Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip
Mae Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ganolog i waith a gweledigaeth Llywodraeth Cymru. Credwn y dylid trin pob person yn deg, yn enwedig y rhai sy’n cael eu gadael ar y cyrion gan systemau cymdeithasol sy'n atal pobl rhag diwallu eu hanghenion sylfaenol.
Yn awr yn fwy nag erioed, mae angen inni sicrhau bod y rhai sy'n ceisio lloches yn ddiogel, ac nad ydynt mewn perygl.
Gallwn ymfalchïo yn y ffordd y mae ein cenedl wedi ymateb i un argyfwng ffoaduriaid ar ôl y llall, gan roi croeso cynnes a chyfleoedd i integreiddio â'n cymunedau. Fodd bynnag, mae penderfyniad y Swyddfa Gartref i ddefnyddio gwersyll milwrol Penalun fel canolfan i letya ceiswyr lloches yn gwbl i’r gwrthwyneb i’n hymagwedd fel Cenedl Noddfa.
Credwn y dylid rhoi diwedd ar y defnydd o’r gwersyll cyn gynted â phosibl.
Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryderon sylweddol dro ar ôl tro ynghylch addasrwydd gwersyll Penalun ar gyfer lletya ceiswyr lloches.
Nid yw’r gwersyll yn diwallu anghenion sylfaenol pobl sy’n ceisio bywyd newydd yn y DU. Mae pobl yn cael eu gosod mewn llety na luniwyd i’w ddefnyddio yn hirdymor, ac nad yw’n addas i’r diben - cytiau wedi'u hinswleiddio'n wael yn bennaf – ac mae perygl i nifer o bobl fregus sydd o bosib wedi ffoi rhag camdriniaeth a phoenydio wynebu ail drawma.
Fe wnaethom ofyn am gael oedi cyn agor y gwersyll er mwyn sicrhau bod cynlluniau'n cael eu rhoi ar waith gyda gwasanaethau lleol i’w galluogi i baratoi ar gyfer dyfodiad ceiswyr lloches, yn enwedig mewn perthynas â mesurau iechyd cyhoeddus Covid-19. Gwrthodwyd ein cais ac, o ganlyniad, nid oes mesurau priodol yn eu lle.
Rydym wedi gofyn dro ar ôl tro i’r Swyddfa Gartref wneud newidiadau i amddiffyn iechyd a lles ceiswyr lloches sy’n cael eu symud i wersyll Penalun, gan barhau i drafod gyda phreswylwyr lleol.
Mae’r cynllun Cenedl Noddfa wedi’i seilio ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Rydym yn cynnwys ceiswyr lloches yn ein cynlluniau ac yn ceisio integreiddio pobl i gymunedau o'r diwrnod cyntaf y byddant yn cyrraedd Cymru.
Rydym yn ceisio atal y canlyniadau mwyaf niweidiol, megis ail drawma a throseddau casineb, tra'n anelu at atebion hirdymor. Rydym yn cydweithio â phartneriaid a chymunedau yr effeithir arnynt i sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu gwneud mewn ffordd adeiladol a thryloyw. Mae’n allweddol ein bod yn rhoi'r person wrth wraidd yr hyn a wnawn – mae anghenion unigolyn yn bwysicach na'i statws mewnfudo.
Nid yw gwersyll Penalun yn gwneud unrhyw un o'r pethau hyn ac nid yw'n gydnaws ag ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at gymunedau cynhwysol a chydlynus.
Nid ydym eto wedi derbyn esboniad clir dros benderfyniad y Swyddfa Gartref i ddewis y safle hwn i adleoli ceiswyr lloches, ac nid ydym chwaith wedi derbyn strategaeth glir ar sut y bydd y Swyddfa Gartref yn mynd i'r afael â'r diffyg llety gwasgaru ledled Cymru a'r Deyrnas Unedig.
Hyd yma, ni chafwyd unrhyw gymorth ariannol gan y Swyddfa Gartref i'r cyrff cyhoeddus ddarparu gwasanaethau o dan yr amgylchiadau eithriadol hyn, yn ystod cyfnod o bwysau na welwyd ei debyg o'r blaen.
Mae'n ddealladwy bod Cyrff Cyhoeddus yn yr ardal yn pryderu am effeithiau posibl y datblygiad hwn ar gymuned wledig fach.
Er gwaetha’r cyfyngiadau hyn, rydym yn ddiolchgar am yr ysbryd o gydweithio ac ymroddiad a welwyd gan gyrff cyhoeddus lleol wrth ymdrin â'r sefyllfa hon, ac i aelodau o'r gymuned sydd wedi rhoi croeso cynnes a chefnogol.
Hoffwn ddiolch i'r Heddlu, yr awdurdodau lleol, y trydydd sector, a'n holl bartneriaid am eu hyblygrwydd a'u dyfeisgarwch dros y misoedd diwethaf. Rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth a'u harbenigedd.
Mae'r trydydd sector wedi dod ynghyd i roi cymorth i'r ceiswyr lloches a drosglwyddwyd i wersyll Penalun. Mae Migrant Help yn cydlynu cynigion o gymorth ac maent wedi derbyn pentwr o roddion a negeseuon croeso. Mae darparwyr gwasanaethau dysgu Saesneg, gan gynnwys canolfan Oasis, yn darparu gwersi, mae Cymorth i Ddioddefwyr mewn cysylltiad ag unigolion sydd wedi dioddef troseddau casineb ac mae sefydliadau eraill yn ceisio deall a llenwi bylchau mewn gwasanaethau, lle bynnag bo hynny’n bosibl. Mae cymunedau ffydd wedi bod yn gweithio ar sail rhyng-ffydd i sicrhau bod cyfleusterau digonol yn cael eu rhoi ar waith ar gyfer arferion crefyddol.
Gobeithio y gallwn barhau i adeiladu ar y cydberthnasau hyn wrth symud ymlaen.