Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, gosodais y ddeddfwriaeth i sefydlu Cynllun Masnachu Allyriadau (ETS) y DU o 1 Ionawr 2021. Bydd ETS y DU yn helpu ein safleoedd sy’n allyrru’r symiau mwyaf o nwyon i leihau allyriadau mewn modd costeffeithlon. Bydd y Cynllun yn sicrhau parhad y polisi pan fyddwn yn ymadael â System Masnachu Allyriadau’r UE ar ddiwedd y cyfnod gweithredu.

Mae Gorchymyn Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 yn deddfu ar gyfer y nodweddion polisi sylweddol a ddisgrifir yn yr ymateb llywodraethol ar y cyd i’r ymgynghoriad ar ddyfodol prisio carbon y DU a gyhoeddwyd ar 1 Mehefin. Bydd dadl ar y Gorchymyn drafft yn cael ei chynnal ddechrau mis Tachwedd.

Rwyf wedi ysgrifennu at bwyllgorau’r Senedd ynghylch y ddeddfwriaeth hon a’r fframwaith ehangach ac edrychaf ymlaen at weithio gyda hwy dros y misoedd nesaf wrth iddynt graffu ar y fframwaith.

Mae’r Gorchymyn drafft i’w weld yma [Saesneg yn unig]:

https://senedd.wales/laid%20documents/sub-ld13345/sub-ld13345-w.pdf