Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Hydref 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ychydig dros flwyddyn yn ôl cafodd Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 y Cydsyniad Brenhinol.  Bydd yr Aelodau’n cofio y daw prif ddarpariaethau’r Ddeddf sy’n ymwneud â chydsyniad i rym ar Ragfyr 2015.  O’r dyddiad hwnnw, bydd system newydd sef system cydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau yn bodoli yng Nghymru.  

Ers i’r Ddeddf gael ei phasio mae’r Llywodraeth wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau bod Cymru’n barod am y newid hwn i’r ffordd y rhoddir cydsyniad i roi organau.  Rydym yn cymryd dwy flynedd i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael y cyfle i ddysgu am y gyfraith newydd a’r dewisiadau sydd ganddynt o dan y gyfraith newydd.  

Rwyf, felly, yn falch iawn o gyflwyno adroddiad gerbron y Cynulliad er mwyn cyflawni fy nyletswydd o dan Adran 2(3) o’r Ddeddf  i adrodd yn flynyddol am y pum mlynedd gyntaf, ar waith sydd wedi’i wneud:

  • I hyrwyddo trawsblannu fel ffordd o wella iechyd pobl yng Nghymru;
  • I ddarparu gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth am drawsblannu;
  • I hysbysu’r cyhoedd am o dan ba amgylchiadau y bernir bod cydsyniad i weithgareddau trawsblannu wedi’i roi yn niffyg cydsyniad datganedig; ac
  • I sicrhau bod yr adnoddau sydd ar gael i fyrddau iechyd lleol yn cynnwys y sgiliau a’r cymwyseddau arbenigol y mae eu hangen at ddibenion y Ddeddf hon.

Heddiw, o dan Reol Sefydlog 15(2), mae’r cyntaf o’r adroddiadau blynyddol hyn wedi’i osod yn amlinellu’r gwaith sydd wedi’i wneud i hysbysu’r cyhoedd ac i sicrhau bod y GIG yn barod am y ddeddfwriaeth newydd. Mae’r adroddiad yn ymdrin â’r cyfnod rhwng Medi 2013 a Hydref 2014. Mae ar gael yn electronig yma.

http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/Pages/Plenary.aspx?category=Laid Document

Hoffwn achub y cyfle hwn hefyd i danlinellu dechrau’r ymgynghoriad ar dair set o reoliadau drafft i’w gwneud o dan y Ddeddf.  

Mae’r Ddeddf yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru reoleiddio mewn tri maes:

  • Diffinio deunydd a eithrir - organau a meinweoedd na fydd cydsyniad tybiedig yn gymwys iddynt - dulliau trawsblannu “newydd” fel y’u gelwir [Adran 7];
  • Diffinio pwy gaiff neu bwy na chaiff fod yn gynrychiolydd penodedig [Adran 8]; a
  • Nodi pryd y gellir barnu bod cydsyniad tybiedig i weithgareddau trawsblannu  wedi’i roi yn achos oedolion byw nad oes ganddynt alluedd [Adran 9]

Yn ystod hynt y Bil rhoddwyd ymrwymiad i ymgynghori’n eang ar y Rheoliadau.   Mae’r Datganiad hwn yn nodi dechrau’r ymgynghoriad, a fydd yn para am 12 wythnos, ac a ddaw i ben ar 15 Ionawr 2015. Mae’r rheoliadau drafft a’r ddogfen ymgynghori i’w gweld ar lein.

Mawr obeithiaf y bydd yr Aelodau’n cymryd yr amser i ystyried y rheoliadau drafft ac i gyflwyno unrhyw sylwadau.  

Byddaf yn dychwelyd i’r Cynulliad yn yr hydref 2015 i geisio cymeradwyaeth ffurfiol i’r Rheoliadau ynghyd â Chod Ymarfer drafft yr Awdurdod Meinweoedd Dynol.

Yn olaf, hoffwn ddweud wrth yr Aelodau fod y cwmni ymchwil gymdeithasol GfK NOP wedi cael ei phenodi i gynnal gwerthusiad o effaith y gyfraith newydd. Bydd y cwmni’n gweithio gyda’r Athro Roy Carr-Hill o Brifysgol Caerefrog a’r Sefydliad Addysg.  Yn dilyn trafodaethau â’r ymchwilwyr rydym wedi cytuno ar amserlen wedi’i diweddaru ar gyfer cwblhau’r adroddiad

Y bwriad gwreiddiol oedd y câi’r adroddiad gwerthuso terfynol o’r effaith ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn Mawrth 2017. Er hynny, yn sgil cais gan y tîm gwerthuso, rwyf wedi cytuno i newid y dyddiad ar gyfer cyflwyno’r adroddiad i fis Medi 2017. Mae’n debygol y bydd unrhyw gasgliadau ynghylch yr effaith yn dal yn amhendant bryd hynny - a bydd angen parhau i fonitro data am roddwyr NHSBT - ond bydd hyn yn rhoi arwydd cynnar cliriach o effaith y Ddeddf. Nid oes unrhyw gost ychwanegol ynghlwm wrth y dewis hwn.