Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU adrodd i Senedd y DU yn gyson am faterion sy’n ymwneud â Fframweithiau Cyffredin a'r defnydd dros dro y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud, os o gwbl, o bwerau o dan adran 12 o'r Ddeddf (y 'pwerau rhewi' fel y’u gelwir) er mwyn cynnal cyfyngiadau presennol cyfraith yr UE ar gymhwysedd datganoledig.

Rwy'n hysbysu'r Aelodau bod yr wythfed adroddiad o'r fath wedi’i osod yn Senedd y DU ar 24 Medi. Mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â'r cyfnod rhwng 26 Mawrth 2019 a 25 Mehefin 2020. Er bod yr adroddiad yn amlinellu’r gwaith cadarnhaol parhaus ar y Fframweithiau Cyffredin ac yn cadarnhau nad yw Llywodraeth y DU wedi defnyddio’r ‘pwerau rhewi’, nid yw’n adlewyrchu ein pryder gwirioneddol am effaith deddfwriaeth y Farchnad Fewnol, Llywodraeth y DU. Fel yr wyf wedi nodi’n glir i’r Senedd yn yr wythnosau diwethaf, nid yn unig yw hon yn ddeddfwriaeth lawdrwm sy’n tanseilio tair blynedd o gydweithio drwy’r rhaglen Fframweithiau Cyffredin; mae hefyd yn cynnig y caiff gweinidogion y DU ariannu prosiectau a seilwaith yn bron bob un o’r meysydd datganoledig, gan fynd yn llawer iawn pellach na’r meysydd y mae Cyllid Strwythurol yr UE yn ymwneud â nhw ar hyn o bryd – a hynny heb unrhyw gysylltiad â Gweinidogion Cymru. Dyma ymosodiad difrifol ar y setliad datganoli a’n pwerau yng Nghymru.

Rwyf wedi ysgrifennu at Chloe Smith, y Gweinidog Gwladol dros y Cyfansoddiad a Datganoli, yn mynegi fy siom nad oedd ein barn am ddeddfwriaeth y Farchnad Fewnol wedi’i hadlewyrchu yn yr adroddiad, ond yn nodi’r ymrwymiad i ymdrin â’r mater mewn rhifyn diweddarach.

Gellir darllen yr adroddiad yma:

https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/919783/Eighth_EUWA_and_Common_Frameworks_Report.pdf

Yr un pryd, cyhoeddwyd y drydedd ddogfen Dadansoddi Fframweithiau, sy’n cael ei chyhoeddi bob blwyddyn. Mae hon yn nodi’r safbwyntiau polisi diweddaraf o ran maes polisi mewn fframwaith – a fydd yn cael ei weithredu drwy fecanwaith anneddfwriaethol, a yw’n gysylltiedig â deddfwriaeth arfaethedig, neu a yw’n faes nad oes angen gweithredu ymhellach arno. Gellir darllen y ddogfen ddadansoddi yma:

https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/919729/Frameworks-Analysis-2020.pdf