Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Tachwedd 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym yn gwneud cynnydd da wrth adfer gwasanaethau deintyddol ond mae deintyddiaeth yn un o feysydd mwyaf cymhleth gofal sylfaenol o safbwynt ailddedchrau gwasanaethau. Gan fod COVID-19 yn dal i gylchredeg mae mesurau iechyd y cyhoedd  – gofynion rheoli haint, gofynion PPE a chadw pellter corfforol – yn golygu y gellir gweld llai o gleifion mewn sesiwn glinigol.

Mae gofyniad clir i weld cleifion yn ôl yr angen ac fe ofynnwyd i bractisau drin pobl y mae arnynt angen gofal brys a'r rhai sydd wedi cael problemau yn ystod cyfnod y cyfyngiadau gyntaf. Mae angen inni flaenoriaethu hefyd y rhai y mae eu triniaeth wedi'i gohirio o ganlyniad i'r pandemig. Rydym yn gweithio gyda’r byrddau iechyd i sicrhau, fel rhan o'r gwaith o adfer gwasanaethau, fod mesurau'n cael eu cynnwys i sicrhau bod practisau deintyddol hefyd yn gweld cleifion newydd.

Heb unrhyw amheuaeth mae'r pandemig wedi cael effaith ar y gwelliannau yr oeddem yn eu gwneud o ran cynyddu mynediad at wasanaethau deintyddol y GIG. Er hynny, hyd yn oed cyn y pandemig roedd rhai practisau deintyddol yn cael anawsterau wrth recriwtio a chadw deintyddion, gan effeithio ar ddarparu gwasanaethau deintyddol y GIG.

Rydym am i’r byrddau iechyd fynd i'r afael â bylchau yn y ddarpariaeth er mwyn delio ag anawsterau tymor byr a sicrhau gwelliant yn y tymor canolig a'r tymor hwy. Ar ôl ymchwilio i'r gallu i ddarparu sesiynau deintyddol ychwanegol ac ymateb cadarnhaol ar y cyfan o du'r byrddau iechyd a darparwyr deintyddol y GIG ledled Cymru, rwyf yn falch o allu cadarnhau fy mod wedi dyrannu hyd at £3m i'r byrddau iechyd yn 2021-2022 i hwyluso'r gwaith o adfer gwasanaethau ac i roi hwb i ofal brys a gofal argyfwng.

Yn ogystal â'r cyllid brys hwn, mae angen cyllid cylchol hefyd fel bod y byrddau iechyd yn gallu cynllunio ar gyfer darparu cynnydd yn y ddarpariaeth a bod practisau'n fodlon buddsoddi mewn ehangu a recriwtio i fynd i'r afael â phroblemau wrth gael mynediad at ddeintyddiaeth y GIG. Rwyf, felly, hefyd yn dyrannu cyllid cylchol o £2m o 2022-23 i ganiatáu i’r byrddau iechyd gynyddu mynediad a chapasiti dros y tymor canolig. Bydd y byrddau iechyd yn gallu buddsoddi'r cyllid hwn yng ngwasanaethau deintyddol y GIG i fynd i'r afael ag anghenion a materion lleol.