Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd
Yn unol â Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, mae’n ofynnol i Lywodraeth y DU adrodd yn achlysurol i Senedd y DU ar faterion sy’n ymwneud â’r Fframweithiau Cyffredin a’r defnydd dros dro a wneir gan Lywodraeth y DU, os o gwbl, o bwerau o dan adran 12 o’r Ddeddf (y ‘pwerau rhewi’ fel y’u gelwir) er mwyn cynnal cyfyngiadau presennol cyfraith yr UE ar gymhwysedd datganoledig. Rwy’n hysbysu’r Aelodau bod y ddegfed adroddiad o’r fath wedi’i osod yn Senedd y DU ar 18 Mawrth 2021, ar gyfer y cyfnod rhwng 26 Medi a 25 Rhagfyr 2020.
Mae’r adroddiad yn nodi’r gwaith cadarnhaol parhaus ar y Fframweithiau Cyffredin, ac yn cadarnhau nad yw Llywodraeth y DU wedi defnyddio’r ‘pwerau rhewi’. Mae’r cynnydd a wnaed ar draws rhaglen y Fframweithiau Cyffredin yn 2020, a hynny er gwaethaf yr anawsterau a achoswyd gan bandemig COVID-19, yn gyflawniad aruthrol. Mae’r rhaglen hon yn cynnig model i’w efelychu mewn prosiectau rhynglywodraethol yn y dyfodol.
Fodd bynnag, er bod yr adroddiad yn cydnabod gwelliannau allweddol Llywodraeth y DU i Ddeddf Marchnad Fewnol y DU ynghylch Fframweithiau Cyffredin, nid yw’n adlewyrchu’r ffaith i Senedd Cymru bleidleisio yn erbyn rhoi cydsyniad deddfwriaethol i Fil Marchnad Fewnol y DU ar 9 Rhagfyr 2020. Nid yw ychwaith yn adlewyrchu potensial y Ddeddf hon i danseilio’r rhaglen gydweithredol ar y Fframweithiau Cyffredin.
Cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig ar 19 Ionawr a oedd yn cadarnhau fy mod wedi dwyn achos ffurfiol yn y Llys Gweinyddol i geisio caniatâd am adolygiad barnwrol ynghylch Deddf Marchnad Fewnol y DU. Mae’r achos cyfreithiol hwnnw’n mynd rhagddo.
Mae copi o’r adroddiad i’w weld yma.