Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Cyngor Gofal Cymru yn dathlu ei ddeng mlwyddiant eleni a hoffwn gydnabod yr hyn a gyflawnwyd yn ystod y cyfnod hwn.
Diben Cyngor Gofal Cymru yw rheoleiddio'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, gyda chyfrifoldeb am hyrwyddo a sicrhau safonau ymddygiad ac arfer uchel ymhlith gweithwyr gofal cymdeithasol a safonau uchel o ran eu hyfforddiant.
Fe'i sefydlwyd fel y corff rheoleiddio cyntaf erioed ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol, gan wireddu uchelgais hirsefydlog o fewn y sector. Mae wedi mynd ati i reoleiddio mewn ffordd gynhwysfawr, rhywbeth nas gwelwyd o'r blaen. Mae gwaith y Cyngor o bennu safonau bellach yn rhan o wead gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan ddarparu'r fframwaith ar gyfer ymarfer gweithlu proffesiynol a chymwys.
Sefydlwyd y Cyngor Gofal i fod yn fath gwahanol iawn o gorff rheoleiddio, corff lle byddai llais gan bob un o'r grwpiau allweddol â diddordeb, gyda defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr a'r cyhoedd yn fwyafrif. Cyflawnwyd ei waith ar sail y cymysgedd amrywiol a chyfoethog hwn o gyfraniadau, gyda chymorth y mwyafrif lleyg. Glasbrint yw hwn ar gyfer rheoleiddio a arweinir gan ddinasyddion. Drwy ei holl waith, mae'r Cyngor wedi gweithio mewn partneriaeth agos gyda rhanddeiliaid yn y sector, gan ymgysylltu â chyflogwyr, prifysgolion a llawer o bobl eraill.
Mae codau ymarfer y Cyngor, a luniwyd mewn partneriaeth â defnyddwyr gwasanaethau, gofalwyr, yn ogystal ag ymarferwyr a chyflogwyr ledled Cymru a'r tair gwlad arall o’r DU, wedi cynnig fframwaith unedig i fynegi sylfaen gwerthoedd gofal cymdeithasol a galluogi defnyddwyr gwasanaethau a'u gofalwyr i ddeall yr hyn y gallant ei ddisgwyl gan weithwyr gofal cymdeithasol.
Dros y deng mlynedd ers iddo gael ei sefydlu, mae'r Cyngor wedi datblygu rhaglen waith gynhwysfawr sydd wedi creu fframwaith uchel ei barch i wella safonau yn y gweithlu. Mae hyn yn cynnwys rheoleiddio grwpiau staff allweddol, datblygu gwaith cymdeithasol fel proffesiwn drwy reoleiddio, hyfforddiant ar lefel gradd a datblygiad proffesiynol parhaus, a fframwaith a rhaglenni cymwysterau a hyfforddiant i hyrwyddo proffil cadarnhaol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol.
Y llynedd nododd grŵp gorchwyl y gweithlu gwaith cymdeithasol fod cynnydd sylweddol wedi'i wneud o ran rheoli'r gweithlu a pholisi dros y deng mlynedd ddiwethaf. Gwn fod gwaith y Cyngor wedi bod yn ffactor pwysig o ran cyflawni hyn.
Wrth i ni fwrw ymlaen â'n rhaglen ar gyfer newid gwasanaethau cymdeithasol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, bydd angen i ni barhau i atgyfnerthu gwerth allweddol y gweithlu. Mae gweithlu sefydlog, hyddysg a chymwysedig gyda rolau proffesiynol allweddol yn rhan ganolog ohono yn hanfodol i'n llwyddiant yn y dyfodol.
Bydd y Cyngor yn parhau i fod yn bartner canolog yn ein gwaith, a hoffwn ei longyfarch am y cyfraniad a wnaed ganddo dros y deng mlynedd ddiwethaf. Gwn y gallaf ddibynnu ar ei egni a'i ddyfalbarhad yn y dyfodol.