei fwynhau
- recriwtio mwy o fenywod ym maes STEM
- cadw menywod yng ngweithlu STEM
- annog menywod i ymgymryd â swyddi arweiniol
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o'r 33 o argymhellion yn yr adroddiad, ac mae angen i Lywodraeth Cymru roi dau ohonynt ar waith yn benodol:
- Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod cyflawni gwell cydbwysedd rhwng y ddau ryw mewn pynciau STEM yn thema mewn polisïau a rhaglenni addysgol ar gyfer hyfforddiant athrawon, diwygio’r cwricwlwm, cyngor ar yrfaoedd, prentisiaethau a chyllid addysg bellach ac addysg uwch.
- Dylai Llywodraeth Cymru adolygu ei chymorth ar gyfer gofal plant ac ystyried beth arall y gall ei wneud i gynorthwyo ystod ehangach o rieni gyda chostau gofal plant – gyda’r nod tymor hir o ddatblygu cynnig o ansawdd uchel ar gyfer gofal ac addysg plentyndod cynnar.
Ysgolion, prifysgolion a busnesau STEM yng Nghymru sydd i weithredu’r rhan fwyaf o’r argymhellion, gyda Llywodraeth Cymru yn ‘cynghori, annog a hwyluso’ - lle bo'n briodol.
Mae ‘Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) mewn addysg a hyfforddiant: cynllun cyflawni i Gymru’ (2016) gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu ein hymrwymiad i godi nifer y merched ym maes STEM. Mae Cyfarwyddiaeth Addysg Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu cynnydd merched mewn mathemateg, ffiseg a chyfrifiadureg, ac mae wedi datgan y bydd cyllid grant yn amodol ar gydbwysedd rhwng y ddau ryw yn addysg STEM. Fodd bynnag, mae rhagor o waith y gellir ei wneud i ddeall y materion sy'n effeithio ar gynnydd merched ym maes STEM, a sut y gall arferion mewn ysgolion gael effaith gadarnhaol. Rydym yn mynd i'r afael â hyn yn ein rhaglen o ddiwygio addysg.
Rydym hefyd wedi ymrwymo i ddarparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio, sydd â phlant tair neu bedair blwydd oed ar draws Cymru, a hynny am 48 wythnos y flwyddyn. Dyma’r cynnig gofal plant mwyaf hael yn y DU, gan roi i rieni – yn benodol, menywod – fwy o ddewis a chyfle gwell i gael teulu a gyrfa.
Mae'r Prif Gynghorydd Gwyddonol yn sefydlu gweithgor mewnol i roi'r camau a argymhellir yn yr adroddiad ar waith, gan gynnwys swyddogion polisi ar draws Llywodraeth Cymru, a chan adrodd wrth Weinidogion.
Rwy'n noddi digwyddiad WISE (menywod mewn gwyddoniaeth, technoleg a pheirianneg) yn y Senedd ar 13 Mawrth 2017, a bydd noddwr WISE, sef Ei Huchelder y Dywysoges Frenhinol yn bresennol. Bydd y digwyddiad yn dathlu ac yn hyrwyddo gwerth menywod ym maes STEM yng Nghymru, ac yn adeiladu momentwm o ran yr argymhellion sydd yn yr adroddiad. Bydd Cadeirydd WISE, Trudy Norris-Grey o gwmni Microsoft, sy'n ysbrydoliaeth ac yn fodel i fenywod ei hefelychu, yn rhannu ei stori bersonol ‘O Abertawe i Seattle’ i ysbrydoli'r bobl ifanc a fydd yn bresennol.
www.wisecampaign.org.uk