Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mawrth 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel y gŵyr Aelodau'r Cynulliad, cynhaliodd Estyn arolygiad llawn o Wasanaethau Addysg Awdurdod Lleol Caerdydd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ym mis Ionawr 2011 a phenderfynwyd, yn sgil yr arolygiad hwn, fod angen i Estyn fonitro gwaith yr awdurdod. 

Cynhaliwyd ymweliad monitro wedyn i asesu cynnydd yr awdurdod lleol ym mis Mehefin 2012. Yn ystod yr ymweliad hwn, nodwyd bod yr awdurdod wedi mynd i'r afael yn helaeth ag un o argymhellion allweddol yr arolygiad gwreiddiol ac wedi mynd i'r afael yn rhannol â'r pum argymhelliad arall. O ganlyniad i'r canfyddiadau hyn, parhaodd yr awdurdod yng nghategori monitro dilynol Estyn.

Yn ôl yr arfer, mae'r awdurdod erbyn hyn wedi bod yn ddarostyngedig i ymweliad monitro pellach gan arolygwyr a nod y datganiad ysgrifenedig hwn yw rhoi'r newyddion diweddaraf i aelodau ar ddeilliant yr ymweliad hwn.  Cynhaliwyd yr ymweliad rhwng 10 a 14 Chwefror 2014 a heddiw bydd Estyn yn cyhoeddi canlyniadau'r ymweliad cyntaf hwn ar ffurf llythyr i'r Prif Weithredwr.

Er mawr siom imi, mae'n rhaid imi roi gwybod i aelodau'r Cynulliad fod Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, yn dilyn yr ymweliad hwn, yn bwriadu cynyddu lefel y gweithgarwch dilynol gan ei bod o'r farn bod angen Gwelliant Sylweddol ar yr awdurdod.

Fel y nodir yn y llythyr monitro, cynhaliwyd yr arolygiad gwreiddiol dair blynedd yn ôl ac mae 20 mis wedi mynd heibio ers yr ymweliad monitro cyntaf. Mae'r arolygwyr wedi nodi arweiniad pwrpasol yr Aelod o'r Cabinet dros Addysg a Dysgu Gydol Oes a'i bod wedi sicrhau, trwy gydol y cyfnod hwn, bod y ffocws ar welliant wedi cael ei gynnal yn briodol. Mae ei gwybodaeth a'i dealltwriaeth eang o'r materion sy'n effeithio ar addysg wedi bod yn hanfodol wrth i'r awdurdod barhau i ganolbwyntio’n benodol ar welliant.

Fodd bynnag, er y camau mwy cadarn a gymerwyd dros y misoedd diwethaf; mae'r arolygwyr, ar y cyfan, yn dod i'r casgliad nad yw'r mwyafrif o ddeilliannau ar gyfer plant a phobl ifanc wedi gwella'n ddigonol yn ystod y cyfnod ac nad oes digon o gynnydd wedi cael ei wneud mewn sawl maes y mae angen ei wella, megis darparu ac arwain a rheoli.

O ran yr argymhellion eu hunain a gyflwynwyd yn dilyn yr arolygiad gwreiddiol a'r ymweliad monitro cyntaf, dim ond un ohonynt y mae awdurdod lleol Caerdydd wedi mynd i'r afael ag ef yn llwyr. Aeth i'r afael ag un arall i raddau helaeth ond yn rhannol yn unig yr aeth i’r afael â'r pum argymhelliad arall.

O ganlyniad i hyn, cafodd yr argymhellion a ddaeth i'r amlwg yn ystod arolygiad 2011 a'r ymweliad monitro a gynhaliwyd yn 2012 eu diwygio.  Er mwyn sicrhau gwelliannau, mae'r Prif Arolygydd o'r farn y dylai'r awdurdod

  • Godi safonau, yn enwedig yng nghyfnod allweddol 4
  • Lleihau nifer y gwaharddiadau a lleihau cyfran y bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ôl-16 
  • Sicrhau bod y trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau gwella ysgolion yn herio ac yn cefnogi pob ysgol yn effeithiol, er mwyn gwella safonau dysgwyr ym mhob cyfnod allweddol
  • Gwella effeithlonrwydd cynllunio ar y cyd wrth weithio mewn partneriaeth 
  • Gwella prosesau rheoli perfformiad i sicrhau bod dull cyson yn cael ei ddefnyddio i gyflawni amcanion
  • Gwella'r ffordd y mae gwasanaethau addysg awdurdodau lleol yn craffu ac yn gweithio mewn partneriaeth.

