Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ers mis Mawrth 2020 mae Deintyddiaeth y GIG wedi bod o dan bwysau sylweddol i ddiwallu anghenion cleifion a darparu gofal yng nghyd-destun pandemig COVID-19. Mae timau deintyddol a byrddau iechyd wedi gwneud ymdrech aruthrol i sicrhau mynediad at wasanaethau deintyddol hanfodol ar gyfer pobl sydd mewn poen neu’n cael problemau gyda’u dannedd. Diolch i bawb sydd wedi bod ynghlwm â hyn.
Yn ystod pandemig feirws anadlol, deintyddiaeth yw un o’r meysydd mwyaf cymhleth mewn gofal sylfaenol i gyfyngu arno, ei ddarparu ac i sicrhau ei adferiad. Mae hyn yn arbennig o wir oherwydd y defnydd cyffredin o driniaethau sy’n cynhyrchu erosol, fel llenwadau, a bod rhaid i’r clinigydd fod yn agos iawn at y claf i ddarparu gofal deintyddol.
Yn ystod ail don y pandemig, ac yn ystod y cyfnod oren hir hwn o ailsefydlu ac adfer, mae timau deintyddol yn parhau i ganolbwyntio ar flaenoriaethu gofal brys. Maent yn ymdrin ag anghenion grwpiau agored i niwed, gan fynd i’r afael â’r ôl-groniad o driniaethau sydd angen sylw o ganlyniad i gyfyngu ar wasanaethau deintyddiaeth, ac yna ailgyflwyno asesiadau a gofal rheolaidd pan fydd capasiti ar gael.
Bydd gwasanaethau’n parhau i ddychwelyd yn raddol. Gwyddom fod hwn wedi bod yn gyfnod heriol ac rydym yn cydnabod yr effaith y mae COVID-19 wedi ei chael ar aelodau unigol y tîm deintyddol ac ar y proffesiwn cyfan. Mae ein dull gweithredu yn cynnig darparu gwasanaethau deintyddol i’r rhai sydd eu hangen fwyaf, gyda rhagor o driniaethau’n cael eu darparu wrth i’r risg o COVID-19 leihau. Rydym angen i bractisau deintyddol barhau i ddilyn mesurau rheoli haint yn llym, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol, i ddiogelu staff practisau, cleifion a’r gymuned ehangach. Bydd practisau’n cael eu hannog i weld cleifion gan ddefnyddio cyfnodau adalw addas yn unol ag anghenion a risgiau eu cleifion.
Cyn y pandemig roedd tua 40% o’r holl bractisau deintyddol a oedd â chontractau deintyddol y GIG yng Nghymru yn rhan o raglen diwygio’r contract deintyddol, neu wedi ymrwymo i’r rhaglen hon. Roeddem wedi gobeithio y byddai’n bosibl inni ailddechrau’r broses diwygio contractau ym mis Hydref 2021 fel rhan o’n rhaglen diwygio systemau parhaus sy’n cyd-fynd â’r cynllun Cymru Iachach.
Fodd bynnag, mae COVID-19 yn parhau i fod yn bryder iechyd y cyhoedd ac mae angen i dimau deintyddol gadw at fesurau rheoli haint angenrheidiol. Rydym felly wedi penderfynu oedi’r cydran diwygio contractau o’r newidiadau i’r system tan fis Ebrill 2022.
Rydym nawr yn edrych ar y flwyddyn hon fel cyfnod o ailsefydlu ac adfer ond rydym wedi ymrwymo i ddiwygio’r system ddeintyddiaeth a symud ymlaen â’r rhaglen gyda’n gilydd yn 2022. Nid ydym eisiau gweld unrhyw ddychwelyd i’r ffyrdd blaenorol o fesur gweithgarwch pan rydym wedi gwneud cymaint o welliannau gan ddefnyddio mesurau mwy ystyrlon yn glinigol a ddatblygwyd gyda thimau deintyddol.
Yn lle defnyddio Unedau o Weithgarwch Deintyddol i fonitro contractau, mae pedwar mesur amgen yn cael eu datblygu a’u profi. Mae’r gwaith hwn, sy’n defnyddio holl aelodau’r tîm deintyddol, yn paratoi ar gyfer ailddechrau’r gwaith diwygio contractau ac rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i egwyddorion Gofal Iechyd Darbodus. Rydym eisiau gweld clinigwyr deintyddol yn parhau i ehangu gan ‘ddefnyddio’r tîm cyfan’ mewn gofal a darpariaeth gan ganolbwyntio ar ganlyniadau. Mae cynyddu’r defnydd o amrywiol sgiliau mewn deintyddiaeth yn elfen allweddol o ddiwygio’r system.
Y bwriad yw y bydd y mesurau hyn yn cael eu defnyddio heb newidiadau dros y cwpl o flynyddoedd nesaf, i roi sefydlogrwydd i bractisau a byrddau iechyd. Bydd dechrau’r broses o ddiwygio contractau ym mis Ebrill 2022 yn ffordd gyfarwydd o weithio ac mae trafodaethau ar y gweill ynglŷn â’r gofyniad cyfreithiol i wneud unrhyw newidiadau i’r Rheoliadau neu Gyfarwyddydau ar gyfer 2022-23.
Bydd yn cymryd amser i gytuno ar y manylion a phrofi effaith y mesurau ac mae angen canolbwyntio ar fwy na datrysiadau tymor byr i’r mesur monitro contractau. Ond yn ystod y pandemig mae’r holl dimau deintyddol wedi cael cyfle i weld sut rydym am ailsefydlu gwasanaethau deintyddol a rhaglenni iechyd y geg. Nid ydym yn dechrau o’r newydd a byddwn yn adeiladu ar y datblygiadau a wnaed hyd yma ac yn defnyddio’r adnoddau a’r disgwyliadau sydd gennym eisoes – gan ymrwymo i barhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau deintyddol a chefnogi newidiadau i’r system.
Cymru Iachach, ac ymateb y Gwasanaethau Iechyd y Geg a Deintyddol iddo, yw’r cynllun strategol ac mae’n darparu cyfeiriad a bwriad clir ar gyfer y dyfodol. Mae Ein Rhaglen Lywodraethu yn cynnwys bwriad i ddarparu gwell mynediad at wasanaethau deintyddol ac i ddiwygio gwasanaethau gofal sylfaenol. Mae’r broses o ddiwygio deintyddiaeth ar y gweill ac mae’r Datganiad hwn yn cadarnhau ein hymrwymiad i barhau â’r rhaglen ddiwygio gan gynnwys gwelliannau i gael mynediad at wasanaethau.