Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC,  Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Hydref 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwyf yn croesawu adroddiad Malcolm Thomas Denu Cenhedlaeth Newydd o Ffermwyr a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, i ategu gwaith yr Adolygiad Annibynnol o Gadernid Ffermio yng Nghymru gan Kevin Roberts ac adroddiad Hwyluso'r Drefn Gareth Williams.  

Mae'r dystiolaeth yn awgrymu'n glir bod symudedd yn y diwydiant yn hanfodol er mwyn inni barhau i feithrin diwydiant arloesol sy'n canolbwyntio ar y farchnad ac sy'n broffidiol yng Nghymru. Mae'r Cynllun Cefnogi Newydd-ddyfodiaid (YESS) presennol wedi helpu unigolion ond mae hefyd wedi helpu i godi proffil yr agenda bwysig hon ac mae wedi ysgogi cryn drafod ym mhob rhan o'r diwydiant. Mae adroddiad Malcolm yn rhoi nifer o argymhellion clir ar yr hyn y dylai Rhaglen YESS yn y dyfodol ei gynnwys ac mae fy swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid i ddatblygu pecyn o gymorth i'w gynnwys yn y Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru nesaf ar gyfer 2014-2020.

Mae'n galonogol imi bod y diwydiant yn cymryd camau gweithredu, ochr yn ochr â'r Llywodraeth, i helpu i hybu cyfleoedd ar gyfer mwy o symudedd yn y diwydiant, gan gynnwys Cynhadledd tymor yr Hydref Undeb Amaethwyr Cymru ar fentrau ar y cyd mewn ffermio a gynhaliwyd wythnos diwethaf, a'r cymorth ymarferol a gynigir drwy lyfryn y CLA “An Option for Enterprising Farmers” a “Moving the Industry Forward” gan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru. Byddaf yn parhau i weithio'n agos gyda'r diwydiant i wireddu'r cyfleoedd hyn.


Mae'r mater o annog newydd-ddyfodiaid a gwaed newydd i'r diwydiant amaethyddol wedi bod yn bwnc trafod am nifer o flynyddoedd, os nad degawdau, ac rwyf yn falch bod y Rheoliadau Datblygu Gwledig newydd yn cefnogi ein dymuniad i weld mwy o symudedd yn y diwydiant amaeth. Rwyf yn awyddus i wrando ar farn pobl ifanc o ran sut sut maent yn gweld dyfodol amaethyddiaeth. Gan weithio mewn partneriaeth â Chlybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, rwyf am ystyried y posibilrwydd o gael Panel Pobl Ifanc lle gallaf i a'm swyddogion gael ein herio ar ein polisïau i sicrhau ein bod yn creu amgylchedd lle gall y genhedlaeth nesaf o ffermwyr ffynnu. Fodd bynnag, nid yw hyn yn berthnasol i ffermwyr ifanc yn unig. Er mwyn datblygu diwydiant sy'n croesawu symudedd, mae angen rhoi cymorth i bob oedran a phob lefel sgiliau. Ceir cyfleoedd sylweddol o dan y Cynllun Datblygu Gwledig nesaf i ganolbwyntio ymhellach ar gymorth i ddechrau busnes, cynllunio busnes, diweddaru sgiliau, arweinyddiaeth a buddsoddi, a rhaid i ni fanteisio'n llawn ar y cyfleoedd hyn.

Mae agwedd llawer o ffermwyr eraill rwy'n cyfarfod â hwy hefyd yn galonogol, gan gynnwys Rhaglen Arweinyddiaeth Academi Amaeth Cyswllt Ffermio 2014 y cyfarfûm â hwy wythnos diwethaf. Mae'r unigolion ymroddedig, brwdfrydig a medrus hyn yn awyddus iawn i gyfrannu at arwain y diwydiant a helpu i gynnwys a datblygu'r talent newydd y mae unrhyw ddiwydiant llwyddiannus yn dibynnu arno er mwyn llwyddo.  

Ar yr un pryd ag ystyried cymorth i newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant, mae angen inni ystyried pa gymorth sydd ei angen i'r rhai sy'n dymuno lleihau eu busnes neu adael yn llwyr. Dyna pam rwyf yn croesawu'r Llwyfan Cyfleoedd ar y Cyd fel y manylir yn adroddiad Malcolm ac rwyf wedi cyfarwyddo fy swyddogion i bennu cwmpas y gwaith hwn.

Gall deddfwriaeth tenantiaeth a threthiant fod yn rhwystrau gwirioneddol i greu'r ysgogiad ar gyfer twf economaidd a hwyluso newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant ac am y rheswm hwnnw byddaf yn codi'r mater gyda Llywodraeth y DU yn y dyfodol agos.

Hoffwn gofnodi fy niolch diffuant i Malcolm Thomas MBE ac eraill a helpodd i lywio'r darn pwysig hwn o waith.