Rwyf wedi nodi bod yr arolygiaeth wedi tynnu sylw at y newidiadau sylweddol a fu ar lefel uwch-reoli'r awdurdod dros y cyfnod ers yr arolygiad gwreiddiol a'r ymweliad monitro cyntaf pan gafwyd trosiant uchel o ran swyddi uwch-reolwyr a chyfnodau pan fu rhai swyddi allweddol yn wag.

Mae canfyddiadau'r arolygiad, felly, yn rhoi rhywfaint o sicrwydd imi, gan fod y Cyfarwyddwr Addysg presennol (a ddechreuodd yn ei swydd ym mis Awst 2013) wedi egluro'r berthynas rhwng yr awdurdod a'i ysgolion a hefyd wedi cymryd camau i herio ysgolion yn fwy cadarn. Mae hefyd yn gweithio'n agosach â'r consortia rhanbarthol i wella ansawdd dulliau o fonitro, herio a chefnogi ysgolion yn yr awdurdod. Mae hefyd yn rhoi sicrwydd i mi y gwelir bod gan y Prif Weithredwr presennol (a ddechreuodd yn ei swydd ym mis Rhagfyr 2013) ddealltwriaeth gadarn o'r meysydd y mae angen eu gwella yng ngwasanaethau addysg Caerdydd.  Gobeithiaf y bydd hyn, ynghyd ag arweiniad pwrpasol yr Aelod o'r Cabinet, yn ei gwneud hi'n bosibl i'r awdurdod fynd i'r afael â'r argymhellion ar fyrder ac yn drwyadl.

Mae Estyn yn disgwyl i'r awdurdod baratoi cynllun gweithredu ar ôl arolygiad i nodi'r camau y bydd yn eu cymryd i wneud y gwelliannau angenrheidiol ymhen 50 diwrnod. Fodd bynnag, nid yw'r cynllun hwn yn deillio o ganlyniadau'r ymweliad, oherwydd bod gan yr awdurdod gynlluniau eisoes sy'n cael eu diwygio a'u diweddaru ar hyn o bryd. Felly, rwy'n disgwyl i'r cynllun diwygiedig gael ei baratoi ar frys ac mae arweinwyr awdurdod lleol Caerdydd a minnau wedi dod i gytundeb ynglŷn â hynny. Rwy'n rhoi terfyn amser diwygiedig, felly, o 10 diwrnod gwaith o gyhoeddi'r adroddiad hwn iddo gyflwyno ei gynllun gweithredu diwygiedig. 

Wrth i'r awdurdod baratoi'r cynllun hwn a'i roi ar waith, disgwyliaf hefyd i'r awdurdod fanteisio ar gyngor ac arweiniad fy adran sy'n cynnwys amrywiaeth o arbenigeddau sy'n deillio o weithio â nifer o awdurdodau a oedd, ym marn Estyn, angen Gwelliant Sylweddol arnynt neu wedi'u gosod o dan Fesurau Arbennig.

Rwy'n disgwyl i'r awdurdod fabwysiadu'r arferion da sydd gan nifer o fy Myrddau Adfer Gweinidogol a sicrhau ei fod yn derbyn ffynhonnell allanol wrthrychol o her a chyngor ac arweiniad wrth iddo fynd i'r afael â'i ddiffygion.  

Er mwyn cefnogi'r awdurdod i gyflawni hyn, rwy'n rhoi fy nghaniatâd i swyddogion yn fy adran i'w helpu, ei herio a'i gefnogi ar ei daith tuag at wella.  Disgwyliaf i'r awdurdod dderbyn y gefnogaeth a'r arweiniad hwn a gweithio'n gynhyrchiol gyda fy swyddogion i baratoi ymateb i'r arolygiad ac i'w weithredu.

Unwaith imi ystyried ymateb yr awdurdod yn llawn a derbyn rhagor o gyngor oddi wrth y Prif Arolygydd ar gadernid cynlluniau'r awdurdod, byddaf yn ystyried a oes angen ymyrryd ymhellach gan arfer fy mhwerau fel Gweinidog Cymru.  

Byddaf, wrth reswm, yn parhau i ddiweddaru Aelodau'r Cynulliad ar y materion hyn wrth iddynt ddatblygu.