Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Yn dilyn cyhoeddi adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen fu'n adolygu'r defnydd o rwyll y wain ar gyfer achosion o anymataliaeth a phrolaps, cefais glywed am nifer fach o unigolion sydd wedi dioddef anawsterau ar ôl defnyddio rhwyll wrth drwsio torgest.

Yn sgil y pryderon a fynegwyd, gofynnais i’r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol gynnal adolygiad clinigol o’r defnydd o rwyll torgest. Rwyf bellach wedi derbyn y cyngor hwnnw sy’n cynnwys adolygiad o lenyddiaeth, polisïau a chanllawiau rhyngwladol a NICE, ynghyd â data ynghylch triniaethau a chymhlethdodau i gleifion Cymru.

Mae llawer iawn mwy o gleifion wedi cael triniaeth rhwyll torgest drwy Fyrddau Iechyd Lleol Cymru na thriniaeth rhwyll y wain: derbyniodd 34,623 o gleifion driniaeth rhwyll torgest dros bum mlynedd yr adolygiad (2011/12 i 2017/18) o gymharu â'r 3,660 a gafodd driniaeth rhwyll y wain. O gymharu â gwledydd eraill, defnyddir techneg seiliedig ar rwyll ar gyfer bron i 100% o gleifion Denmarc sy'n cael triniaeth i drwsio torgest, o gymharu â thua 78% o gleifion sy'n cael llawdriniaeth yng Nghymru.

Trwsio torgest arffedol yw un o'r llawdriniaethau mwyaf cyffredin ledled y byd (McCormack et al. 2003). Nod y driniaeth yw cywiro gwendid yn y feinwe lle mae'r dorgest wedi ymddangos, a lleihau'r siawns o weld hynny yn digwydd eto. Y ddau opsiwn sydd ar gael yw trwsio gan ddefnyddio rhwyll, neu ddefnyddio pwythau. Yn ôl adolygiad metaddadansoddi Cochrane o dystiolaeth a oedd ar gael yn 2002, canfuwyd bod defnyddio rhwyll yn llawer gwell na thechnegau eraill gan fod hynny'n golygu bod llai o siawns i'r dorgest ddod yn ôl, a bod llai o boen ar ôl y llawdriniaeth (EU Hernia Trialists, 2002). Yn 2018, cyhoeddwyd adolygiad Cochrane arall o'r dystiolaeth sydd ar gael, yn cymharu triniaethau rhwyll â thriniaethau eraill heb ddefnyddio rhwyll. Canfu'r adolygiad hwn hefyd bod gostyngiad ystadegol arwyddocaol yn nifer yr achosion lle'r oedd torgest yn digwydd eto o gymharu â thriniaethau nad oeddent yn defnyddio rhwyll (Lockhart et al. 2018). Ni ddaethpwyd i gasgliadau clir ynghylch lefelau poen yn yr adolygiad hwn, yn sgil y gwahaniaethau yn y dulliau o fesur poen mewn gwahanol astudiaethau, ond dywedodd yr awdur bod y rhan fwyaf o'r astudiaethau yn adrodd llai o boen ar ôl llawdriniaeth os oedd rhwyll yn cael ei defnyddio na llawdriniaeth heb rwyll. Canfu metaddadansoddiad gwahanol a gyhoeddwyd yn 2018 nad oedd gwahaniaeth o gwbl yng ngraddfeydd poen cronig wrth gymharu triniaethau â rhwyll a heb rwyll yn y pum mlynedd cyntaf ar ôl y driniaeth (Oberg et al, 2018). Cyhoeddwyd canllawiau consensws rhyngwladol yn 2018 gan y Grŵp HerniaSurge, gan argymell y dylid defnyddio techneg yn seiliedig ar rwyll ar gyfer oedolion â thorgest arffedol. Gwnaed yr argymhelliad hwn ar ôl adolygu'r holl dystiolaeth sydd ar gael, gan gynnwys ar yr holl raddfeydd o gymhlethdodau ar ôl llawdriniaeth (HerniaSurge, 2018). Wrth ochr y datganiad hwn rwy'n cyhoeddi cyfeiriad llawn o'r dystiolaeth a ystyriwyd fel rhan o adolygiad y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol.

Fel sy’n wir am unrhyw fath o driniaeth, mae nifer fach o gleifion fodd bynnag yn dioddef cymhlethdodau gyda'r mewnblaniadau rhwyll torgest, ac mewn rhai o'r achosion hynny mae angen eu tynnu. Wrth edrych ar yr ystadegau sydd ar gael am y pum mlynedd ddiwethaf, prin yw'r achosion lle bu angen tynnu'r rhwyll. Er enghraifft, o’r 34,385 o gleifion a gafodd driniaeth atgyweirio torgest â deunyddiau prosthetig yng Nghymru, rhwyll yn bennaf, dim ond 238 oedd angen ei dynnu, sef 0.7 y cant, ffigur a fu’n gyson dros bum mlynedd.  Mae'n bwysig nodi efallai bod cleifion wedi dioddef poen ond heb geisio tynnu'r rhwyll, ac nad yw tynnu'r rhwyll o reidrwydd yn lleihau'r boen.

Mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon hefyd wedi ystyried y defnydd o rwyll i drwsio torgest, ac wedi cyhoeddi datganiad ar y testun yn ddiweddar:

 “It is clearly tragic if even a single patient suffers horrible complications from any type of surgery, not just hernia operations. Unfortunately the nature of surgery in general, not just mesh surgery, carries with it an inherent risk of complications which surgeons will always seek to assess, and will discuss with patients according to their individual clinical circumstances before surgery takes place…….There have already been a number of scientific studies looking at the use of different types of mesh in hernia and we should continue to review the evidence and patients’ experiences to make sure the right advice is given and the right action is taken. Along with the regulatory authorities, we will continue to listen to patients’ experiences. Patients suffering complications or pain need help, not silence. There must also be an ongoing review of the data to make sure that previous studies have not missed any serious, widespread issue. It remains vital that surgeons continue to make patients aware of all the possible side effects associated with performing a hernia repair.”

https://www.rcseng.ac.uk/news-and-events/media-centre/press-releases/rcs-response-to-hernia-mesh-complications/

Barn a chyngor clir Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, sydd wedi’i gefnogi gan yr holl dystiolaeth, canllawiau ac arferion rhyngwladol sydd ar gael, yw bod rhaid i ni barhau i fod ar ein gwyliadwriaeth a gwrando ar adborth cleifion yn ogystal ag edrych ar unrhyw dystiolaeth newydd, ond ar hyn o bryd nad oes rheswm dros beidio defnyddio rhwyll wrth drwsio torgest. Fe fyddwn, wrth gwrs, yn adolygu'r mater o bryd i'w gilydd.

Rwy'n deall y gall yr effaith fod yn ddifrifol iawn ar gyfer y cleifion hynny sy'n dioddef problemau, ac fe fyddwn yn annog unrhyw glaf i ofyn am gyngor parhaus gan eu meddyg teulu neu arbenigwyr fel arfer. Ar ben hynny, os oes ganddynt unrhyw bryderon ynghylch eu gofal, dylid codi’r pryderon hynny drwy weithdrefnau Gweithio i Wella GIG Cymru. Gallant gael cymorth i wneud hynny drwy'r Cyngor Iechyd Cymuned perthnasol. Gellir gweld manylion y cysylltiadau hyn drwy'r dolenni canlynol:

http://www.wales.nhs.uk/eingwasanaethau/cysylltuni/pryderoncysylltiadau  

http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/899/hafan