Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw mae cyhoeddi adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, Sentencing and Immediate Custody in Wales: A Fact file, yn amserol. Bydd y canfyddiadau'n ein helpu i ffurfio darlun cliriach o ddedfrydu a'r ddalfa yng Nghymru, a fydd yn dylanwadu ar ein gwaith mewn cysylltiad â throseddu yn y dyfodol. Mae'r adroddiad yn tanlinellu'r gwahaniaethau rhwng dedfrydu yng Nghymru a Lloegr a phwysigrwydd meddu ar ddata sy'n benodol i Gymru er mwyn inni ddeall yn well sut y mae polisi ac arferion cyfiawnder yn gweithredu.

Er mai swyddogaeth sydd heb ei datganoli yw cyfiawnder, mae gwaith yn mynd rhagddi gydag ystod o bartneriaid i sicrhau ein bod yn darparu'r atebion gorau posibl i droseddwyr yng Nghymru. Mae'r ‘Fframwaith sy'n cefnogi newid cadarnhaol ar gyfer y rhai hynny sydd mewn perygl o droseddu yng Nghymru’, a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi (HMPPS) yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn Ebrill 2018, yn ceisio gwella gwasanaethau i'r rhai sydd mewn perygl o fynd yn ôl i mewn i'r system cyfiawnder troseddol neu sydd eisoes yn rhan o'r System; i hyrwyddo cydweithredu parhaus i leihau nifer y troseddwyr ac aildroseddwyr; ac i gadw cymunedau yn ddiogel.

Gan weithio gyda Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru ac HMPPS, rydym yn llunio cynigion ar gyfer sut y byddai system gyfiawnder neilltuol a gwahanol yn gweithredu yn benodol ar gyfer menywod sy'n troseddu a throseddwyr ifanc yng Nghymru. Mae ymyrraeth gynnar a dulliau ataliol cynnar yn allweddol - mae ystyried sut y gallwn atal pobl rhag troseddu yn y lle cyntaf mewn ffordd holistaidd yn hanfodol i ddyfodol Cymru.

Hoffwn ddiolch i Dr Robert Jones ac i Ganolfan Llywodraethiant Cymru am eu gwaith a'u hymroddiad i'r darn ymchwil pwysig hwn ac am gysylltiad parhaus Dr Jones â Llywodraeth Cymru.