Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit
Mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU adrodd i’r Senedd yn gyson am faterion sy’n ymwneud â fframweithiau cyffredin a’r defnydd dros dro y mae Llywodraeth y DU wedi ei wneud, os o gwbl, o bwerau o dan adran 12 o’r Ddeddf (y ‘pwerau rhewi’ fel y’u gelwir) mwyn cynnal cyfyngiadau presennol cyfraith yr UE ar gymhwysedd datganoledig.
Rwy’n hysbysu’r aelodau bod y trydydd adroddiad o’r fath wedi’i osod yn Senedd y DU ar 16 Mai.
Adroddiad Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Fframweithiau Cyffredin