Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU adrodd i’r Senedd yn gyson am faterion sy’n ymwneud â Fframweithiau Cyffredin a’r defnydd dros dro y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud, os o gwbl, o bwerau o dan adran 12 o’r Ddeddf (y ‘pwerau rhewi’ fel y’u gelwir) er mwyn cynnal cyfyngiadau presennol cyfraith yr UE ar gymhwysedd datganoledig.

Rwy’n hysbysu’r aelodau bod y pumed adroddiad o’r fath wedi’i osod yn Senedd y DU ar 17 Hydref.

Er bod llawer o waith cadarnhaol yn cael ei wneud o hyd ar y Fframweithiau, mae gennym bryderon ynghylch yr arwyddion bod Llywodraeth bresennol y DU yn bwriadu troi ei chefn ar gysoni rheoleiddiol â’r UE mewn perthynas â materion y dywedir eu bod yn cael eu trin yn yr un modd (ee cymorth gwladwriaethol, polisi ar gystadleuaeth, safonau amgylcheddol, deddfwriaeth sy’n gysylltiedig â’r farchnad lafur ac amddiffyniadau cymdeithasol). Rwyf wedi gofyn i swyddogion ystyried yr effaith y gallai’r ymwahanu rheoleiddiol posibl ei chael ar y broses fframweithiau cyffredin.

https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/841824/The_European_Union__Withdrawal__Web_Accessible.pdf

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.