Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n gosod y datganiad ysgrifenedig hwn o dan Reol Sefydlog 30 - Hysbysu mewn perthynas â Biliau Senedd y DU. Mae Rheol Sefydlog 30 yn ei gwneud yn ofynnol i gyflwyno datganiad am unrhyw Fil gan Senedd y DU sy'n gwneud darpariaeth ("darpariaeth berthnasol") mewn perthynas â Chymru (ac eithrio darpariaeth sy'n ddarpariaeth berthnasol o fewn ystyr Rheol Sefydlog 29.1) sy'n addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru neu'r Cwnsler Cyffredinol (ac eithrio darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol, dros dro, atodol neu ddarpariaethau arbed sy'n ymwneud â materion nad ydynt o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad), neu, hyd y gŵyr y Llywodraeth, y Cynulliad neu Gomisiwn y Cynulliad.

Cyflwynwyd Bil y Coronafeirws, a oedd yn Fil brys, yn Senedd y DU ar 19 Mawrth 2020. Gellir gweld y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn, sy'n ymwneud â'r darpariaethau y mae angen cydsyniad y Cynulliad ar eu cyfer, yn: Memorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Mae'r datganiad hwn yn ymwneud â darpariaethau sydd y tu hwnt i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, ac felly nad oedd angen cydsyniad y Cynulliad ar eu cyfer, ond a oedd er hynny yn addasu'r cymhwysedd gweithredol.

Cafodd y Bil y Cydsyniad Brenhinol ar 25 Mawrth 2020, i'w wneud yn Ddeddf y Coronafeirws 2020. Felly, rwy'n cyfeirio ati fel "y Ddeddf" yng ngweddill y datganiad hwn.

Amcan(ion) Polisi

Amcan y Ddeddf yw galluogi Llywodraethau'r DU i ymateb i sefyllfa frys a rheoli effeithiau pandemig coronafeirws. Mae'r Ddeddf yn cynnwys mesurau dros dro sydd wedi'u cynllunio naill ai i ddiwygio darpariaethau deddfwriaethol presennol neu i gyflwyno pwerau statudol newydd sydd wedi'u cynllunio i liniaru'r effeithiau hyn. 

Darpariaeth(au) perthnasol yn y Ddeddf

Adran 8 (absenoldeb gwirfoddoli brys)

Mae Adran 8 yn rhoi effaith i Atodlen 7.

Mae paragraff 1(3) o Atodlen 7 yn darparu mai dogfen a gyflwynir gan "awdurdod priodol" yw "tystysgrif wirfoddoli frys". Diffinnir "awdurdod priodol" at ddibenion Rhan 1 yr Atodlen, ym mharagraff 4. Mae is-baragraff 4(3) yn darparu bod awdurdod priodol mewn perthynas â Chymru yn golygu:

  1. Gweinidogion Cymru
  2. Cyngor sir,
  3. Cyngor bwrdeistref sirol

Mae hyn felly yn rhoi swyddogaeth i Weinidogion Cymru fel awdurdod priodol i gyflwyno tystysgrifau gwirfoddoli brys o dan Atodlen 7.

Adran 9 (iawndal ar gyfer gwirfoddolwyr brys)

Mae Adran 9 yn darparu y caiff gwirfoddolwyr brys hawl i gael taliadau iawndal os ydynt yn wirfoddolwr brys. Mae Adran 9(8) yn darparu bod person yn wirfoddolwr brys os yw awdurdod priodol yn tystio bod y person yn bodloni amodau penodol. Mae Adran 9(9) yn darparu bod gan "awdurdod priodol" yr un ystyr ag ym mharagraff 4 o Atodlen 7.

Mae hyn felly yn rhoi swyddogaeth i Weinidogion Cymru fel awdurdod priodol i ardystio'r gofynion y mae'n rhaid i'r person eu bodloni i gael ei ystyried yn wirfoddolwr brys.

Adran 75 (datgymhwyso’r cyfyngiad o dan adran 8 o Ddeddf Datblygu Diwydiannol 1982)

Mae adran 75 o’r Ddeddf yn addasu swyddogaethau yn adran 8 o Ddeddf Datblygu Diwydiannol 1982 (“Deddf 1982”). 

