Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth y DU wedi cael gwybod bod pryderon ynghylch pa mor ddibynadwy yw profion tocsicoleg i ganfod cyffuriau ac alcohol. Mae'n bosibl bod rhai achosion llys wedi dibynnu ar y canlyniadau hyn. Mae hefyd yn bosibl bod awdurdodau lleol wedi dibynnu ar y canlyniadau hyn wrth wneud penderfyniadau ynghylch amddiffyn plant, y tu allan i broses y llysoedd, neu gan gyflogwyr preifat.

Mae Heddlu Manceinion Fwyaf yn arwain ymchwiliad troseddol i arferion yn Trimega Laboratories Limited (Trimega) yn ardal Manceinion rhwng 2010 a 2014. Cafodd cwmni Trimega ei ddiddymu ym mis Ebrill 2014. Mae canlyniadau’r holl brofion a gynhaliwyd gan Trimega rhwng y dyddiadau hyn yn cael eu trin fel canlyniadau sydd o bosibl yn annibynadwy.

Mae cwmni Randox Testing Services (RTS), sef olynydd Trimega, yn dal i weithredu heddiw, ac mae hefyd yn ddarostyngedig i’r ymchwiliad troseddol. Mae RTS yn cydweithredu ag ymchwiliad yr heddlu. Bydd yr heddlu yn gwneud cyhoeddiad ynghylch yr ymchwiliad hwn heddiw.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pa mor ddifrifol yw'r mater hwn a'r effaith bosibl y gall ei chael ar hyder y cyhoedd yn y defnydd o wyddor fforensig yn y system gyfiawnder. Gan nad yw'r system gyfiawnder wedi'i datganoli, mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gydag adrannau Llywodraeth y DU (Y Weinyddiaeth Gyfiawnder a'r Adran Addysg) sydd mewn cyswllt â Chyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu, y Rheoleiddiwr Gwyddoniaeth Fforensig, a Gwasanaeth Erlyn y Goron i geisio deall a rheoli'r effaith y bydd hyn y ei chael ar y System Cyfiawnder Teuluol. Mae swyddogion Llywodraeth y DU yn gweithio gyda’r heddlu i fonitro’r mater, gan ystyried yr wybodaeth sy’n codi.

Nid yw'n hysbys faint o gwsmeriaid Trimega (megis awdurdodau lleol, unigolion, cynrychiolwyr cyfreithiol a chyflogwyr) a gafodd eu heffeithio gan y canlyniadau annibynadwy hyn, ac mae’n bosibl na fydd modd eu hadnabod i gyd, oherwydd arferion cadw cofnodion gwael y cymni. Nid oes modd ailbrofi samplau Trimega oherwydd bod y gadwyn o gofnodion y ddalfa yn gyfyngedig iawn ac oherwydd dirywiad dros amser o unrhyw sampl gwreiddiol oedd yn weddill. Ni fyddai'r holl samplau a brofwyd gan Trimega wedi cael eu trin gan yr unigolion hyn.

Mae'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio yn Llywodraeth Cymru wedi gofyn i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru adolygu eu ffeiliau achos i nodi unrhyw achosion lle y gallai canlyniad unrhyw brawf a gynhaliwyd gan Trimega fod wedi effeithio ar benderfyniadau yn ymwneud ag amddiffyn plant a wnaed y tu allan i broses y llysoedd. Gan ddefnyddio'r wybodaeth hon, gofynnir i awdurdodau lleol adolygu'r ffeiliau achos i sicrhau bod plant yn eu hardal wedi'u hamddiffyn rhag niwed. Yn yr un modd, mae Adran Addysg Llywodraeth y DU wedi gofyn i'r holl Awdurdodau Lleol yn Lloegr edrych ar eu ffeiliau achos.

Rydym yn deall y gall fod gan y rheini a fu’n rhan o achosion yn y llysoedd teulu bryderon. Mae ffurflen C650 – ‘Application notice to vary or set aside an order in relation to children’ wedi’i chreu (https://hmctsformfinder.justice.gov.uk/HMCTS/WelshFormFinder.do). Mae’r ffurflen hon yn galluogi unigolion i gyflwyno cais i’r llys amrywio neu ollwng y gorchymyn llys terfynol. Nid oes ffi i’w dalu wrth ddefnyddio Ffurflen C650. Anogir unigolion i geisio cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr neu sefydliad megis Cyngor ar Bopeth cyn cyflwyno unrhyw gais i’r llys. Mae rhagor o wybodaeth am broses y llys ar gael yma: https://www.gov.uk/guidance/forensic-toxicology-tests  

Dyma fater anodd, sensitif a difrifol dros ben sy'n bwrw hyder y cyhoedd yn y system gyfiawnder. Rwyf wedi siarad â Gweinidogion yn Llywodraeth y DU ac wedi pwysleisio bod angen i'n dwy Lywodraeth gydweithio'n barhaus ar y mater hwn a'i bod yn bwysig inni rannu gwybodaeth sy'n effeithio ar Gymru cyn gynted ag y daw i'r amlwg.