Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ionawr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt y byddai £70m ychwanegol yn cael ei ddarparu i’r GIG yn 2015-16 yn dilyn datganiad Cyllideb Hydref y DU ym mis Tachwedd 2014. Bydd y buddsoddiad hwn, ynghyd â’r adnoddau ychwanegol a gyhoeddwyd yng nghyllideb 2015-16, yn golygu bod GIG Cymru  wedi cael £500m ychwanegol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae’r adnoddau hyn yn mynd ymhellach na’r gofynion a nodwyd yn adroddiad annibynnol Ymddiriedolaeth Nuffield Degawd o Galedi yng Nghymru?, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2014. Mae’r buddsoddiad hwn yn dangos ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru yn y GIG yng Nghymru.  

Cadarnhaodd adroddiad Nuffield y bydd y GIG yng Nghymru yn fforddiadwy a chynaliadwy yn yr hirdymor cyn bellach ag y bydd yn cael cyfran briodol o gyllid y DU ac yn diwygio ac ad-drefnu’r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu.
Mae’n hanfodol ein bod yn manteisio i’r eithaf ar gyllideb gyfan Cymru o £6.7bn ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol wrth i ni wella gwasanaethau. Fodd bynnag, mae’r £70m ychwanegol yn gyfle y mae mawr ei angen i ddatblygu prosiectau penodol, a fydd yn cael effaith nodedig a mesuradwy ar wasanaethau galw uchel, a fydd yn helpu i ddiwygio GIG Cymru.

Mae’r buddsoddiad yn dangos ein bod yn canolbwyntio’r rhan fwyaf o’r cyllid hwn – £50m – ar ein huchelgais allweddol i symud mwy o wasanaethau ysbytai a gwella’r ddarpariaeth o ofal cymunedol, sylfaenol a chymdeithasol integredig er mwyn atal problemau, yn unol â’n cynllun gofal sylfaenol.

Caiff y £70m ei ddyrannu fel a ganlyn:

Maes i’w ddiwygio

Datblygiadau gofal sylfaenol – cydgrynhoi ac adeiladu ar y cynllun gofal sylfaenol presennol er mwyn sbarduno’r symudiad i ofal sylfaenol, gwella mynediad a mynd i’r afael â materion recriwtio drwy ddod ag amrywiaeth i’r tîm gofal sylfaenol. £30m

Datblygu’r Gronfa Gofal Canolraddol – cynlluniau cyllid effeithiol ar draws sefyllfaoedd cymunedol ac acíwt, gan gysylltu gofal y tu allan i’r ysbyty a gofal cymdeithasol i wneud y system gofal heb ei gynllunio yn fwy cadarn. £20m

Rhoi cynlluniau cyflawni ar waith – buddsoddi mewn 10 cynllun cyflawni allweddol, gan gynnwys canser, cardiaidd, diabetes a gofal strôc, er mwyn parhau i ad-drefnu gwasanaethau. £10m

Cronfa effeithlonrwydd drwy dechnoleg – creu cronfa i annog sefydliadau i feithrin cyfleoedd arloesol i ddatblygu a rhoi modelau gwasanaeth newydd ar waith gan ddefnyddio’r technolegau a’r atebion diweddaraf.   £10m

Cyfanswm £70m

Bydd Llywodraeth Cymru a’r GIG yn cydweithio â’r holl gyrff, staff a rhanddeiliaid perthnasol i adolygu’r prosiectau ymhellach i sicrhau eu bod yn sicrhau’r manteision a’r diwygiadau gorau posibl.