Mae adran 8(1) o Ddeddf 1982 yn rhoi pŵer i’r Ysgrifennydd Gwladol (“YG”) ddarparu cymorth ariannol at ddibenion penodedig amrywiol. Trosglwyddwyd y pŵer hwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gydredol â’r YG, gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac yna i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”). Adlewyrchir hyn yn Atodlen 3A i Ddeddf 2006 a fewnosodwyd gan Ddeddf Cymru 2017.

Mae adran 8(4) o Ddeddf 1982 yn darparu na all cyfanswm cyfanredol symiau sy’n cael eu talu o dan y pŵer yn adran 8(1) fod yn fwy na’r cyfyngiad a osodir yn adran 8(5). Mae hyn hefyd yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cyflawni’r swyddogaeth.

Mae adran 8(5) o Ddeddf 1982 yn gosod y cyfyngiad cyfanredol ond yn darparu y gall yr YG newid y cyfyngiad drwy Orchymyn ar nifer penodol o achlysuron. Ni throsglwyddwyd y pŵer hwn i Weinidogion Cymru ac mae’n aros gyda’r YG yn unig.

Mae adran 75 o’r Ddeddf yn darparu nad yw unrhyw gymorth ariannol a roddir drwy ddibynnu ar adran 8 o Ddeddf 1982 yn cyfrif tuag at y cyfyngiad cyfanredol os yw’r cymorth yn ymwneud â’r coronafeirws. Mae’r ddarpariaeth hon yn addasu’r modd y mae Gweinidogion Cymru yn cyflawni’r swyddogaeth o dan adran 8 o Ddeddf 1982.

Mae adran 75(2) yn rhoi swyddogaeth ar Weinidogion Cymru fel “awdurdod darparu”. Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod darparu os ydynt wedi cyflawni swyddogaeth adran 8 i roi cymorth ariannol a’r pŵer yn y Bil yw eu galluogi i ddynodi’r cymorth fel cymorth sy’n ymwneud â’r coronafeirws.

Am y rhesymau uchod, ystyriaf fod yr adrannau a’r Atodlen uchod yn ddarpariaethau perthnasol mewn Bil gan Senedd y DU at ddiben Rheol Sefydlog 30.

Y rhesymau dros wneud y darpariaethau hyn yn Neddf y Coronafeirws

Mae’r Ddeddf yn cefnogi dull gweithredu cydlynus ar draws y DU i ymateb i’r bygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan COVID-19, gan ddarparu pwerau cyson i ymateb i’r sefyllfa yng Nghymru, o fewn meysydd a gedwir yn ôl a meysydd datganoledig, a chan barchu’r setliad datganoli. Y bwriad yw cyrraedd sefyllfa lle y gall y bobl gywir (asiantaethau cyhoeddus ym mhob un o bedair gwlad y DU) weithredu’n gywir (fel y nodir yng Nghynllun Gweithredu’r DU ar COVID-19 ar GOV.UK) ar yr adeg gywir (o ganlyniad i benderfyniadau a wneir gan bedair llywodraeth y DU, fel arfer o dan nawdd COBR) – gan ddefnyddio’r un pwerau, ar yr un pryd, yn yr un ffordd.  

Mae’r cynllun gweithredu yn nodi opsiynau y gellir manteisio arnynt fel rhan o’r ymateb. Mae’r Ddeddf hon yn sicrhau bod gan yr asiantaethau a’r gwasanaethau sy’n chwarae rhan – ysgolion, ysbytai, yr heddlu ac eraill – yr arfau a’r pwerau angenrheidiol. Mae gan bob un o bedair gwlad y DU ei set o gyfreithiau ei hun, ac felly mae’r arfau a’r pwerau yn wahanol (i raddau amrywiol) ym mhob maes. Bydd cysondeb o ran canlyniad drwy sicrhau bod yr amrywiaeth o arfau a phwerau yn gyson ar draws y DU.

Ystyriaf ei bod yn briodol gwneud y darpariaethau hyn drwy gyfrwng Deddf y Coronafeirws y DU, gan na ellid gwneud y ddarpariaeth drwy Ddeddf gan Senedd Cymru.